Jump to content
Gweminar: defnyddio arweinyddiaeth dosturiol sy’n ystyriol o drawma mewn gwasanaethau gofal preswyl i blant
Digwyddiad

Gweminar: defnyddio arweinyddiaeth dosturiol sy’n ystyriol o drawma mewn gwasanaethau gofal preswyl i blant

Dyddiad
15 Mai 2025, 1.30pm i 3.30pm
Lleoliad
Ar-lein (Microsoft Teams)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru gyda Straen Trawmatig Cymru a Gwasanaeth Ymlyniad Gwent

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r weminar hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant mewn gofal preswyl a allai fod wedi profi trawma, gan gynnwys:

  • pobl sy'n datblygu gwasanaethau preswyl i blant
  • rheolwyr preswyl i blant
  • gweithwyr preswyl i blant
  • pobl sy'n cefnogi plant a phobl ifanc mewn lleoliadau preswyl
  • pobl sy'n cefnogi'r gweithlu mewn lleoliadau preswyl i blant.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • esbonio beth yw lleoliad gofal preswyl sy'n canolbwyntio ar berthynas ac yn ystyriol o drawma
  • esbonio sut y gall arweinyddiaeth dosturiol eich helpu i greu lleoliad â diwylliant cadarnhaol a llesiant da i staff
  • esbonio pam ei bod yn bwysig i staff barhau i ddysgu a datblygu sgiliau
  • esbonio sut i sefydlu systemau sy'n eich helpu i barhau i weithio fel hyn.

Am y cyflwynydd

Dr Lynn McDonnell, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac Arweinydd
Gwent Attachment Service

Mae’r Gwent Attachment Service yn wasanaeth seicoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’n gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc sydd â hanes o ymlyniadau amharedig a thrawma datblygiadol.

Mae'r gwasanaeth wedi gweithio'n sylweddol gyda phob un o'r pum awdurdod lleol yng Ngwent. Mae’n canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant a datblygiad sgiliau effeithiol i weithwyr rheng flaen, ac uwch arweinwyr, i greu systemau sy’n seiliedig ar drawma.

Archebwch eich lle

I gael rhagor o wybodaeth am y gweminar hwn, e-bostiwch: gofalpreswylplant@gofalcymdeithasol.cymru