Y pethau dylech chi ystyried wrth weithio gyda chymunedau.
Risg
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Defnyddio dull cytbwys o ran risgiau, hawliau a chyfrifoldebau. Dylech feddwl am y risgiau a’r effeithiau o beidio â gweithredu, yn ogystal â’r risgiau o fynd ati.
- Gwaredu’r ofn o gael eich beio os bydd pethau’n mynd o chwith.
- Annog diwylliant agored sy’n cydnabod ac yn dysgu o gamgymeriadau
- Defnyddio cofrestrau risg sy’n cofnodi’r cyfleoedd yn deillio o’r risg.
- Siarad ag eraill o fentrau tebyg am eu taith nhw, a beth maen nhw wedi’i ddysgu o’r llwyddiannau a’r camgymeriadau.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Agwedd gadarnhaol at risg – Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae’n nodi’r hyn a ddisgwylir gan ymarferwyr o ran cydbwyso hawliau, cyfrifoldebau a risgiau tybiedig. - Risgiau cadarnhaol a gwneud penderfyniadau ar y cyd – Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae’n egluro’r heriau a’r cyfleoedd i gymryd risgiau cadarnhaol a gwneud penderfyniadau ar y cyd, gan gynnwys enghreifftiau o arferion da.
Meddwl yn strategol
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus, megis:
- byrddau gwasanaethau cyhoeddus
- byrddau partneriaeth rhanbarthol
- awdurdodau lleol
- byrddau iechyd.
- Cynllunio a chomisiynu ar gyfer gwerth cymdeithasol gan ddefnyddio’r Fframwaith Themâu, Deilliannau a Mesurau Cenedlaethol (TOMS) a’r Pecynnau Cymorth Gallu Gwneud
- Gwneud hi’n haws defnyddio adnoddau mewn ffordd hyblyg
- Buddsoddi i fusnesau lleol a chymdeithasol
- Datblygu gweledigaeth a rennir ar sail lleoedd
- Cytuno sut y gall gwasanaethau statudol, trydydd sector a’r sector preifat chwarae rhan er mwyn cyflawni
- Dewis prosiect peilot i brofi’r dulliau newydd cyn cyfleu a rhannu’r hyn a ddysgwyd.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Ailddychmygu gwasanaethau cymunedol – The King's Fund
Mae’n egluro sut gallai’r system iechyd a gofal newid er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth. - Y TOMs Cenedlaethol: Themâu, Canlyniadau a Mesurau – Porth Gwerth Cymdeithasol
Fframwaith i’ch helpu i fesur ac adrodd ar werth cymdeithasol. - Pecynnau Cymorth Gallu Gwneud – prosiect i2i
Adnoddau i’ch helpu i roi’r dull Gallu Gwneud ar waith. - Canllaw i gadernid cymunedol – Sefydliad Cenedlaethol dros Safonau a Thechnoleg
Proses gynllunio chwe cham i helpu trefi, dinasoedd a siroedd i wrthsefyll digwyddiadau peryglus ac adfer yn gyflymach.
Arweinyddiaeth
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Nodi’r arweinwyr ‘naturiol’ a ‘penodedig’ yn y gymuned
- Ystyried cymorth cyfoedion fel ffordd o gyflwyno mentora
- Gosod targedau clir a rennir, a’r camau y byddwch chi’n eu rhoi ar waith i’w cyflawni
- Newid y ffordd rydych chi’n gweithredu pan fo pethau’n anodd fel bod modd i chi fodloni eich targedau, a gweithio gyda phawb i lwyddo.
- Dylunio neu ddod o hyd i’r help sydd ei angen arnoch i’ch helpu i fodloni eich targedau
- Edrychwch ar y rheolau:
- Ai nhw yw’r rheolau cywir?
- Sut maen nhw’n cael eu dehongli a’u cymhwyso?
- Ydyn nhw’n cael eu gweithredu yn ysbryd y fframwaith polisi, yn enwedig Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014?
