Rydyn ni’n falch o gynnig sesiwn arall am ddim i gefnogi ein harweinwyr a'n rheolwyr blynyddoedd cynnar. Bydd siaradwyr o Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhannu eu profiadau a'u cyngor.
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad hwn
- arweinwyr a rheolwyr timau mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant
- dysgwyr sy'n ymgymryd â’r cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
- aseswyr a thiwtoriaid.
Cynnwys y sesiwn
- goruchwyliaeth a llesiant
- sgyrsiau ‘beth sy’n bwysig’ yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant
Mwy am y sesiynau
Gweithio gyda chryfderau i ddeall "beth sy'n bwysig" – gwella canlyniadau i blant a theuluoedd
Trosolwg: Mae'r gweithdy rhyngweithiol hwn yn cyflwyno ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau fel dull pwerus o wella canlyniadau i blant a'u teuluoedd/gofalwyr. Trwy ganolbwyntio ar "beth sy'n bwysig" i'r rhai rydyn ni'n eu cefnogi, gall ymarferwyr feithrin ymgysylltiad dyfnach, gwella llesiant, a chyfrannu at wella gwasanaethau.
Bydd y gweithdy yn:
- archwilio egwyddorion ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a'i berthnasedd mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant
- eich helpu chi ddeall sut y gall dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau wella goruchwyliaeth, cefnogi llesiant staff, a chryfhau deinameg tîm
- trafod y cysyniad o sgyrsiau "beth sy'n bwysig" a sut y gallant lywio gwasanaethau mwy ymatebol ac effeithiol
- cyflwyno adnoddau ymarferol, gan gynnwys modiwlau e-ddysgu a fideos, sy'n cefnogi'r gwaith o weithredu ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.
Ar ôl cyflwyno ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a’r sgyrsiau "beth sy'n bwysig", bydd ail ran y sesiwn yn adeiladu ar y sgyrsiau hyn. Bydd yn canolbwyntio ar sut y gellir defnyddio goruchwyliaeth fel offeryn cefnogol i hyrwyddo llesiant staff. Byddwn yn trafod sut mae cysylltu dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau gyda goruchwyliaeth effeithiol yn creu diwylliant cadarnhaol sydd o fudd i ymarferwyr ac i’r plant a'r teuluoedd y maen nhw'n eu cefnogi.
Bydd y sesiwn hefyd yn archwilio dulliau o oruchwylio a all dynnu sylw at unrhyw anghenion cymorth neu lesiant staff yn effeithiol.
Goruchwyliaeth a'i rôl wrth gefnogi llesiant staff
Pwrpas y gweithdy yw:
- rhoi trosolwg o beth yw llesiant yn y gwaith, a sut mae perthnasoedd, cyfathrebu a chysylltiad yn sail i lesiant yn y gweithle
- ystyried beth sy'n effeithio ar lesiant pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
- archwilio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'w defnyddio mewn sesiwn oruchwylio a all gefnogi llesiant staff yn effeithiol.
- rhannu adnoddau a thempledi a fydd yn galluogi ffocws ar lesiant mewn sgyrsiau goruchwylio.
Cyflwynwyr
Kate Newman, Gofal Cymdeithasol Cymru
Kate yw Swyddog Datblygu Iechyd a Llesiant Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae rôl Kate yn cynnwys rhannu gwybodaeth am beth mae llesiant yn y gwaith yn ei olygu, pam ei fod yn bwysig a sut y gallwn wneud gwahaniaeth i gefnogi llesiant yn y gwaith.
Cyn gweithio i Ofal Cymdeithasol Cymru, roedd Kate yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector mewn rolau oedd yn cynnwys datblygu iechyd cymunedol, comisiynu iechyd cyhoeddus, partneriaethau a pherthnasoedd.
Jay Goulding, Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Jay yn swyddog ymgysylltu a datblygu yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, lle mae'n helpu sefydliadau i fabwysiadu ac ymgorffori arferion sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gynnwys y rhaglen gyfathrebu gydweithredol.
Ers cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol yn 2003 a hyfforddiant diweddarach mewn therapi teulu systemig, mae Jay wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol a rheolwr perfformiad a datblygu ar gyfer timau amlddisgyblaethol, gan gynnwys tîm cymorth teulu integredig.
Yn ei rôl bresennol, mae Jay yn hyrwyddo gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd ymarfer tosturiol, cydweithredol, gan sicrhau bod gan ddinasyddion "llais, dewis a rheolaeth." Trwy hyrwyddo dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau ac arweinyddiaeth dosturiol, mae'n cefnogi sefydliadau i feithrin diwylliannau cadarnhaol sy'n gwella llesiant y gweithlu ac yn gwella canlyniadau i bawb.