Jump to content
Gweithdy i reolwyr: deall ADHD yn y blynyddoedd cynnar
Digwyddiad

Gweithdy i reolwyr: deall ADHD yn y blynyddoedd cynnar

Dyddiad
20 Mai 2025, 10am i 11.10am
Lleoliad
Ar-lein (Zoom)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i greu amgylchedd cynhwysol sy’n diwallu anghenion plant â niwroamrywiaeth sy’n dod i’r amlwg a gweithwyr niwroamrywiol.

Bydd angen i chi gwblhau modiwl e-ddysgu gyda Niwrowahaniaeth Cymru cyn i chi fynychu’r cwrs. Byddwn yn rhannu manylion y modiwl unwaith i chi archebu eich lle ar gyfer y sesiwn. 

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer rheolwyr, aseswyr a thiwtoriaid, yn ogystal â myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau rheoli.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwch yn: 

  • dysgu beth yw ADHD 
  • adnabod cryfderau gweithwyr niwroamrywiol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar 
  • dysgu strategaethau ymarferol i gefnogi gweithwyr ag ADHD a gweithwyr niwroamrywiol
  • dysgu am bolisïau cynhwysol i gefnogi recriwtio, cadw a chefnogaeth i weithwyr
  • darganfod adnoddau newydd a rhannu’ch profiadau gyda rheolwyr eraill.