- Cefnogi sefydliadau cymunedol ym mhob ffurf os ydyn nhw’n cyflawni rôl arweinyddiaeth drwy alluogi mynediad i uwch-benderfynwyr a chynnig helpu
- Rhannu eich siwrne gydag eraill fel bod modd iddynt elwa ar yr hyn a ddysgoch chi ar hyd y daith.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Dysgu sut i fod yn arweinydd cymuned – Blwch Adnoddau Cymunedol
Modiwl e-ddysgu sy’n rhannu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen ar arweinwyr cymuned llwyddiannus. - Arweinyddiaeth dosturiol ar gyfer rheolwyr – Gofal Cymdeithasol Cymru
Adnoddau sy’n egluro arweinyddiaeth dosturiol ac yn cefnogi arweinwyr a rheolwyr i’w chroesawu yn eu hymarfer. - People-powered results: yr her 100 diwrnod – NESTA
Proses strwythuredig dros 100 diwrnod ar gyfer mudiadau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol i greu’r amodau gorau i sicrhau newid. - Creu dyfeisgarwch cymunedol – Gofal Cymdeithasol Cymru
Rhoi tystiolaeth ar gyfer cynllunio a datblygu mentrau cadernid cymunedol. - Sut i wrando ar bobl a chymunedau a dysgu ganddynt – The King's Fund
Ffyrdd ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu partneriaid i weithio gyda chymunedau i ganfod beth sydd ei angen ar bobl, beth sy’n gweithio a beth y gellid ei wella.
Polisi
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Meddyliwch sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu cymhwyso yn eich cymuned: a yw hynny yn ysbryd y deddfau?
- Adolygu’n rheolaidd os yw eich gweithrediadau’n dilyn eich gweledigaeth
- Ystyried sut mae modd ail-siapio comisiynu, caffael a chyllid i ddarparu mwy o sefydlogrwydd hirdymor i ddarparwyr gwasanaeth
- Cyflwyno prosesau bidio cydweithredol i annog gweithio mewn partneriaeth a lleihau’r cystadlu ar gyfer cyllid
- Gweithio gyda darparwyr gwasanaeth cyn tendro ar gyfer gwasanaethau i alinio’r weledigaeth a thargedau
- Rhoi systemau ar waith i gasglu trafodaethau a thystiolaeth sy’n deillio o drafodaethau ar sail lleoedd, er enghraifft, systemau ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Symleiddio prosesau monitro a gwerthuso fel nad yw’n gohirio’r gwaith
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Creu dyfeisgarwch cymunedol – Gofal Cymdeithasol Cymru
Rhoi tystiolaeth ar gyfer cynllunio a datblygu mentrau cadernid cymunedol.
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 – Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
Deddfwriaeth i wneud newid cadarnhaol a pharhaol i genedlaethau heddiw ac yfory. - Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – Llywodraeth Cymru
Y fframwaith cyfreithiol sy’n cyfuno ac yn moderneiddio cyfraith gwasanaethau cymdeithasol.
Gwleidyddiaeth
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Troi perthnasoedd anffurfiol yn gysylltiadau strategol ffurfiol
- Sefydlu cyd-berthnasoedd rhwng yr awdurdod lleol a chynghorwyr cynghorau tref a chymuned. Dylai’r rhain fod yn seiliedig ar arweinyddiaeth bositif, ymddiriedaeth, agweddau a sgiliau.
- Gwaredu’r rhwystrau hanesyddol i gydweithio
- Defnyddio gwybodaeth a sgiliau aelodau etholedig a swyddogion wrth gynllunio ar sail lleoedd
- Datblygu arweinyddiaeth dosturiol ar sail perthnasoedd
- Sefydlu timau cymunedol ar sail lleoedd
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. - Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
Y corff cenedlaethol o aelodau ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. - Sefydliad Materion Cymreig
Melin drafod ac elusen, yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol.
Comisiynu
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Sicrhau bod gennych arweinyddiaeth leol dda, ymddiriedaeth a chyfathrebu gyda darparwyr newydd a phresennol drwy gydol y cylch comisiynu. Bydd hyn yn helpu i alluogi comisiynu gwirioneddol hyblyg
- Dylid defnyddio dulliau ansoddol (megis straeon personol, sydd wedi cael eu cyd-gynhyrchu) er mwyn mesur deilliannau neu werth am arian. Bydd hyn yn eich helpu i fesur pa mor effeithiol oedd y buddsoddiad i ddyfeisgarwch cymunedol.
