Mae’r adroddiad blynyddol yma yn nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Cyflawni'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2025.

Mae’r cynllun cyflawni yn cynnwys camau gweithredu i’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ganolbwyntio arnynt o 2024 i 2027 i ymdrin â'r heriau y mae'n eu hwynebu. Mae'n cynrychioli ail gam y strtegaeth wreiddiol: Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a lansiwyd yn mis Hydref 2020.
Datblygwyd y cynllun cyflawni yn dilyn ymgysylltiad helaeth ar draws y sector.
Mae’n tynnu sylw at gyflawniadau ar draws saith thema y strategaeth weithlu a’r tri egwyddor sylfaenol - llesiant, y Gymraeg a chynhwysiant. Mae hefyd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer gwelliant parhaus yn y blynyddoedd i ddod.
Ar gyfer pob thema rydyn ni wedi crynhoi:
- ein huchelgais
- y wybodaeth ddiweddaraf am fesurau sy'n canolbwyntio ar effaith
- y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar y camau gweithredu
- y camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd yn y dyfodol.
Rydyn ni hefyd wedi tynnu sylw at gynnydd lle bo'n berthnasol i gynlluniau penodol y gweithlu ar gyfer:
- y proffesiwn gwaith cymdeithasol
- y gweithlu iechyd meddwl, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ynghyd â'r cynllun gweithredu cysylltiedig.
Mae'r adroddiad yn adlewyrchu cyflawniad ar y cyd rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru, partneriaid cenedlaethol a'r sector gofal cymdeithasol gyfan, i adeiladu gweithlu gofal cymdeithasol brwdfrydig, ymgysylltiedig a gwerthfawr, sydd â'r gallu, y cymhwysedd a'r hyder i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl Cymru
Mae’r cynllun cyflawni yn cael ei fonitro gan y Grŵp Gweithredu Strategol, sy'n cynnwys partneriaid cenedlaethol. Rydyn ni’n cydweithio a gwneud penderfyniadau i weithio tuag at uchelgeisiau y strategaeth gweithlu. Mae'r grŵp yn cael ei gyd-gadeirio gan ein prif weithredwr Sarah McCarty a Taryn Stephens, Dirprwy Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru yn Llywodraeth Cymru.
Fel sefydliad, rydym wedi bod yn ystyried yn fanylach dros y flwyddyn ddiwethaf sut y gallwn wella’r dull o werthuso a mesur effaith ein gwaith, gan ystyried gwybodaeth ansoddol a meintiol. O ran effaith, o fewn yr adroddiad blynyddol rydym yn:
- darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau’r cynllun cyflawni gyda ffocws ar effaith,
- cynnwys data ansoddol a meintiol a lluniau sy’n tynnu sylw at yr effaith ar gyfer gwahanol feysydd gwaith a’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn.
Mae’r mwyafrif, os nad pob un, o’r gwaith wedi’i seilio ar bartneriaethau cryfion a cadarn ar draws y sector, fel bod atebion yn cael eu cyd-gynhyrchu, gan greu ymdeimlad o berchnogaeth yn y sector oherwydd eu cyfraniad nhw.
Llesiant
- Mynychodd dros 570 o bobl sesiynau llesiant yn ystod y flwyddyn.
- Cyhoeddwyd dros 8,000 o Gardiau Gweithwyr Gofal newydd.
- Mwy o ddefnydd ac ymwybyddiaeth o fframwaith “Mae Eich Llesiant yn Bwysig”.
- Parhau i hyrwyddo’r gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ‘Canopi.’
Iaith Gymraeg
- Cofrestrodd dros 800 o ddysgwyr ar gwrs iaith Gymraeg Camau.
- Derbyniodd Gwobr Gofalu yn y Gymraeg dros 5,200 o bleidleisiau cyhoeddus - dwbl y flwyddyn flaenorol.
- Daeth cynllun peilot llwyddiannus i gefnogi cyflogwyr i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ar gael i bob darparwr.
Cynhwysiant
- Comisiynwyd ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth i lywio datblygiad rhaglen beilot newydd i gefnogi datblygu arweinyddiaeth ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Casglwyd a dadansoddwyd data’r flwyddyn gyntaf ar gyfer Safon Cydraddoldeb Hiliol y Gweithlu (WRES).
- Datblygwyd adnodd ar-lein sy'n dod ag adnoddau ynghyd mewn un lle i gefnogi cyflogwyr gweithwyr a gweithwyr sy'n newydd i Gymru.
Gweithlu sy’n ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach
- Mynychodd dros 300 o bobl yr Wythnos Llesiant gyntaf erioed a chafwyd adborth cadarnhaol iawn gan ddweud eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd a defnyddiol.
- Cynnydd a wnaed wrth hyrwyddo gwaith teg a chydnabyddiaeth gan gynnwys:
- Mae Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yn gwneud cynnydd wrth ddatblygu fframwaith cyflog a chynnydd ar gyfer gweithwyr gofal
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLLC) yn arwain adolygiad i delerau ac amodau cyson ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.
- Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Chyngres yr Undebau Llafur (TUC) ac Unison, yn datblygu canllaw pwrpasol i helpu comisiynwyr a chyflogwyr i ddeall a chymhwyso egwyddorion gwaith teg
- Derbyniodd arolwg Dweud Eich Dweud 2025 nifer record o 5,707 o ymatebion, wnaeth roi cipolwg cyfoethog ar brofiadau’r gweithlu.
Denu a recriwtio :
- Cyrhaeddodd ymgyrchoedd cenedlaethol filiynau, gan gynnwys ymgyrchoedd wedi'u targedu ar gyfer gofal preswyl i blant, gofal cartref ac ail-alluogi, gwaith cymdeithasol a phrentisiaethau.
- Cwblhaodd dros 800 o bobl y rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol ac roedd cynigion ymgysylltu newydd yn cynnwys gwe-seminarau 'Get Into' yn archwilio rolau gofal penodol.
- Comisiynwyd astudiaeth ymchwil fawr i ddeall rôl gwirfoddolwyr mewn gofal cymdeithasol.
Modelau gweithlu di-dor:
- Arweiniodd Llywodraeth Cymru gyfnod ymgysylltu cenedlaethol i lunio'r Strategaeth Ymarfer Amlasiantaeth Genedlaethol ar gyfer Plant.
- Lansiwyd Prosiect y Coleg Adferiad Cenedlaethol o dan y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol.
- Parhaodd y gwaith cydweithredol mewn byrddau gweithlu rhanbarthol a byrddau partneriaeth.
Adeiladu gweithlu sy'n barod yn ddigidol :
- Lansiwyd offeryn potensial digidol newydd a gynhyrchwyd ar y cyd, a defnyddiwyd gan dros 1,200 o bobl .
- Dangoswyd enghreifftiau go iawn o arloesedd digidol ar draws lleoliadau gofal yng Nghymru drwy’r chwiliwr prosiectau.
- Cyflwynwyd gweithdai Hyrwyddwr Digidol mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru, gan helpu staff i feithrin hyder a chefnogi eu timau i ddefnyddio technoleg yn effeithiol.
Addysg a dysgu rhagorol :
- Parhaodd Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP) i gefnogi datblygu'r gweithlu ac am y tro cyntaf, cyhoeddwyd adroddiad tueddiadau a themâu diwedd blwyddyn.
- Cynhaliwyd sesiynau hyfforddi ac ymgysylltu amrywiol i gefnogi cyflogwyr ac addysgwyr gyda llwybrau cymwysterau, llwybrau asesu cyflogwyr, ac arferion gorau mewn datblygu'r gweithlu.
- Cwblhaodd dros 3,200 o brentisiaid gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol, o'i gymharu â 2,300 y flwyddyn flaenorol.
Arweinyddiaeth ac olyniaeth :
- Cyrhaeddodd hyfforddiant arweinyddiaeth dosturiol dros 200 o bobl a mynychodd dros 1,400 o bobl y tudalennau gwe arweinyddiaeth dosturiol newydd.
- Cwblhawyd a gwerthuswyd y rhaglen beilot ar gyfer y Rhaglen Rheolwyr Canol Uchelgeisiol, ac mae'r rhaglen bellach ar gael yn genedlaethol.
- Arweiniodd ymgysylltu â'r sector i nodi galluogwyr a rhwystrau i ddiwylliannau cadarnhaol yn y gweithle at ddatblygu canllaw diwylliannau cadarnhaol.
Cyflenwad a siâp y gweithlu :
- Darparwyd rhaglen gynhwysfawr o gymorth i awdurdodau lleol i gryfhau eu gallu i gynllunio'r gweithlu.
- Comisiynwyd asesiad aeddfedrwydd data annibynnol o bob awdurdod lleol yng Nghymru a chyhoeddwyd canfyddiadau'r adroddiad.
- Lansiodd Llywodraeth Cymru’r Swyddfa Genedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth a’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth.
Edrych ymlaen
Mae'r adroddiad yn amlinellu'r camau gweithredu allweddol a fydd yn cael eu datblygu rhwng 2025 a 2026, gan gynnwys:
- darparu canllawiau ynghylch pwrpas, swyddogaeth a manteision pwyllgorau diogelwch sefydliadol sy'n mynd i'r afael â phob agwedd ar ddiogelwch yn y gweithle, gan gynnwys llesiant.
- datblygu hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth.
- datblygu fframwaith cadw staff ac offer i gefnogi cadw staff.
- datblygu cynllun gweithredu yn seiliedig ar ganlyniadau'r offeryn potensial digidol.
- ymgorffori egwyddorion diwylliant tosturiol a chadarnhaol yn y Cod Ymarfer wedi'i ddiweddaru ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.