Dysgwch fwy am yr hyn mae'r Grŵp Ymgynghorol i'r Gweinidog ar gyfer Gwella Canlyniadau i Blant yn ei wneud i ostwng yn ddiogel y nifer o blant sydd angen gofal arnynt
Pam mae angen i ni leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru mewn modd diogel?
Ym mis Mawrth 2018, roedd 6,405 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru.
Dros y 15 mlynedd diwethaf mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cynyddu 34%.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi pwyslais ar gynorthwyo teuluoedd i aros gyda'i gilydd, lle mae hyn yn ddiogel ac er budd pennaf y plentyn.
I blant a phobl ifanc, mae hyn yn golygu:
- nodi ac asesu cyn gynted â phosibl y plant hynny sydd angen gofal a chymorth (gan gynnwys help i gyflawni llesiant emosiynol a chydnerthedd)
- eu helpu i ddefnyddio'r cryfderau yn eu teuluoedd a'u hadnoddau yn eu cymunedau i gael cymorth
- sicrhau ymyrraeth ar gam sy'n atal anghenion rhag dod yn dyngedfennol.
Mae gan Gymru gyfraddau uwch o blant sy'n derbyn gofal na chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig ac mae gwahaniaethau sylweddol rhwng awdurdodau lleol.
Roedd papur briffio gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig) ym mis Gorffennaf 2019 yn esbonio pam fod hyn yn wir, gan ddefnyddio data cyhoeddedig i nodi ffactorau sy'n gyrru'r tueddiadau hyn, gan gynnwys:
- amddifadedd
- effeithiau’r ‘triawd sbarduno’ (cam-drin domestig, rhieni’n camddefnyddio sylweddau ac afiechyd meddwl rhieni) ar fagu plant
- gwahaniaethau mewn polisi ac arfer rhwng awdurdodau lleol, gan gynnwys yr ymagwedd a ddefnyddiwyd i ddarparu gofal a chymorth
- penderfyniadau mewn llysoedd teulu.
Mae adroddiadau eraill ynghylch nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cynnwys Research on Differences in the looked after children population (Saesneg yn unig) a Born into care (Saesneg yn unig).
Pam mae cymaint o blant yn derbyn gofal yng Nghymru?
Mae ffigurau allweddol yn y sector cyfiawnder teulu ac yn y sector gofal cymdeithasol plant wedi bod yn lleisio pryder bod y system ofal dan bwysau, gan bwysleisio:
- y nifer cynyddol o deuluoedd sy'n wynebu straen tlodi
- yr angen i helpu pobl yng nghyfnodau cynnar anawsterau teuluol i atal problemau rhag gwaethygu ac i gynorthwyo plant a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.
Cadarnhaodd Adolygiad Care Crisis (Saesneg yn unig), a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018, yr ymdeimlad o argyfwng sy’n cael ei deimlo erbyn hyn gan lawer o bobl ifanc, teuluoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y system oherwydd defnydd cynyddol o achosion llys (Grŵp Hawliau'r Teulu, Mehefin 2018.
Beth yw barn gweithwyr proffesiynol am nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru?
Disgrifiodd gweithwyr proffesiynol pryderus y rhwystredigaeth maent yn ei deimlo wrth weithio mewn sector sydd wedi ei or-ymestyn a'i lethu a lle nad yw plant a theuluoedd, yn rhy aml, yn cael y cymorth uniongyrchol sydd ei angen arnynt yn ddigon cynnar i atal anawsterau rhag gwaethygu.
Nododd yr Adolygiad anesmwythyd ymhlith ymarferwyr ynghylch sut mae diffyg adnoddau, tlodi ac amddifadedd yn ei gwneud yn anoddach i deuluoedd a'r system ymdopi.
Mynegodd llawer o gyfranwyr at yr Adolygiad ymdeimlad cryf o bryder bod diwylliant o feio, codi cywilydd ac ofn wedi treiddio drwy'r system, gan effeithio ar y rhai sy'n gweithio yn y system yn ogystal â'r plant a'r teuluoedd sy'n ddibynnol arni.
Mae'r Adolygiad yn awgrymu bod hyn wedi arwain at amgylchedd sy'n gynyddol ddrwgdybus ac yn anfodlon mentro, ac yn annog unigolion i fodloni ar ymatebion gweithdrefnol.
Rydym yn parhau i weld pwysau cynyddol ar y system llysoedd teulu yng Nghymru, gyda llwythi gwaith uchel ac adnoddau dan bwysau cynyddol.
Fodd bynnag, canfu'r Adolygiad enghreifftiau cadarnhaol hefyd. Mae rhai awdurdodau lleol yn mynd yn groes i dueddiadau cenedlaethol o niferoedd cynyddol o blant yn derbyn gofal ac sy'n gwneud datblygiadau cyffrous ym maes polisi, ymarfer a datblygu gwasanaethau.
Mae plant a theuluoedd yn disgrifio ymarferwyr unigol sydd wedi trawsnewid eu sefyllfa ac mae rhai gweithwyr proffesiynol yn disgrifio camau arloesol, ymagweddau ac arweinwyr sy'n eu galluogi i ymarfer mewn ffordd sy'n barchus, yn drugarog ac yn werth chweil.
Canfu'r adolygiad hefyd fod y ddeddfwriaeth a'i hegwyddorion sy'n sail i ofal cymdeithasol yn gadarn.
Canfu’r Adolygiad hefyd fod gweithwyr proffesiynol ledled Cymru eisiau dysgu o’r hyn sy’n gweithio, a ‘gweithio gyda’ yn hytrach na ‘darparu ar gyfer’ teuluoedd.
Mae llawer o bobl ifanc a theuluoedd yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol i wella eu sefyllfa eu hunain a'r system gofal cymdeithasol drwy ddefnyddio eu safbwyntiau a'u profiadau unigryw yn dda.
Mae hyn yn ei dro yn helpu i chwalu ofn a phryder ymysg pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.
Rôl ymyrraeth gynnar wrth leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru mewn modd diogel
Mae rhaglenni ymyrraeth ac atal cynnar fel Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg yn rhan allweddol o fynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a meithrin teuluoedd a chymunedau cryfach a mwy cydnerth.
Rydym yn gwybod y gall arferion atal ac ymyrraeth gynnar da ein helpu i nodi problemau ynghynt a'u hatal rhag gwaethygu.
Mae ymchwil yn dangos i ni fod perthynas gref rhwng cyfraddau mae plant yn dod i ofal ac amddifadedd mewn ardaloedd lleol.
Mae mynd i'r afael â thlodi a meithrin gwytnwch cymunedol gyda gwasanaethau sydd â'r nod o gadw teuluoedd gyda'i gilydd yn helpu i leihau nifer y plant sy'n mynd i ofal.
Yn 2019-20, bydd awdurdodau lleol Cymru yn elwa ar dros £76 miliwn mewn cyllid ar gyfer Dechrau'n Deg a £38 miliwn ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf, ynghyd â rhagor o gyfleoedd i integreiddio gwasanaethau.
Cymorth Llywodraeth Cymru i deuluoedd sydd ‘ar ymyl gofal’
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £5 miliwn o gyllid cylchol i awdurdodau lleol i gynorthwyo teuluoedd bregus sydd ‘ar ymyl gofal’, lle bo’n ddiogel ac yn briodol gwneud hynny.
Mae ‘ar ymyl gofal’ yn golygu bod eu plant mewn perygl o dderbyn gofal.
Gall buddsoddiad ar hyn o bryd helpu i leihau nifer y plant mewn gofal a rhyddhau adnoddau mewn awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar atal a gwell cymorth i blant sydd eisoes mewn gofal.
Mae’r sector gwirfoddol yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynorthwyo teuluoedd sydd ‘ar gyrion gofal’, fel y dangosir yn yr adroddiad Lleihau nifer y plant sydd angen gofal.
Mae angen cynnal rhagor o waith i gynorthwyo teuluoedd sy'n agored i niwed fel y gall plant barhau i fyw'n ddiogel gyda nhw ac osgoi'r angen am achosion gofal.
Mae hyn yn cynnwys edrych ar deulu a ffrindiau ehangach am gymorth, gan gynnwys fel gofalwyr amgen i blant, naill ai yn y tymor byr, ar gyfer seibiant, neu fel rhan o drefniant tymor hwy.
Gall gwasanaethau integredig ‘ar gyrion gofal’ helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd ar adegau o argyfwng.
Er enghraifft, mae dros 700 o deuluoedd yn gweithio gyda thimau Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd bob blwyddyn.
Mae'r GCG wedi llunio adroddiad yn nodi ymagweddau effeithiol at gynorthwyo teuluoedd a strategaethau ar gyfer rheoli risg ar ymyl gofal.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau cymorth i deuluoedd agored i niwed y mae eu plant mewn perygl o ddod i mewn i'r system ofal ac i ddarparu gwasanaethau therapiwtig ychwanegol.
Mae'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol hefyd wedi cael arweiniad ar arferion da ynghylch gwasanaethau comisiynu integredig
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi:
- cyllido capasiti ychwanegol mewn awdurdodau lleol ar gyfer cynadleddau teulu ac ailuno
- sefydlu grŵp technegol i helpu awdurdodau lleol i bennu cynlluniau a thargedau ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n profi gofal
- cyflwyno'r prosiect Reflect ledled Cymru i leihau nifer y plant sy'n cael eu cymryd i ofal drwy dorri'r cylch o feichiogrwydd mynych ac achosion gofal dro ar ôl tro.
Mae Grŵp Cynghori'r Gweinidog hefyd yn helpu i ddatblygu ac ymgynghori ar fframwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarchodaeth arbennig, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd cyffredin ar gyfer cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth.