Ysbyty Bryn Beryl
Hafan
MORGAN:
[00:00:16] Y peth dwi’n cofio’r mwyaf ydy mynd i Bryn Beryl i’r Ward Hafan.
[00:00:25] Ro’n i’n mwynhau fatha gallu chwarae gemau a phethau fel ’na hefo’r bobl oedd efo dementia i ddod i nabod nhw’n fwy.
CHERYL WILLIAMS:
[00:00:31] Mae’n bwysig bod plant yn dod i ddeall ychydig bach mwy am ddementia fel bod dan ni’n creu cymunedau sy’n deall dementia o’r cychwyn cyntaf.
[00:00:44] Ac fel mae plant yn deall mwy am y cyflwr, maen nhw wedyn yn gallu mwy goddefgar efo pobl sydd yn byw efo dementia yn eu cymunedau eu hunain.
[00:00:55] Prosiect Anti Glenda
CHERYL WILLIAMS:
[00:00:58] Neu atgof neu sgil. Dach chi’n gwybod, dach chi wedi sgwennu yn fanna rŵan, bob dim mae’r ymennydd yn helpu inni ei wneud, wel mae bob un o’r goleuadau yma yn cynrychioli rhywbeth felly, a be mae dementia…
MORGAN:
[00:01:13] Roedd pawb yn y dosbarth yn cael cerdyn oedd efo job dach chi arfer wneud mewn diwrnod,
[00:01:17] ac wedyn oedd hi efo gwlân coch ac ro’n hi’n cysylltu nhw i bob un job.
[00:01:23] Ac wedyn pan dach chi’n dod fwy efo dementia, mae’n cael ei dorri ac wedyn maen nhw’n anghofio pethau.
[00:01:29] Ella maen nhw’n anghofio mynd i frwsio dannedd a bod nhw’n mynd syth i wneud rhywbeth arall.
CELT:
[00:01:38] Pan roeddech chi’n torri un llinyn oedd fatha rhywbeth yn mynd o’ch cof.
CHERYL WILLIAMS:
[00:01:43] So fel dan ni’n mynd yn hŷn, nid pawb fydd yn cael dementia. Dydi o ddim yn rhan naturiol o fynd yn hŷn.
[00:01:52] Wel, wnaeth Ffrindiau Dementia gychwyn yn 2014 ac mae’n dod o dan adain Cymdeithas Alzheimer. [00:02:01] Mae’n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth fel rhan o ymgyrch i gael cymunedau sydd yn fwy goddefgar o bobl sydd yn byw efo dementia.
[00:02:12] Be dach chi’n weld yn y llun yna?
BECHGYN:
Dau berson yn siarad.
CHERYL WILLIAMS:
[00:02:15] Dau berson yn siarad. Be arall gelli di weld ynddo fo?
[00:02:20] Siâp cwpan ynddo fo, on’d oes? Siâp gwahanol, be dan ni’n gweld yn fanno.
[00:02:28] Mae’n gyfle i gychwyn y sgwrs am ddementia fel bod ni’n trio cael gwared â’r stigma a’r ofn sy’n gysylltiedig â fo hefyd,
[00:02:39] a trwy gael Ffrindiau Dementia mae pobl yn gallu deall ychydig bach mwy am y cyflwr, am yr afiechyd, ac yn fod yn fwy cefnogol i bobl sydd yn byw efo dementia.
[00:02:52] Tri deg, dau ddeg, i fyny at deg oed, pwy sy’n cofio ei diwrnod cyntaf yn ysgol?
MERCH:
[00:02:57] Diwrnod cyntaf fi yn yr ysgol yma, dwi’n cofio eistedd ar y mat a trio cofio enwau pawb.
CHERYL WILLIAMS:
[00:03:02] Trio cofio enwau pawb.
FFOTOGRAFFYDD:
[00:03:11] Gwên fawr rŵan, un, dau, tri.
12 Hydref 2016
Hafan
Ysbyty Bryn Beryl
EDWIN HUMPHREYS:
Nyrs Staff, Cydlynydd y Prosiect
[00:03:22] Diolch i chi am ddod. Fan yma dan ni’n gweithio yn Nhŷ Hafan, ynte, ac mae fatha Clwb Dydd ydy o, Clwb Dydd i bobl cael dod o adre os maen nhw eisio dod i mewn i’n gweld ni.
