Jump to content
Trosolwg

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Derbyniodd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) Gydsyniad Brenhinol a daeth yn gyfraith ar 18 Ionawr 2016.

Darllenwch y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Mae fersiwn hawdd ei deall o’r Ddeddf ar gael i’w lawrlwytho ac mae crynodeb o’r Ddeddf ar gyfer pobl ifanc ar gael hefyd.

Mae’r Ddeddf yn adeiladu ar lwyddiant rheoleiddio yng Nghymru ac yn sicrhau bod ansawdd gwasanaethau a gwella yn rhan annatod o’r broses reoleiddio. Mae’n cryfhau trefniadau amddiffyn i’r rhai sydd eu hangen, mae’n sefydlu system reoleiddio sy’n cyd-fynd â Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac yn creu system reoleiddio sy’n canolbwyntio ar bobl sydd angen gofal a chymorth, a’r gweithlu gofal cymdeithasol.

Mae’r Ddeddf yn darparu’r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn:

  • diwygio’r broses o reoleiddio gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy sicrhau bod pobl sy’n derbyn gofal a chymorth yn ganolog i’r broses
  • diwygio’r broses o reoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol
  • ail-enwi Cyngor Gofal Cymru ac Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn Gofal Cymdeithasol Cymru, gan roi pwerau newydd iddynt o fis Ebrill 2017
  • diwygio’r broses o arolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol
  • darparu ymateb cadarn i’r gwersi a ddysgwyd o fethiannau blaenorol yn y system.

Egwyddorion

Mae pum egwyddor yn sail i’r system rheoleiddio ac arolygu newydd:

  • adlewyrchu’r newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • sicrhau bod pobl yn ganolog i’w gofal a’u cymorth
  • datblygu dull Cymreig cydlynol a chyson
  • mynd i’r afael â methiant darparwyr
  • ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i fodelau gwasanaeth newydd ac unrhyw bryderon am ansawdd gofal a chymorth.

Troi’r Bil yn Ddeddf

Dilynwch hynt y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), o’i chyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol ar 23 Chwefror 2015 i bryd daeth hi’n Ddeddf ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016. Yma, cewch weld y Memorandwm Eglurhad, sy’n rhoi esboniad bras o’r ddeddfwriaeth, gan gynnwys y rhannau gwahanol i gyd.

Gorchmynion Dechreuad

Y Gorchymyn Dechreuad diweddaraf o ran y Ddeddf yw'r Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 6, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2019.

O 2 Ebrill 2018 mae hyn i rym darpariaethau hanfodol yn Rhan 1 o'r Ddeddf parthed cofrestru a rheoleiddio cartrefi gofal; llety diogel; canolfanau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth yn y cartref.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ddarparwyr ynglŷn â chofrestru gwasanaethau o dan y Ddeddf.

Bydd ceisiadau i gofrestru'n agor o 1 Chwefror 2018.

Mae'r Gorchymyn Rhif 5 hefyd yn cynnwys manylion am bedwar gorchymyn dechreuad blaenorol:

  • daeth Rhif 1 a adrannau 67, 68, 73(1) a (2) a 75 yn rhannol i rym ar 11 Gorffennaf 2016
  • daeth Rhif 2 a adrannau 185 a atodlen 3 yn rhannol i rym ar 6 Ebrill 2016.
  • daeth Rhif 3, gydag eithriadau cyfyngedig, â Rhannau 2 - 10 o'r Ddeddf i rym 3 Ebrill 2017. Daeth hyn â sustem newydd o reoleiddio'r gweithlu i rym, fel sy'n ofynnol yn ôl y Ddeddf. Daeth hwn â chyfnod 1 o weithredu'r Ddeddf i ben.
  • daeth Rhif 4 ag adrannau 56(1) a (2) o'r Ddeddf i rym o 4 Medi 2017. Ychwanegodd hyn adran 144A i mewn i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n delio gydag adroddiadau blynyddol awdurdodau lleol ar eu swyddogaethau gofal cymdeithasol.

Mae nodyn cyfarwyddyd ar gael ar yr arbedion a darpariaethau trosiannol o fewn gorchymyn 3.

Cyhoeddwyd gyntaf: 2 Mai 2017
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (38.4 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch