Jump to content
Gweithdy i ymarferwyr: deall ADHD yn y blynyddoedd cynnar
Digwyddiad

Gweithdy i ymarferwyr: deall ADHD yn y blynyddoedd cynnar

Dyddiad
14 Mai 2025, 10am i 11.10am
Lleoliad
Ar-lein (Zoom)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r sesiwn hon yn gyfle i ddysgu mwy am ADHD yn y blynyddoedd cynnar a sut i gefnogi plant ag ADHD a’u teuluoedd.

Bydd angen i chi gwblhau modiwl e-ddysgu gyda Niwrowahaniaeth Cymru cyn i chi fynychu’r cwrs. Byddwn yn rhannu manylion y modiwl unwaith i chi archebu eich lle ar gyfer y sesiwn.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer ymarferwyr, aseswyr, tiwtoriaid a myfyrwyr sy’n gweithio yn y sector gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwch yn:

  • dysgu beth yw ADHD
  • dod yn fwy hyderus wrth adnabod niwrowahaniaeth sy’n dod i’r amlwg
  • dysgu strategaethau ymarferol i gefnogi plant ag ADHD
  • ystyried sut i greu amgylchedd er mwyn cefnogi plant ag ADHD a’u teuluoedd
  • darganfod adnoddau newydd i’ch helpu yn eich ymarfer.