[00:03:35] Ar ôl i Cheryl fod yn yr ysgol, mi gaethon ni diwrnod agored yn Uned Hafan.
[00:03:39] Uned Hafan ydy’r lle dan ni mynd i gyflwyno’r plant i bobl sydd yn dioddef o ddementia.
[00:03:46] Dan ni’n Uned sydd yn cynnal gweithgareddau yma. Gofal dydd dan ni’n cynnig a dan ni’n agored o naw tan bump.
[00:04:05] Ac roedd y plant y cael chwarae gêms efo pobl trwy’r dydd ac yn cael hwyl fawr efo’i gilydd.
[00:04:10] Mi dorrodd hynny’r iâs.
[00:04:11] Oedd y plant yn gallu gweld bod y bobl ’ma ddim mor ddrwg â hynny, felly, a dydyn nhw ddim yn rhyw bobl od iawn, maen nhw’n jest yn bobl fatha chi a fi, ac mi weithiodd hynna’n dda iawn.
MORGAN:
[00:04:33] Oedd pawb efo storîs difyr yna, ynte.
[00:04:55] 16 Tachwedd 2016
MARI IRELAND:
Nyrs ddementia cymunedol
[00:04:59] Doedd gen i ddim syniad be oedd dementia ar y pryd. Dan ni wedi dod yn lot ym mhellach rŵan, do, efo amser? Ac mae lot o bobl yn gwybod am ddementia, dwi’n meddwl, on’d oes?
[00:05:08] Dwi’n gweithio fel nyrs gymunedol yn ne Gwynedd, yn gweithio efo pobl ifanc efo dementia ac wedyn dwi’n nabod Edwin trwy fy ngwaith ac mi gysylltodd o gyda fi er mwyn gwneud gwaith efo’r ysgolion trwy gyfrwng y Gymraeg.
GLENDA ROBERTS:
[00:05:25] Am bod fi’n ifanc, Young Onset Dementia maen nhw’n galw fo, dyna mae pobl oed fi yn cael.
[00:05:33] Ro’n i’n anghofio gyrru cardiau pen-blwydd, ro’n i’n… oedd gennyf i apwyntment ella efo dentist, anghofio mynd i le dentist.
[00:05:44] O, wnes i gael lot o dests ac wedyn wnaethon nhw ffeindio bod gennyf i ddementia.
[00:05:51] A pan oedd hyn yn digwydd ro’n i’n poeni, ro’n i’n poeni lot achos doeddwn i’m yn gwybod be oedd y mater.
[00:05:58] Oeddwn i’n gwybod bod ’na rywbeth y mater ond doeddwn i’m yn gwybod be.
[00:06:04] Ac wedyn pan wnaethon nhw ddweud “Oes, mae gynnoch chi ddementia,” oedd o’n rilîff achos, wel, ro’n i’n gwybod be oedd rhaid i fi wneud, ro’n i’n gwybod be oedd rhaid i fi ddelio hefo.
MATH:
[00:06:20] I gychwyn, oedd hi’n anghofio be oedd pawb eisio, be oedd pawb yn licio i de ac wedyn oedd hi’n cychwyn anghofio pethau mwy pwysig wedyn.
GLENDA ROBERTS
(Anti Glenda):
[00:06:31] Mae byw efo dementia yn anodd. Does ’na’m byd yn hawdd ynddo fo.
[00:06:37] Mae bywyd chi yn newid, ond efo syport y teulu ac mae rhywun yn dweud “Tyrd, fedru di gwneud hwnna,” ac wedyn dwi ddim ’di eistedd yn tŷ, dwi’n cario ’mlaen i fynd.
MARI IRELAND:
[00:06:51] Be oedd yn amlwg iawn o eistedd efo’r plant ar ôl iddyn nhw glywed Glenda yn siarad oedd y gwahaniaeth mawr yn y ffordd oedden nhw’n ymateb i ddementia.
JAC:
[00:07:03] Anghofio enwau ei ffrindiau hi.
