Jump to content
Dod o hyd i’r cymorth cywir: sesiynau galw heibio gyda thimau gwella Gofal Cymdeithasol Cymru
Digwyddiad

Dod o hyd i’r cymorth cywir: sesiynau galw heibio gyda thimau gwella Gofal Cymdeithasol Cymru

Dyddiad
27 Tachwedd 2024 i 5 Rhagfyr 2024, 10am i 4pm
Lleoliad
Ar-lein, trwy Zoom
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Dewch i ddarganfod sut gallwn ni eich cefnogi i ddatblygu a gwella eich ymarfer a’r gwasanaethau rydych chi’n eu darparu.

Yn y sesiynau galw heibio anffurfiol hyn, bydd staff o’n cyfarwyddiaeth gwella a datblygu wrth law i drafod y cymorth maen nhw'n ei gynnig a’ch cyfeirio at ffynonellau cymorth eraill yn y sefydliad.

I bwy mae'r sesiynau hyn

Mae’r sesiynau hyn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac sydd â diddordeb yn y cymorth rydyn ni’n ei gynnig i ddatblygu a gwella ymarfer a gwasanaethau.

Efallai bod gennych chi broblem neu syniad penodol hoffech chi gael cymorth ag ef, ond ddim yn gwybod pa un o’n gwasanaethau sy’n iawn i chi. Neu efallai hoffech chi gael gwybod mwy am gynnig cymorth penodol.

Gall ein staff eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth rydych chi’n chwilio amdano.

Cynnwys y sesiynau

Yn ystod y sesiynau hyn byddwch yn cael cyfle i gwrdd â staff o’n timau arweinyddiaeth dosturiol, anogaeth arloesedd a symudedd gwybodaeth.

Bydden nhw’n ateb eich cwestiynau am y gefnogaeth mae eu timau’n ei chynnig, ac yn eich cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael gan dimau eraill.

Mae croeso i chi ymuno ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn.

Arweinyddiaeth dosturiol

Mae ein tîm arweinyddiaeth dosturiol yn agor y drws i unrhyw un ym maes gofal cymdeithasol sydd am ddechrau neu barhau ar eu taith arweinyddiaeth. Mae’n cynnig hyfforddiant ac adnoddau i’ch helpu i ddechrau, a chymorth wedi’i deilwra i’ch helpu i gyrraedd eich nodau.

Anogaeth arloesedd

Fe wnaethon ni greu ein gwasanaeth anogaeth arloesedd i helpu i arwain a chefnogi’r arloesedd sy’n digwydd ar draws gofal cymdeithasol i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio. Mae'n rhoi mynediad i chi at dîm o anogwyr sy'n eich helpu i ddatblygu eich syniadau i wella arfer, prosesau, gwasanaethau a chanlyniadau.

Symudedd gwybodaeth

Mae'r tîm symudedd gwybodaeth yn cefnogi'r sector gofal cymdeithasol i ddatblygu arfer wedi'i gyfoethogi gan dystiolaeth. Mae hyn yn golygu rhannu gwybodaeth, cefnogi mynediad at dystiolaeth ymchwil, hyrwyddo cyfleoedd dysgu, adeiladu rhwydweithiau, a chefnogi cydweithio.

Dyddiadau

  • 27 Tachwedd, 10am i 12pm
  • 29 Tachwedd, 10am i 12pm
  • 2 Rhagfyr, 1pm i 4pm
  • 5 Rhagfyr, 1pm i 4pm

Cofrestrwch am sesiwn

Os byddwch chi'n cofrestru ymlaen llaw, byddwn ni mewn cysylltiad i ofyn pa sesiwn hoffech chi ei mynychu. Ond gallwch chi hefyd gofrestru yn ystod y sesiynau, a byddwn ni'n anfon y ddolen Zoom atoch cyn gynted â phosibl.

Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn Saesneg. Os hoffech chi gael sgwrs yn Gymraeg am y cymorth rydyn ni’n ei gynnig, anfonwch e-bost at rob.callaghan@gofalcymdeithasol.cymru a byddwn ni’n trefnu dyddiad ac amser sy’n addas i chi.