Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau, urddas ac annibyniaeth pobl sy’n byw gyda dementia.
Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia
Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia wedi mabwysiadu egwyddorion y datganiadau dementia isod:
- Mae gennym yr hawl i gael ein hadnabod am bwy ydyn ni, i wneud dewisiadau am ein bywydau gan gynnwys cymryd risgiau, a gallu cyfrannu at gymdeithas. Ni ddylai ein diagnosis ein diffinio ni, ac ni ddylem fod â chywilydd ohono
- Mae gennym hawl i barhau â bywyd o ddydd i ddydd a bywyd teuluol, heb ragfarn neu gost annheg, i gael ein derbyn a’n cynnwys yn ein cymunedau a pheidio â byw mewn unigedd neu unigrwydd
- Mae gennym hawl i gael diagnosis cynnar a chywir, a derbyn gofal a thriniaeth ar sail tystiolaeth, sy’n briodol, tosturiol ac wedi ei hariannu’n iawn, gan bobl sydd wedi eu hyfforddi ac sy’n ein deall ni ac yn deall sut mae dementia’n effeithio arnon ni. Rhaid i hyn ateb ein gofynion, ble bynnag yr ydym yn byw
- Mae gennym hawl i gael ein parchu, a’n cydnabod fel partneriaid mewn gofal, i gael addysg, cymorth, gwasanaethau a hyfforddiant sy’n ein galluogi i gynllunio a gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r dyfodol
- Mae gennym hawl i wybod am ymchwil sy’n edrych ar achos, gwelliant a gofal dementia a phenderfynu a ydym eisiau bod yn rhan ohono a chael ein cynorthwyo i gymryd rhan.
Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru
Bydd Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2014) hefyd yn amddiffyn ac yn gwella hawliau pobl hŷn ledled Cymru ac yn herio rhagfarn drwy’r egwyddorion canlynol.
- Mae hawl gennyf i ddiogelwch a chyfiawnder
- Mae hawl gennyf i fod yn fi fy hun
- Mae hawl gennyf benderfynu ble rwy’n byw, sut rwy’n byw a chyda phwy rwy’n byw
- Mae gennyf i ewyllys rhydd a’r hawl i wneud penderfyniadau am fy mywyd
- Mae hawl gennyf weithio, datblygu, cymryd rhan a chyfrannu
- Mae hawl gennyf i gael fy mharchu
Cefnogi dymuniadau pobl
Cynllunio ar gyfer argyfwng
Mae posibilrwydd y gallai aelodau’r teulu fynd yn sâl ac yn methu â gofalu am berson sy’n byw gyda dementia, felly mae’n bwysig cynllunio ar gyfer hyn.
Gallwch ofyn i aelodau'r teulu lenwi'r daflen fer hon gan Fforwm Partneriaeth Gofal Dementia sy'n egluro beth sydd angen digwydd os ydyn nhw'n mynd yn sâl. Os ydych chi'n weithiwr, cadwch gopi i chi'ch hun a rhowch gopi arall yn rhywle clir, fel ar oergell. Trwy hynny, mae unrhyw un sy'n ymwneud ag unrhyw ofal brys yn glir ynghylch y pethau allweddol y mae angen iddynt eu gwybod am berson. Nid yw hyn yn disodli cynllun gofal na chynllun gofal ymlaen llaw, mae ar gyfer rhannu gwybodaeth hanfodol rhag ofn y bydd argyfwng.
Peidiwch ag anghofio gofyn a yw rhywun wedi cwblhau taflen This is Me.
Protocol Herbert
Efallai yr hoffech atgoffa teuluoedd am Brotocol Herbert. Mae hwn wedi'i gynllunio i gefnogi teuluoedd rhag ofn i'r person y maen nhw'n gofalu amdano fynd ar goll.
Astudiaethau achos am hawliau dynol ac urddas ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia
Adnoddau defnyddiol
Dysgwch fwy am hawliau dynol ac urddas ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia.
Trosolwg o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Trosolwg o'r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) 2016
Testun llawn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Saesneg yn unig)
Testun llawn y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (Saesneg yn unig)
Confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl gydag Anableddau (Saesneg yn unig)
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (Saesneg yn unig)
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.