MARI IRELAND:
[00:07:08] Amlwg bod nhw wedi gwrando ac wedi cymryd lot o wybodaeth ymlaen, ond be oedd yn rîli rîli hyfryd oedd pan wnaeth un hogan fach ddweud…
GLENDA ROBERTS:
[00:07:18] “Oedd gynno fi ofn dementia ond ’sgyna fi’m ofn rŵan.” Ac mi oedd hynna yn beth braf iawn i’r ddwy ohonom ni.
MARI IRELAND:
[00:07:26] Ac oedd hwnna’r peth gorau sydd wedi gallu dod allan o’r prosiect o ran sut ro’n i’n teimlo amdan be oeddem ni’n gwneud a hefyd sut oedd Glenda yn teimlo, dwi’n credu.
GLENDA ROBERTS:
[00:07:37] Ydw, dwi’n licio gwneud cêcs a phethau, so dwi’n dal i wneud cêcs, dwi’n dal i wneud pob dim fy hun yn tŷ, ond mae Mari yn beth bwysig o fywyd fi a theulu fi.
ATHRAWES:
[00:07:55] Iawn, dyna ni, Glenda [sŵn clapio].
[00:08:08] 23 Tachwedd 2016
PLENTYN:
[00:08:09] Daeth Anni Llŷn i sgwennu cerdd efo ni.
ANNI LLŶN:
[00:08:18] Heddiw, dwi wedi bod yn gwneud gweithdy efo Blwyddyn 6, gweithdy efo geiriau ac roeddwn ni’n creu, sôn am deimladau ac emosiynau a’r ffaith bod gan bawb teimladau;
[00:08:30] mae pawb yn teimlo cymysgedd o deimladau ac emosiynau.
[00:08:36] Felly, be roedd y plant yn wneud oedd trio rhoi pob emosiwn mewn pennill bach.
PLENTYN:
[00:08:42] Gogoneddus.
ANNI LLŶN:
[00:08:43] Gogoneddus!
MORGAN:
[00:08:44] Wnaethon ni gorfod meddwl am deimlad basa pobl efo dementia hefo ac wedyn roeddwn i’n gorfod gwneud cerdd am hynna.
ANNI LLŶN:
[00:08:50] Pwy sydd wedi gorffen? Ocê ’ta.
CELT:
[00:08:53] Dwi’n teimlo’n ddryslyd
Llwyd fel cwmwl
Mae’n digwydd pan dwi’n hitio fy mhen yn y wal
Sŵn plant ar y ffordd yn gweiddi
Siarad
Dryslyd.
ANNI LLŶN:
[00:09:06] Da iawn.
[00:09:07] A’r syniad eu bod nhw’n ystyried bod dim ots beth ydych sefyllfa chi – ella’ch bod chi’n sâl, ella’ch bod chi’n gwbl iach, ella’ch bod chi’n ddi-waith, ella bod ganddoch chi gwaith trwm iawn a bod chi’n brysur iawn –
[00:09:21] beth bynnag ydy’ch sefyllfa chi, mae pawb yn teimlo ac yn trin eu teimladau mewn ffordd wahanol a dyna be sy’n cysylltu pawb. Felly, dyna be wnaethon ni heddiw.
[00:09:31] Dach chi wedi gwneud gwaith gwych a diolch yn fawr iawn am weithio’n galed efo ni y pnawn ’ma.
[00:09:40] 05 Mai 2017
TESS URBANSKA:
Artist
[00:09:49] Wnaethom ni creu’r animations heddiw oedd wedi eu hysbrydoli gan y cerddi roedd y plant wedi sgwennu yn barod efo Anni Llŷn.
MERCH:
[00:09:57] Mae cwmwl hapus yn hedfan i mewn a tua hanner y ffordd mae mynd i fod yn drist achos mae o’n teimlo’n ddryslyd ac mae’n dechrau bwrw ac mae’r geiriau ychydig yn ddryslyd yn rhedeg ar ei ôl o.
MORGAN:
[00:10:28] Mae pob grŵp yn cael pennill ac wedyn roeddan ni’n gorfod gwneud animation i fynd hefo hwnna, ac wedyn, ia, oedd hynna’n ddiddorol iawn a doeddwn i ddim yn gwybod bod ’na gymaint o waith yn gorfod mynd i mewn i animation o blaen, ynte.
