Dysgwch am ein menter i gydnabod y gweithwyr gofal sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i fywydau pobl yn ystod y pandemig.
Beth yw Sêr Gofal?
Crëwyd y fenter Sêr Gofal i dynnu sylw at y gweithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a wnaeth wahaniaeth cadarnhaol iawn i fywydau pobl tra bod y wlad yn ymgodymu â heriau’r pandemig.
Ym mis Mehefin 2021, gwahoddwyd cyflogwyr, cydweithwyr ac aelodau’r cyhoedd i enwebu’r gweithwyr gofal cyflogedig yr oeddent yn teimlo eu bod yn haeddu cael eu cydnabod am eu gwaith yn ystod yr oddeutu 15 mis diwethaf.
O ganlyniad, enwebwyd 120 o weithwyr gofal o bob rhan o Gymru. Yna, roedd panel o feirniaid, a oedd yn cynnwys aelodau o’n Bwrdd a chynrychiolwyr sefydliadau partner, wedi cwtogi’r rhestr i’r 12 o Sêr Gofal yr oeddent yn credu eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth am y gwaith ysbrydoledig yr oeddent wedi’i wneud.
Pwy yw’r Sêr Gofal?
Gwasanaethau gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar
Jane Carter, ymarferydd y blynyddoedd cynnar yn y fenter Dechrau’n Deg ym Mro Morgannwg
Enwebwyd Jane gan ei rheolwr llinell, sef Sue Davies, a ddywedodd:
Mae Jane wedi gweithio’n ddiflino i gynnal perthnasoedd â theuluoedd a sicrhau eu bod yn gwybod bod y gwasanaeth yn parhau i fod yno i’w cynorthwyo. Mae hyn wedi gofyn am ddull creadigol a hyblyg, a bu’n rhaid i ni addasu ein prosesau arferol. Mae Jane wedi bod yn ganolog i’r newidiadau hyn, ac mae ei sgiliau a’i gofal wedi gwneud gwahaniaeth amlwg i blant a theuluoedd.
Yn ystod y pandemig, gweithiodd Jane gyda mwy na 30 o deuluoedd, gan ddarparu sesiynau ‘galw heibio a chwarae’ rhithwir a gweithio gyda’r teuluoedd â’r angen mwyaf ar sail un-i-un yn y cartref. Yn fwy diweddar, ymgysylltodd â mwy na 15 o deuluoedd mewn sesiynau ‘galw heibio a chwarae y tu allan’.
Sicrhaodd Jane fod ymweliadau’n cael eu cynnal â theuluoedd i ddanfon teganau a gweithgareddau. Gweithiodd yn agos gyda’n hasiantaethau partner hefyd i ddosbarthu anrhegion Nadolig i’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn y gymuned. Mae teuluoedd wedi gwerthfawrogi amlygrwydd y gwasanaeth a’r ffaith eu bod yn gallu gweld y gweithwyr sy’n eu cynorthwyo. Maen nhw wedi teimlo bod eu presenoldeb yn gefn iddynt a’u bod yn cael eu diogelu gan y dull Covid-ddiogel.
Mae Jane hefyd wedi gweithio yn y ganolfan gofal plant, gan ymgymryd â’i sifftiau ei hun a chyflenwi ar gyfer pobl eraill pan oedd angen. Gellir dibynnu arni hefyd i gamu i mewn i’n lleoliadau gofal plant. Gwnaeth Jane becynnau gweithgareddau i’r plant, a hynny’n aml gan ddefnyddio ei hadnoddau ei hun. Roedd yn pryderu’n fawr am sut roedd teuluoedd yn ymdopi yn ystod y pandemig, felly dosbarthodd dalebau bwyd a chyfeiriodd teuluoedd at asiantaethau eraill pan roedd angen.
