Rydyn ni wedi bod yn ariannu Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) ers mis Ebrill 2023.
Beth yw DEEP?
Mae DEEP yn ddull cyd-gynhyrchu o gasglu, archwilio a defnyddio gwahanol fathau o dystiolaeth wrth ddatblygu polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol.
Mae cyd-gynhyrchu yn golygu gweithio gydag unigolion, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr, a’u cynnwys i sicrhau bod eu gofal a’u cymorth y gorau y gall fod.
Mae dull DEEP yn dod â phobl at ei gilydd i feddwl a siarad am wahanol fathau o dystiolaeth.
Mae’n defnyddio adrodd straeon a dulliau dysgu eraill sy’n canolbwyntio ar sgwrsio i greu a chyflwyno’r dystiolaeth mewn ffordd sy’n ennyn diddordeb.
Mae diffiniad DEEP o dystiolaeth yn cynnwys:
- tystiolaeth ymchwil
- doethineb a gwybodaeth ymarferwyr a sefydliadau
- gwybodaeth a safbwyntiau pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth.
Mae dull DEEP yn ceisio dod o hyd i faterion sy’n rhwystro defnyddio tystiolaeth yn ymarferol a mynd i’r afael â nhw, yn ogystal â meithrin dysgu a datblygiad sy’n cael eu harwain gan y bobl dan sylw, heb eu gorfodi arnynt.
Wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, fe’i datblygwyd trwy brosiect a ariannwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Roedd y prosiect hwnnw’n canolbwyntio ar ddefnyddio tystiolaeth i wella bywydau pobl hŷn ag anghenion cymorth uchel yng Nghymru. Ers hynny mae DEEP wedi’i ddatblygu ymhellach a’i roi ar waith ar draws gwasanaethau oedolion a phlant.
Beth mae DEEP wedi'i gyflawni hyd yn hyn?
Mae dynesiadau a dulliau DEEP wedi cael eu defnyddio i gefnogi dysgu a datblygu ar draws ystod o wasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd, gan gynnwys:
- cymorth i ofalwyr di-dâl drwy ailfeddwl ac ailfodelu ymagweddau at ofal seibiant
- prosiectau datblygu cymunedol wedi'u cyd-gynhyrchu gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau
- offeryn i gefnogi cofnodi sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, sy’n golygu nodi’r canlyniadau sy'n bwysig i bobl a chofnodi a yw’r canlyniadau hyn wedi’u cyflawni
- polisi cenedlaethol sy’n ymwneud â phobl sy’n byw gyda dementia.
Pam ydym ni'n partneru â DEEP?
Mae gennym gylch gwaith gan Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddefnyddio ymchwil a data ac i ddod o hyd i ffyrdd o arloesi.
Mae Fframwaith Perfformiad a Gwella Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid ddangos sut y maent yn defnyddio tystiolaeth wrth ymarfer, cynllunio a llunio polisïau. Mae'n gofyn iddynt fynd y tu hwnt i ddangosyddion perfformiad i archwilio profiad a chanlyniadau'r bobl y maent yn eu cefnogi.
Credwn y gall defnyddio dulliau DEEP gefnogi pobl sy’n gweithio ar draws gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol gyda’r offer i archwilio a gwneud synnwyr o dystiolaeth gyda’i gilydd.
Beth allwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd?
Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda DEEP ers sbel, ond mae’r berthynas honno wedi’i chryfhau gan ein partneriaeth newydd.
Bydd y ffocws ar ein gwaith ym maes sgiliau ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer pobl sy'n gweithio ar draws gofal cymdeithasol.
Gyda'n gilydd byddwn yn:
- cynnig hyfforddiant byr ar egwyddorion a dulliau DEEP
- datblygu cyfleoedd dysgu ar gyfer sgiliau adrodd stori
- datblygu cyfleoedd dysgu ar gyfer sgiliau gwerthuso
- cefnogi ac adeiladu ein Cymuned Dystiolaeth, sy'n dod â phobl ynghyd sy'n ymchwilio i ofal cymdeithasol, yn gweithio ynddo ac yn ei ddefnyddio
- datblygu ein cymunedau ymarfer eraill, gan gynnwys un ar gyfer gofal sy’n seiliedig ar le ac un ar gyfer unigolion cyfrifol.
Cyrsiau ar-lein am ddim
Fel rhan o'n partneriaeth â DEEP, rydyn ni'n cynnal amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu ar-lein am ddim.
Mae ein cyrsiau yn cwmpasu ystod eang o bynciau ac yn amrywio o ran hyd - o weithdai untro i raglenni 30 awr wedi'u gwasgaru dros 10 sesiwn.
Darganfyddwch fwy am y cyrsiau ac archebwch eich lle trwy fynd i'r dolenni canlynol:
Arwain dysgu a datblygu gan ddefnyddio tystiolaeth: Cwrs catalydd DEEP
Casglu a defnyddio tystiolaeth yn ymarferol: Egwyddorion DEEP
Ymarfer myfyriol a chydgynhyrchu: Cymuned ymholi
Ymarfer a dysgu myfyriol: Eiliadau hyd ac eiliadau trasig
Arfer myfyriol a gwerthuso: Newid mwyaf arwyddocaol
Gofal sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd: Fframwaith synhwyrau
Gwneud penderfyniadau ar y cyd: Gwneud penderfyniadau consensws
Rhannu tystiolaeth: Gyda ffocws ar rhifau
Gwerthuso gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn: Cyflwyniad i arolwg PERCCI
Eisiau gwybod mwy?
Ewch i wefan DEEP am ragor o wybodaeth.