Byddai'r uwch ymarferydd yn ysgwyddo cyfrifoldebau arbenigol neu ychwanegol yn y ddarpariaeth. Mae’n bosibl y byddai’r uwch ymarferydd hefyd yn gweithredu ar ran y rheolwr pan na fyddai'n bresennol. Y dirprwy reolwr fyddai’n gyfrifol am ddirprwyo ar ran y rheolwr i bennu’r cyfeiriad a threfnu bod y lleoliad/darpariaeth yn cael ei rhedeg yn effeithiol. Mae’n bosibl mai’r dirprwy reolwr fyddai’r “person â chyfrifoldeb”.
Os oes gennych chi ymholiad am gymwysterau gofal plant a’r blynyddoedd cynnar, anfonwch e-bost atom yn eycc@socialcare.wales gan nodi teitl y cymhwyster, lle y cafwyd y cymhwyster, rôl y swydd a’r math o leoliad y mae’r rôl ar ei gyfer.