Mae Jane wastad wedi bod yn rhywun ymarferol ac mae’n naturiol iddi ddefnyddio’r sgiliau hynny yn y gymuned. Mae hefyd wedi croesawu gweithio’n rhithwir i ddatblygu ei gallu i weithio gyda theuluoedd ymhellach. Mae Jane bob amser yn barod i helpu eraill ac mae ein plant a’u teuluoedd yn bwysig iawn iddi. Nid yw byth wedi petruso ynghylch cynnal ymweliadau wyneb yn wyneb ac mae wedi cwblhau asesiadau risg i ganiatáu iddi wneud hyn yn ddiogel. Mae Jane wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddarparu ein gwasanaeth ac wedi cynnal ei chymhelliad drwy gydol y pandemig.
Joanne Jones, Uwch Swyddog Byw’n Iach (Chwarae) yng Nghyngor Bro Morgannwg
Fe’i henwebwyd gan Karen Davies, y mae Joanne yn aelod o’i thîm, a ddywedodd:
Mae Joanne wedi bod yn frwdfrydig ynglŷn â sicrhau bod plant wedi gallu cael rhyw fath o weithgareddau ‘chwarae’ yn ystod y cyfnod clo a phan fu cyfyngiadau Covid ar waith. Mae ei heffaith wedi cynnwys:
- hwyluso 497 o gyfranogwyr ar hyd 24 o ddiwrnodau o ddarpariaeth yn y Clwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf ar gyfer plant anabl o bedair i 11 oed (yr oedd nifer ohonynt yn dod o deuluoedd mewn argyfwng)
- gweithio gydag adran barciau’r cyngor a gwirfoddolwr lleol i greu strwythurau helyg newydd yn y parc lleol lle y gall plant a theuluoedd chwarae
- Rhaglen Iach, Egnïol a Gartref ar-lein – partneriaeth rhwng datblygu chwaraeon a chwarae i ddarparu syniadau ar gyfer chwarae a gweithgarwch corfforol y gallai teuluoedd eu gwneud gartref neu yn yr ardal leol. Roedd y cyfnod clo’n golygu bod gan deuluoedd fwy o amser i’w lenwi gartref, felly fe’u hanogwyd i wneud gweithgareddau chwarae heb gost, fel modelu jync a gemau mwy traddodiadol, yn hytrach na threulio’u holl amser ar dechnoleg
- dosbarthu pecynnau ‘Pencampwyr y Cyfnod Clo’ i deuluoedd agored i niwed a amlygwyd. Roedd y pecynnau’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau, gweithgaredd capsiwl amser a thystysgrif cyfnod clo
- darparu, o bell, ap sy’n ceisio helpu pobl i ddychwelyd i weithio i wyth gwirfoddolwr a amlygwyd trwy brosiect Ysbrydoli i Weithio’r Gwasanaeth Ieuenctid
- helpu 12 aelod o staff i ddilyn hyfforddiant iechyd meddwl i gynorthwyo plant â’u llesiant
- cydlynu’r rhaglen chwarae haf, gan gynnwys: - prosiectau Ceidwaid Chwarae (gyda’r gymdeithas dai lleol a’r cyngor cymuned leol) – 16 o sesiynau, 104 o gyfranogwyr, 476 o gyfranogiadau; Pafiliwn Chwarae’r Fro – 60 o gyfranogwyr, 458 o gyfranogiadau; a Chlwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf."
Julia Sky, Gweithiwr Datblygu Chwarae Cymunedol yng Nghyngor Bro Morgannwg
Fe’i henwebwyd gan Karen Davies, y mae Julia yn aelod o’i thîm, a ddywedodd:
Ym mis Mai 2020, amlygwyd y byddai angen i blant o nifer o deuluoedd sy’n ymwneud â’r gwasanaethau cymdeithasol gael cymorth yn ystod gwyliau’r haf o ganlyniad i’r pwysau yn gysylltiedig â heriau’r cyfnod clo. Crëwyd Pafiliwn Chwarae’r Fro i ymateb i hyn, a Julia oedd arweinydd y prosiect. Gweithiwyd yn gyflym i gael y cofrestriad perthnasol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fel y gellid cynnig darpariaeth ddydd lawn.
Gan weithio ochr yn ochr â’i rheolwr, cwblhaodd Julia gais llwyddiannus i AGC, cynlluniodd elfennau’r prosiect, cysylltodd â’r plant, datblygodd raglen o weithgareddau i ddifyrru’r plant a rheolodd y ddarpariaeth ei hun. Gwnaed hyn i gyd o fewn amserlen dynn iawn a chyda’r heriau niferus a wynebwyd yn ystod Covid.
Gwobrwywyd agwedd benderfynol Julie i sicrhau bod y plant yn cael hwyl gyda’r effaith gadarnhaol a gyflawnwyd:
- cynorthwywyd 60 o blant, yr oedd gan 43 y cant ohonynt anghenion ychwanegol
- darparwyd 27 o ddiwrnodau o ddarpariaeth ar hyd pedwar cyfnod o wyliau ysgol, gan arwain at 458 o gyfranogiadau
- darparwyd 540 o becynnau cinio.
Cymorth Gofal Cymdeithasol i oedolion
Amanda Davies, nyrs arweiniol yn Brocastle Manor ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Fe’i henwebwyd gan Alison Copus, y mae Amanda’n gofalu am ei rhieni, a ddywedodd:
Mae Amanda wedi bod yn brif ofalwr ar gyfer fy rhieni ers iddynt gyrraedd Brocastle ym mis Mawrth. Mae gan y ddau ohonynt ddementia, er hynny ar gamau gwahanol. Mae Amanda wedi bod yn wych iddynt, ond yn enwedig i’m tad, a ymatebodd yn wael iawn i’r symud. Gallai eraill fod wedi dewis ei symud i uned arbenigol, ond gwnaeth Amanda fwy na’r disgwyl.
Cysylltodd â’r tîm seiciatrig lleol a dangosodd lawer o amynedd a dealltwriaeth wrth iddynt addasu ei feddyginiaeth. Fe aeth mor bell â’i annog i gymryd rhan mewn cyfarfodydd yn ei swyddfa, a apeliodd at ei reddf i weithio. Mae hi wedi ffurfio cyfeillgarwch go iawn ag ef a bu’n gefn iddo tra’i fod yn ymdopi â’r newid. Erbyn hyn, mae’n ddigynnwrf ac yn fodlon.
Pe na byddai Amanda wedi dangos cymaint o ofal, byddai symud fy nhad i gartref arall a’i wahanu oddi wrth ei wraig wedi achosi trawma i’r ddau, yn ogystal ag i’n teulu. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am broffesiynoldeb Amanda a’r gofal eithriadol mae hi’n ei roi iddyn nhw.
Rhoddodd luniau a diweddariadau trwy e-bost a WhatsApp hefyd, fel y gallem gadw mewn cysylltiad yn ystod yr wythnosau hir pan na chaniatwyd ymweld. Mae’r caredigrwydd hwn wedi bod yn gysur mawr ac wedi rhoi llawer o wybodaeth i ni, ac mae ymhell y tu hwnt i’w dyletswydd.
Mae Amanda hefyd yn delio â mater iechyd difrifol â’i mam ei hun, yn dilyn 15 mis a mwy o straen mawr yn ymdopi â’r pandemig. Mae gwydnwch, proffesiynoldeb ac agwedd gadarnhaol Amanda yn eithriadol.
Louise Hook, gweithiwr cymorth gofalwyr oedolion yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Torfaen
Fe’i henwebwyd gan Mark Goodfellow, sy’n gweithio gyda Louise i roi gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr, a ddywedodd:
Mae Louise yn dweud, “Anelwch am y sêr”, a dyna beth mae hi’n ei wneud wrth gynorthwyo’r gofalwyr anweledig yn ein hardal. Yn ystod y 15 mis diwethaf, mae Louise wedi cadw’r cymorth i fynd ar gyfer gofalwyr oedolion, sydd wedi cynnwys galwadau ffôn rheolaidd, negeseuon e-bost ac, yn fwy diweddar, ymweliadau cartref.
