Jump to content
Gweithdy: cyflwyniad i arweinyddiaeth dosturiol
Digwyddiad

Gweithdy: cyflwyniad i arweinyddiaeth dosturiol

Dyddiad
15 Hydref 2025 i 9 Gorffennaf 2025, 1pm i 4pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar wella canlyniadau, llesiant staff a diwylliant sefydliadol trwy dosturi.

Os ydych yn gofrestredig gyda ni, bydd y sesiwn hon yn cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r gweithdy hwn yn deilwredig i’r rhai sydd heb lawer o wybodaeth flaenorol ar arweinyddiaeth dosturiol. Nid oes angen i fynychwyr fod mewn rôl arwain i fynychu.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • dysgu am egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol
  • deall y gwahaniaeth gall arweinyddiaeth dosturiol wneud
  • trafod ffyrdd ymarferol gallwch ddefnyddio egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol.