Pam mae'n bwysig i weithio gyda chymunedau.
Gall gweithio gyda chymunedau dalu ar ei ganfed a bod yn broses gynaliadwy a buddiol i bawb.
Mae gan brosiectau a gweithgareddau botensial mawr i gefnogi llesiant cymunedol. Gallant hefyd fynd i’r afael â bylchau mewn cymdeithas a gwasanaethau cymunedol.
Mae llawer o ddulliau newydd ac ystyrlon o ran helpu cymunedau a chryfderau, gwybodaeth, sgiliau a pherthnasoedd y bobl, a chymorth ar y cyd mewn ffyrdd ymarferol a phositif.
Mae cyrff cyhoeddus a sefydliadau cymorth yn asesu ac yn gofyn i gymunedau beth sydd ei angen arnynt.
Er hyn, mae tystiolaeth yn dangos nad ydynt yn aml yn archwilio nac yn deall beth sydd ei angen ar gymunedau i weithredu hyn.
Nid yw'r sefydliadau hyn yn cydnabod bob amser sut y gall cymunedau fod yn bartneriaid effeithiol.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi cyfrifoldeb statudol ar wasanaethau cyhoeddus a phartneriaid i ddatblygu gwasanaethau sy’n hyrwyddo llesiant unigolion. Mae hyn fel bod modd i bobl fyw’n annibynnol yn eu cymunedau eu hunain.Yn hyn o beth, mae angen i wasanaethau cyhoeddus a phartneriaid adeiladu ar gryfder pobl a chryfder y gymuned, defnyddio ei chryfderau i helpu grey gwasanaethau a gweithgareddau sy'n helpu unigolion i ffynu heb wasanaethau targedig.
Mae’r fframwaith hwn yn egluro sut i adeiladu cymunedau, gweithio a siarad gyda nhw.