- Dysgu gwersi gan ardaloedd gwledig, ac ardaloedd anodd i’w cyrraedd, lle mae wedi bod angen rhagor o ddatrys problemau.
- Dylai llunwyr polisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol barhau i ganolbwyntio ar ateb ‘beth ddylai polisi da wneud?’ er mwyn darparu’r canllawiau gorau i helpu twf cymunedol ac arloesedd i lwyddo.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Gyda’n Gilydd dros Newid
Cydweithrediad unigryw rhwng y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector, Solva Care, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a Planed - Sut mae comisiynu yn cefnogi datblygiad cymuned ac adeiladu cymuned – Cymdeithas Llywodraeth Leol
Erthygl gan Dr Janet Harris o Brifysgol Sheffield. - Pecyn cymorth creu gwerth cymdeithasol ym Mryste – Cyngor Dinas Bryste
Mae’n egluro sut mae Cyngor Dinas Bryste yn comisiynu gwasanaethau, a phryd a ble mae’r cyngor yn chwilio am gyfleoedd er budd cymdeithasol.
Cyd-gynhyrchu
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Gwerthfawrogi pobl ac adeiladu ar eu cryfderau
- Datblygu rhwydweithiau sy’n gweithredu ledled seilos
- Canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i’r bobl sydd ynghlwm
- Adeiladu perthnasoedd yn llawn ymddiriedaeth a phŵer a rennir
- Galluogi pobl i roi newidiadau ar waith.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru Cymuned ymarfer
Cymuned ymarfer ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda dinasyddion yng Nghymru. - Popeth am wasanaethau cyhoeddus – NESTA
Mae’n dangos sut gall cydgynhyrchu weithio’n ymarferol.
Cydweithio
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Gosod egwyddorion a gwerthoedd o’r dechrau. Mae hyn yn bwysicach na phennu eich deilliannau. Os yw’r ymddygiad cydweithredol cywir ar waith, bydd y deilliannau’n disgyn i le
- Buddsoddi amser ac adnoddau i adeiladu perthnasoedd
- Datblygu dull a rennir er mwyn mesur effaith ystyrlon
- Pennu a all sefydliadau trydydd sector rannu staff, megis staff swyddfa gefn a staff codi arian.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Croesawu cadernid: arferion cadernid cydweithredol a theg – New Cities
Proses chwe cham i gynllunio cadernid.
Adnoddau
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Datblygu’r strwythurau cywir, gan gynnwys prosesau ariannu, i sicrhau y gall sefydliadau cymunedol a gwirfoddol barhau i weithio yn y dyfodol
- Rhoi cyngor, cymorth ac anogaeth i sefydliadau i geisio ystod eang o gyllid fel y gallant barhau i fod yn hyblyg ac yn gryf.
- Mae cyllid yn gysylltiedig â’r gwahaniaeth y gall sefydliad ei wneud. Rhoi rhagor o bwyslais ar werth cymdeithasol buddsoddi
- Dod o hyd i ffyrdd i sefydliadau ddatblygu cynigion a thendrau gyda’i gilydd - er enghraifft, gall sefydliadau edrych sut y gallant rannu staff codi arian
- Symleiddio prosesau ymgeisio ac adrodd er mwyn lleihau’r baich ar sefydliadau i dderbyn cyllid craidd hirdymor. Mae’r alwad gyson ar gyfer arloesedd mewn ceisiadau grant yn gallu bod yn flinedig iawn, a niweidio cyllid.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Ailystyried dyfarnu grantiau – New Philanthropy Capital
Blog yn esbonio sut i gefnogi elusennau. - Creu Cadernid – Charity Aid Foundation (CAF)
Mae’n ystyried sut gall cyllidwyr gefnogi elusennau. - Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
Y corff cenedlaethol o aelodau ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. - Cyllido Cymru
Chwilio am grantiau a benthyciadau o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. - Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Grantiau ar gyfer gwahanol grwpiau yng Nghymru. - Sefydliad Cymunedol yng Nghymru
Cyllid i gefnogi grwpiau yng Nghymru.