MARI IRELAND:
[00:10:42] Y gobaith ydy rŵan dan ni wedi cwblhau’r prosiect yma, ydy bod ysgolion eraill yn cymryd yr awenau ac yn gwneud rhywbeth tebyg yn eu cymunedau nhw, neu yn eu hysgolion nhw, i hybu dementia.
[00:10:56] Unwaith mae plant yn cael dealltwriaeth ac yn dysgu amdan ddementia, y gobaith wedyn bod hwnna’n cael ei gymryd ymlaen i deuluoedd ac i’r cymunedau maen nhw’n byw ynddo er mwyn gwneud bywyd yn well i bobl efo dementia, gwneud cymunedau cyfeillgar a gadael i bobl neu ganiatáu i bobl i fyw yn eu cymunedau am lawer hirach, yn dda ac yn saff.
CELT:
[00:11:23] Dwi’n meddwl bod o’n bwysig dod i wybod sut i drin pobl fela. Dy’ nhw ddim gwahanol iddyn ni. Pobl ydyn nhw hefyd.
MORGAN:
[00:11:31] Dach chi byth y gwybod i bwy mae mynd i ddod. Basa’n gallu dod i rywun.
[00:11:36] Y Cerddi
[00:11:38] Coch fel crys polo’r ysgol
Dwi’n gweld mellten
Dwi’n clywed sŵn trên ar y trac
Dwi’n anhapus
[00:11:50] Glas fel gwely’r môr
Dwi’n gweld dyn eira wedi toddi
Mae’n swnio fel trombôn allan o diwn
Dwi’n teimlo’n siomedig
[00:12:01] Pinc fel pili-pala
Dwi’n gweld Siôn Corn
Dwi’n clywed clychau’n canu
Dwi’n teimlo’n llawen
[00:12:09] Olau fel y machlud
Dwi’n gweld y llawr yn agor
Mae’n swnio fel tân yn clecian
Dwi’n teimlo’n genfigennus
[00:12:15] Gwyrdd fel cae Cymru
Dwi’n gweld tân gwyllt
Dwi’n clywed popcorn yn popio
Dwi’n teimlo’n wych
[00:12:23] Melyn fel blodyn
Dwi’n gweld siocled yn dawnsio
Dwi’n clywed dail yr hydref yn crensian
Dwi’n teimlo’n ogoneddus
[00:12:33] Coch fel cae Cymru
Dwi’n gweld tarw
Dwi’n clywed gweiddi
Dwi’n teimlo’n flin
[00:12:44] Llwyd fel cwmwl
Dwi’n gweld geiriau’n drybowndian
Dwi’n clywed miliynau o leisiau
Dwi’n teimlo’n ddryslyd
[00:12:52] Piws fel clais
Dwi’n gweld dim byd
Mae’n swnio’n fel rhech
Mae gen i gywilydd
[00:12:59] Gwyn fel papur
Dwi’n gweld sêr
Dwi’n clywed llestri yn disgyn ar y llawr
Dwi wedi cael sioc
CELT:
[00:13:11] Yn y dyfodol, fydd ’na’m ffasiwn beth â dementia a gei di ffeindio rhywbeth i osgoi y salwch ac i wella nhw, gobeithio.
Cân
[00:13:20] Diolch ichi Anti Glenda
Dach chi yn wir yn ffrind i ni.
Dysgu inni am ddementia
Diolch yn fawr ichi.
[00:13:45] Diolch ichi Anti Glenda
Dach chi yn wir yn ffrind i ni.
Dysgu inni am ddementia
Diolch yn fawr ichi.
Closing credits
Diolch i
Glenda Roberts
Mari Ireland
Plant a Staff Ysgol Pentreuchaf
Staff a Chriw Uned Hafan
Dr Catrin Hedd Jones
Sean Page
Plant a staff Ysgol Llywelyn
Uned Bryn Hesketh
Jane a David Lawson
Kerry Macdonald
Cheryl Williams
Anni Llŷn
Tess Urbanska
Côr Plant Pant yr Hwch
Edwin a Ceiri Humphreys
Stiwdio Pant yr Hwch