Jump to content
Sesiwn gwybodaeth ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr: ‘Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol’ (AWIF) a chymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Iechyd a gofal cymdeithasol
Digwyddiad

Sesiwn gwybodaeth ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr: ‘Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol’ (AWIF) a chymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Iechyd a gofal cymdeithasol

Dyddiad
15 Hydref 2025, 10am i 3pm
Lleoliad
Caerdydd
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r sesiwn hon yn gyfle i reolwyr a chyflogwyr ddysgu mwy am:

  • y Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol
  • Lefel 4 paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • Lefel 4 ymarfer proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • Lefel 5 arwain a rheoli iechyd a gofal cymdeithasol: ymarfer.

Bydd mynychwyr hefyd yn dysgu sut i ddarparu cymorth i weithwyr wrth iddyn nhw gyflawni eu cymwysterau.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a phobl sy’n darparu cymorth i weithwyr wrth iddyn nhw gyflawni eu cymwysterau.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • esbonio beth yw’r cymwysterau, pwy maen nhw ar gyfer, beth maen nhw’n cynnwys a sut maen nhw’n cael eu hasesu
  • esbonio beth yw’r AWIF, pwy ddylai ei gyflawni, beth mae’n cynnwys a’r adnoddau sydd ar gael
  • edrych ar sut mae’r AWIF yn cysylltu â’r cymwysterau eraill, a sut i’w ddefnyddio i gynorthwyo cofrestru rheolwyr gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
  • archwilio ‘llwybrau hyblyg’ gwahanol sydd ar gael i bobl gofrestru fel rheolwr
  • clywed gan bobl yn y sector sydd â phrofiad o’r cymwysterau hyn neu’r AWIF.

Hoffwn hefyd glywed am eich profiadau chi o gael mynediad i, a chyflawni’r AWIF a chymwysterau eraill.