Ymddiriedaeth
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Gosod egwyddorion a gwerthoedd o’r dechrau. Mae hyn yn bwysicach na phennu eich deilliannau. Os yw’r ymddygiad cydweithredol cywir ar waith, bydd y deilliannau’n disgyn i le
- Buddsoddi amser ac adnoddau i adeiladu perthnasoedd
- Datblygu dull a rennir er mwyn mesur effaith ystyrlon
- Pennu a all sefydliadau trydydd sector rannu staff, megis staff swyddfa gefn a staff codi arian.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Croesawu cadernid: arferion cadernid cydweithredol a theg – New Cities
Proses chwe cham i gynllunio cadernid.
Tai
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Buddsoddi i adfywio sy’n blaenoriaethu lleoedd a phobl gyda’r anghenion mwyaf
- Cefnogi buddsoddi i dai a’r seilwaith ehangach, ac mae’n cynnwys datblygu cymunedol
- Dylunio strategaethau caffael gyda chymunedau i ymgorffori buddion cymunedol ehangach ac adeiladu cyfoeth.
- Gadael i landlordiaid cymdeithasol fod yn hyblyg fel y gallant gael yr effaith fwyaf yn eu cymunedau lleol drwy:
- adeiladu capasiti a sgiliau;
- datblygu prosesau cytundebol a llywodraethol;
- penderfynu ar y rolau y byddant yn eu cyflawni: e.e. Ydyn nhw’n ariannu, ydyn nhw’n arwain neu ydyn nhw’n mynd i mewn i bartneriaeth gyda sefydliadau eraill?
- Cofrestru landlordiaid cymdeithasol, a chydweithio i’r un weledigaeth a strategaeth, gyda disgrifiad clir o ran sut fydd hyn yn pennu cynllunio ar sail lleoedd
- Meddwl am ddatblygu hybiau neu glystyrau cymunedol gyda phartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i helpu i sicrhau bod gweithgareddau yn berthnasol i’r sefyllfa leol ac yn adeiladu capasiti’r sefydliadau partner.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Communities in Control: Developing Assets – Cormac Russell, ABCD Institute a Nurture Development
Casgliad o astudiaethau achos byr am ddatblygu asedau cymunedol. - Pecynnau Cymorth Gallu Gwneud – prosiect i2i
Adnoddau i’ch helpu i roi’r dull Gallu Gwneud ar waith. - Adroddiad Mannau Gwych – Ffederasiwn Tai Cenedlaethol
Deg argymhelliad i wneud rhywle yn lle gwych i fyw.
Atal
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Datblygu dealltwriaeth a rennir o beth yw atal, a chefnogi atal
- Cydnabod gwerth a chyfraniad:
- Cymdogion anffurfiol sydd wedi camu i mewn i rolau gofalgar a chyfeillgarwch
- Cymorth cymunedol a grwpiau gweithgareddau
- Mannau gwyrdd
- Asedau cymunedol eraill
- Deall mai’r gymuned sy’n gwybod beth sydd orau iddi hi.
- Casglu tystiolaeth ac ymchwil dros amser i fesur effaith atal
- Bod â dull sy’n canolbwyntio ar y gymuned o ran iechyd a lles drwy:
- Datblygu dull sy’n gweithio ledled y sector
- Sicrhau bod cymunedau wirioneddol ynghlwm wrth y broses ddylunio a darpariaeth gwasanaethau
- Mapio a defnyddio asedau lleol
- Comisiynu mewn ffyrdd sy’n rhoi mynediad i bawb i weithgareddau sy’n cefnogi lles
- Mesur deilliannau sy’n bwysig i gymunedau
- Pwysleisio rhagor o weithgareddau atal mwy mewn cynllunio a chomisiynu strategol.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol – Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
Mae’n egluro’r hyn a gyflawnodd y Comisiynydd rhwng 2015 a 2020. - Dulliau sy’n canolbwyntio ar y gymuned ar gyfer iechyd a lles – Public Health England
Mae’n egluro pam mae cymunedau’n bwysig, pam mae bod yn gysylltiedig yn bwysig i’ch iechyd, a sut mae creu cyfalaf cymdeithasol gyda dulliau sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
Deall cymunedau
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Treulio ychydig o amser i ddod i adnabod y cymunedau yr hoffech weithio ynddyn nhw a gyda nhw
- Archwilio’r hanes lleol, y cefndir a’r wleidyddiaeth
- Dysgu beth sy’n digwydd, a oes grwpiau cymunedol neu sefydliadau cymunedol sy’n cynnal prosiectau?