Rydyn ni eisiau enwebu Louise oherwydd ei bod yn gweithio’n rheolaidd ar ei diwrnodau i ffwrdd a byth yn cwyno am y peth. Mae Louise yn rhoi 100 y cant i’w phrosiectau ac yn hoffi sicrhau eu bod yn cael eu gwneud i’r safon uchaf.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, trefnodd Louise ddathliadau Gofalwyr Torfaen, yn ogystal â’r galwadau ffôn dydd i ddydd pwysig, sy’n gallu bod yn emosiynol yn aml. Eleni, darllenodd ac ymatebodd Louise i fwy na 300 o geisiadau i wneud seibiant gofalwyr creadigol yn bosibl.
Dyluniodd, cynlluniodd a phlannodd Louise ardd blodau gwyllt mewn parc lleol i ddathlu ein gofalwyr, ac mae bellach yn cynllunio ei her nesaf – sef creu canolfan newydd i ofalwyr yng nghyfadeilad Tŷ Glas y Dorlan, y mae Louise yn cydnabod y mae angen iddi fod yn gynhwysol. Mae llawer o ofalwyr eisiau cynnwys yr unigolyn maen nhw’n gofalu amdano pan fyddant yn cael seibiant, ond peidio â bod â chymaint o gyfrifoldeb, dim ond am eiliad. Hefyd, dechreuodd Louise y broses o weld sut i gysylltu gofalwyr yn ddigidol os na allant gyrraedd y ganolfan yn bersonol.
Mae’r rhan fwyaf o waith cynllunio Louise yn cael ei wneud y tu allan i oriau gwaith, ac rydyn ni’n credu ei bod hi’n arloeswr!
Susan Williams, gweithiwr cymorth gofal ar gyfer Ymddiriedolaeth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru ym Mro Morgannwg
Enwebwyd Susan gan ei chyflogwr, sef Tina Tipples, a ddywedodd:
Yn ystod Covid, bu’n rhaid i ni gau ein canolfan ddydd ar gyfer cleientiaid â dementia. Felly, datblygom wasanaeth allgymorth ar gyfer ein cleientiaid, a olygodd fod staff wedi addasu eu ffordd o weithio trwy gyflwyno gweithgareddau y byddai cleient wedi’u gwneud yn y ganolfan ddydd yn eu cartrefi.
Disgleiriodd Susan yn y rôl hon – nid oedd erioed wedi gwneud unrhyw beth â chelf a chrefft o’r blaen, felly bu’n rhaid iddi addasu ei ffordd o weithio’n llwyr. Croesawodd Susan y galwadau allgymorth a gwnaeth wahaniaeth i fywydau ein cleientiaid trwy’r gweithgareddau a gynhaliodd gyda nhw yn ystod y galwadau.
Gwariodd Susan ei harian ei hun yn prynu eitemau celf a chrefft, a mwynhaodd ei ffordd newydd o weithio’n fawr. Arddangoswyd y gwaith celf a wnaeth Susan gyda’r cleientiaid yn ffenestri ein canolfan ddydd. A chawsom adborth gwych gan deulu yr oedd Susan wedi llwyddo i annog eu mam i wau eto.
Roedd Susan wedi gwella iechyd meddwl a lles ein cleientiaid yn fawr trwy ddarparu’r gwasanaeth hwn, a chafodd eu gofalwyr a’u perthnasau gyfle i gael seibiant tra bod Susan gyda’n cleientiaid. Mae Susan yn werth y byd ac mae hi wir yn rhoi 100 y cant yn ei rôl fel gweithiwr gofal ac yn rhoi lles pennaf ein cleientiaid wrth wraidd popeth mae’n ei wneud.
Gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant
Alex Preece, gweithiwr gofal therapiwtig yn Marlowe St David’s yn Sir Benfro
Enwebwyd Alex gan ei rheolwr llinell, sef Jenny Berrigan, a ddywedodd:
Mae Alex yn ifanc i fod yn ymgymryd â rôl gweithiwr gofal therapiwtig gyda phlant sydd wedi cael profiadau mor drawmatig yn y gorffennol. Mae wedi dangos natur benderfynol a brwdfrydedd ynglŷn â datblygu ei sgiliau a’i gwybodaeth i helpu i gynorthwyo’r plant sydd yn ein gofal. Mae Alex yn aelod dynamig o staff sy’n llawn bywyd, ac mae’n dwlu cynnwys y plant ym mhob agwedd ar eu gofal. Mae hefyd yn eirioli ar eu rhan, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod y gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig yn clywed yr hyn maen nhw’n ei ddweud go iawn.
