Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddeall y Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr a sut mae’n effeithio gofalwyr di-dâl yn eich gweithle.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yng ngofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar ac sydd eisiau dysgu mwy am y Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr.
Cynnwys y sesiwn
Yn y sesiwn hon, byddwch yn:
- dysgu beth mae gofalwyr di-dâl angen yn y gweithle
- dechrau sgwrs am ofalu
- clywed sut mae’r Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr yn effeithio’ch sefydliad a’ch polisïau
- darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael gan Carers Wales.