- Gofyn wrth sefydliad lleol i roi sesiwn anwytho cymunedol, neu fynd am dro oddeutu’r dref
- Siarad â phobl leol, gofyn iddyn nhw beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio, beth all gael ei wella
- Edrych ar beth mae’r data yn ei ddweud am y gymuned
- Edrych ar beth mae astudiaethau achos neu straeon yn ei gyfathrebu am y gymuned
- Dysgu am asedau lleol yn y gymuned.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Datblygiad cymuned yn seiliedig ar asedau ar gyfer awdurdodau lleol – NESTA
Yn egluro sut mae ailadeiladu perthnasoedd â chymunedau drwy ddulliau sy’n seiliedig ar asedau. - Mapio Asedau Cymunedol yng Nghymru – Yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau
Mae’n adlewyrchu’r themâu a chanfyddiadau sy’n dod i'r amlwg ac sy’n gysylltiedig â’r gwaith o fapio asedau cymunedol ledled Cymru a’r astudiaethau achos sy’n gysylltiedig â hynny. - Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru – Llywodraeth Cymru
Mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach yng Nghymru. - Map data Cymru – Llywodraeth Cymru
Data a mapiau o sector cyhoeddus Cymru. - Creu dyfeisgarwch cymunedol – Gofal Cymdeithasol Cymru
Rhoi tystiolaeth ar gyfer cynllunio a datblygu mentrau cadernid cymunedol.
Economi sylfaenol
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Gweithio gyda busnesau lleol sy’n cyfrannu at yr economi sylfaenol. Maen nhw’n bartner pwysig, ac yn:
- darparu gwasanaethau hanfodol lleol
- cynnig swyddi
- gallu darparu arweinyddiaeth ledled y gymuned.
- Gall cwmnïau budd cymunedol (CICau) a micro-fusnesau gweithio ar lefel leol iawn i ddatblygu a gwella gwydnwch cymunedol. Ni all cwmnïau mawr fod mor hyblyg bob tro.
- Dylai pob sefydliad fabwysiadu prosesau caffael TOMau (Themâu, Deilliannau, Mesurau) i ddangos gwerth cymdeithasol a chefnogi dyfeisgarwch cymunedol wrth gontractio gwaith.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Fframwaith Mesur Gwerth Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Fframwaith i helpu sefydliadau i fesur beth maen nhw’n ei wneud a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwneud gwahaniaeth
Gweithredu cymunedol
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
- Cynllunio i gynyddu nifer y bobl leol sydd ynghlwm wrth weithredu cymunedol a sicrhau eu bod nhw’n cael eu cynnwys wrth gynllunio, dylunio a darparu gwasanaethau lleol
- Dysgu pa heriau penodol sy’n berthnasol i chi. Meddyliwch pa gamau gweithredu, sgiliau ac adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer bob her, gan gynnwys:
- Beth sydd ei angen neu beth rydych chi eisiau o weithredu cymunedol?
- Pa fath o bobl ydych chi angen ymgysylltu â nhw?
- Ble maen nhw?
- Faint o bobl sydd eu hangen arnoch?
- Pryd mae hi’n amser da i ymgysylltu â phobl?
- Sut ddylech chi fynd at bobl a all gymryd rhan?
- Pwy sy’n mynd i ddod o hyd i bobl a sicrhau eu bod nhw’n cymryd rhan?
- Beth sy’n digwydd os byddwch chi’n clywed ie, efallai, neu na?
- Pa rwystrau allwch chi ddod ar eu traws? Sut byddwch chi’n eu goresgyn?
- Dod o hyd i rwystrau a’u dileu, er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad i weithgareddau cymunedol
- Gweithio gyda’r prif randdeiliaid i benderfynu ar weledigaeth a blaenoriaethau.
