Jump to content
Jolyon Evans
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal preswyl i blant
Canlyniad
Diddymu trwy Gytundeb
Lleoliad
N/A
Cyflogwr
Gynt New Reflexions Care
Math o wrandawiad
Ni gynhelir panel gan Bwyllgor -  proses Diddymu trwy Gytundeb

Crynodeb o'r penderfyniad

Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod unigolyn cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.

Mae’r penderfyniad i gytuno’r cais yn cael ei wneud mewn Cynhadledd Achos. Medrai unigolyn cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.

Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan yr unigolyn cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.

I benderfynnu os dylid dderbyn cais fe fydd y Gofal Cymdeithasol Cymru yn ystyried os fod yr honiadau yn ymwneud â materion er budd y cyhoedd.

Cyflwyniad

1. Mae Mr Jolyon Mervyn Evans ('Mr Evans'), yr unigolyn cofrestredig, wedi'i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) fel Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant.

2. Cofrestrodd Mr Evans fel Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant am y tro cyntaf ar 15 Awst 2019. Fe'i cyflogwyd gan New Reflexions Care.

3. Ar 27 Mai 2020, atgyfeiriwyd Mr Evans at GCC gan ei gyflogwr. Nododd yr atgyfeiriad fod Mr Evans wedi cael ei ddiswyddo mewn perthynas â honiadau ei fod wedi ysmygu cyffur anghyfreithlon, sef canabis, pan oedd ar ddyletswydd ar 5 Mai 2020 ac ar ddau achlysur cynharach. Crynhoir yr honiadau hyn isod:

Honiadau

Eich bod chi, tra roeddech wedi’ch cofrestru fel Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant ac wedi'ch cyflogi gan New Reflexions Care:

(1) Ar 5 Mai 2020, wedi ysmygu canabis tra roeddech ar ddyletswydd

4. Yn hwyr nos Fawrth 5 Mai 2020, daeth dau aelod staff uwch ar draws Mr Evans a gweithiwr cofrestredig arall yn ysmygu cyffuriau anghyfreithlon (canabis) yng ngardd y cartref tra roeddent yn y gwaith. Yn dilyn galwad i'r rheolwr "ar alwad", gofynnwyd i Mr Evans a'r aelod staff arall adael y cartref bryd hynny.

5. Ar 6 Mai 2020, cysylltodd Fiona Pearce, Rheolwr Adnoddau Dynol, New Reflexions Care, â Mr Evans a'i hysbysu ei fod yn cael ei atal dros dro tra cynhelir ymchwiliad.

6. Gwahoddwyd Mr Evans wedyn i fynychu cyfarfod ymchwilio ar 14 Mai 2020, a fynychodd dros y ffôn. Mae copi o gofnodion y cyfarfod hwn wedi'u hatodi i'r datganiad hwn.

7. Yn ystod y cyfarfod ar 14 Mai 2020, cyfaddefodd Mr Evans ei fod wedi ysmygu canabis yn y cartref ar 5 Mai 2020. Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu ei fod yn dderbyniol ysmygu marijuana yn y gwaith. Atebodd Mr Evans, "Na. Rydw i'n teimlo, yn fy mhen fy hun, nad oeddwn i'n dod i ben â'r cyfnod clo cystal ag yr oeddwn i'n meddwl. Rydw i'n gwybod fy mod wedi teimlo'n bryderus eto yn ystod y cyfnod clo ac mae'n rhyddhad mawr i beidio â gweithio yn y swydd honno nawr.”

8. Dywedodd Mr Evans ei fod wedi dod â'r canabis i'r gwaith gydag ef a'i fod yn gwybod bod gwneud hyn yn annerbyniol.

(2) Ar ddau ddyddiad anhysbys cyn 5 Mai 2020, wedi ysmygu canabis tra roedd ar ddyletswydd

9. Yn ystod y cyfarfod ar 14 Mai 2020, cyfaddefodd Mr Evans hefyd ei fod wedi ysmygu canabis ar ddau achlysur blaenorol ers i gyfyngiadau COVID 19 gychwyn, ond nad oedd yn gallu nodi'r union ddyddiadau pan oedd wedi gwneud hynny.

10. Yn dilyn gwrandawiad disgyblu ar 22 Mai 2020, cafodd Mr Evans ei ddiswyddo yn y fan a'r lle am gamymddwyn difrifol.

11. Mae Mr Evans yn cyfaddef y ffeithiau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn. Mae Mr Evans yn cyfaddef hefyd fod ei ymddygiad ym mhob un o'r honiadau yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

12. Mae Mr Evans yn cadarnhau nad yw'n bwriadu gweithio yn y dyfodol mewn unrhyw swydd a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei gofrestru gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Os bydd cais o'r fath yn cael ei wneud wedi hynny, mae Mr Evans yn cydnabod y bydd GCC, wrth ystyried y cais, yn cyfeirio at gynnwys y datganiad hwn.

Diddymu o’r Gofrestr