Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) yn amlinellu’r wybodaeth, sgiliau ac ymddygiad rydych chi angen fel gweithiwr yn y sectorau gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Mae’r NOS yn cael eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfoes ac yn cynnwys yr holl sgiliau a’r wybodaeth rydych chi eu hangen yn eich rôl.
Mae’r gweithdai hyn yn gyfle i chi ymgysylltu â’r adolygiad NOS a rhannu’ch barn.