- Dylech gytuno sut y byddwch chi’n gwneud hyn, a sicrhau bod partneriaid yn ymwybodol o’u rôl.
- Egluro beth allai cyfathrebu digidol ei gynnig, a’i gyfyngiadau:
- dod o hyd i unrhyw nodweddion ar eich platfform digidol nad ydynt yn hygyrch neu’n hawdd i’r gynulleidfa eu defnyddio, a sut byddwch chi’n mynd i’r afael â hyn?
- a oes fformatau print, radio neu’r teledu o newyddion a gwybodaeth bwysig?
- Dod o hyd i wirfoddoli yn y gymuned a chreu cyfle iddo ddatblygu
- Dysgu:
- sut mae gwirfoddoli wedi bod yn fuddiol i’r ardal?
- sut rydych chi’n dod o hyd i wirfoddolwyr?
- oes angen rhagor o adnoddau?
- Deall amrywiaeth eich cymuned ac adnabod a yw’r adnoddau a’r gwasanaethau yn bodloni anghenion pawb.
- Er enghraifft: meddyliwch am y Gymraeg, diwylliant, grwpiau oedran a demograffeg eraill. Dod o hyd i ffyrdd i gasglu a dysgu o’r holl waith da sy’n digwydd ar lefel gymunedol.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- Datblygu Gweithredu Cymunedol – Blwch Adnoddau Cymunedol
Yn egluro sut mae llunio cynllun i gynnwys gwahanol randdeiliaid mewn cymunedau.
- Adeiladu Dyfodol Gwell – CGGC
Pecyn cymorth i helpu cymunedau, a’r bobl sy’n gweithio gyda nhw, i gynllunio dyfodol gwell. - Creu dyfeisgarwch cymunedol – Gofal Cymdeithasol Cymru
Rhoi tystiolaeth ar gyfer cynllunio a datblygu mentrau cadernid cymunedol.
Gofal sylfaenol
Ar beth ddylech chi ganolbwyntio?
Dylai clystyrau gofal sylfaenol:
- barhau i adeiladu ar a datblygu perthnasoedd gwaith gyda chymunedau
- dysgu sut mae gweithredu dan arweiniad y gymuned wedi helpu pobl, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus cyn ac ar ôl Covid-19
- dysgu gan eraill a’r rhaglen strategol ar gyfer gofal cymdeithasol. Er enghraifft, gallai’r rhaglen Ddatblygu Clystyrau Uwch helpu i wneud i hyn ddigwydd yn gyflym ac yn gyson ledled Cymru
- dysgu beth sy’n gweithio ar lefel leol pan fyddwch chi’n defnyddio neu ddatblygu modelau gofal iechyd a chymdeithasol
- casglu gwybodaeth am gymunedau a’i defnyddio i wneud cynlluniau byrddau partneriaeth rhanbarthol, clystyrau gofal sylfaenol a byrddau iechyd hyd yn oed yn well
- dod o hyd i dystiolaeth o fodelau cymdeithasol a gofal iechyd lleol er mwyn dysgu beth sy’n gweithio.
Nid yw bob un o'r adnoddau neu wefannau ar y tudalen hon ar gael yn Gymraeg neu'n hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw adnoddau neu wefannau allanol.
- The King's Fund
Elusen sy’n gweithio i wella iechyd a gofal yn Lloegr. - Gofal Sylfaenol Un – GIG Wales
Pecynnau cymorth ac adnoddau ar gyfer datblygu gofal sylfaenol yng Nghymru. - Rhaglenni iechyd a gofal cymdeithasol – Llywodraeth Cymru
Crynodeb o brosiectau sydd wedi derbyn arian i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol.
Cynhwysion allweddol ar gyfer llwyddiant
- Ysbryd cymunedol
- Synnwyr o le: cyd-destun lleol
- Bodloni anghenion
- Mapio asedau
- Amser i feithrin perthnasoedd
- Ffordd o feddwl cymunedol positif
- Arweinyddiaeth gymunedol: gwneud iddo ddod yn amlwg.
Cefnogwch y broses o benderfynu trwy:
- pecynnau cymorth
- canllawiau
- pobl sy'n barod i helpu.