Mae gan Alex ddychymyg rhyfeddol. Mae’n gallu rhoi gwedd bositif i bethau sy’n anodd i’r plant, gan wneud y profiad yn un difyr a phleserus. Mae Alex yn ofalgar ac yn empathetig, sy’n dod i’r amlwg wrth iddi ofalu am y plant a rhyngweithio â nhw o ddydd i ddydd. Ni allaf ei chanmol digon am ei hymrwymiad a’i hymroddiad i’n plant. Mae Alex yn uchel ei chymhelliad ac yn un o’r bobl hapusaf dwi erioed wedi cyfarfod â nhw, sy’n dod ag awyrgylch positif i’n cartref.
Mae gan Alex synnwyr cyffredin ac mae’n gallu meddwl yn gyflym wrth dawelu sefyllfaoedd a allai fod yn heriol i’r plant. Bydd yn aros yn bositif a byth yn gwneud i’r plant deimlo’n euog neu’n gywilyddus am eu hymddygiad. Mae Alex yn cynorthwyo’r plant â’r anawsterau y gallent fod yn eu cael, gan bob amser siarad ar lefel maen nhw’n ei deall a gwrando’n astud ar sut maen nhw’n teimlo. Yn ystod y 15 mis diwethaf, mae Alex wedi gwneud y cyfnodau clo’n ddifyr ac yn llawn cyffro. Mae wedi defnyddio ei dychymyg i feddwl am syniadau gwych i ddifyrru’r plant a’r staff.
Conor O’Leary, ymarferydd gofal preswyl i blant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Enwebwyd Conor gan ei reolwr llinell, sef Mandy Meredith, a ddywedodd:
Pan gyhoeddwyd bod rhaid i bobl warchod oherwydd y pandemig, collodd ein cartref plant 50 y cant o’i staff dros nos. Gan ein bod yn gartref sy’n cael ei lywio gan drawma, fe sylweddolon ni ar unwaith y byddai hyn yn cael effaith enfawr ar ein plant a’n pobl ifanc, oherwydd dim ond newydd ddechrau ffurfio perthnasoedd cadarnhaol ag oedolion yr oeddent, ac roeddent yn ofnus ac yn amharod i ymddiried oherwydd trawma yn y blynyddoedd cynnar.
Ymatebodd Conor yn syth. Pan esboniais y byddai’n rhaid i hanner y tîm fynd adref, ei ymateb ef oedd, “Rhowch awr i fi, fe gasgla i fy mhethau a symud i mewn, tan i ni wybod beth fydd rhaid i ni ei wneud, i wneud i’r plant deimlo’n ddiogel.” Cyrhaeddodd Conor y cartref a symudodd i mewn am bythefnos cyntaf y pandemig.
Ymroddodd i roi profiad a rennir i’n pobl ifanc yn eu byd ansicr a oedd yn newid eto. Gwnaeth adeg frawychus iawn yn brofiad a rennir, lle y gallent ddod o hyd i bethau positif bob dydd. Daeth coginio, garddio, paentio, Joe Wicks a cholur yn weithgareddau dyddiol, a dywedodd ein plant eu bod yn teimlo ein bod ni’n wynebu hyn gyda’n gilydd.
Rhoddodd Conor gymorth a gofal amhrisiadwy, ac roedd wir yn glod i’r proffesiwn. Rhoddodd gofal a chymorth trwy’r chwerthin a’r dagrau. Teimlaf ei fod yn haeddu cael ei gydnabod am hyn ac am fod yn esiampl dda yn ein gwasanaeth. Gweithred o dosturi tuag at eraill oedd hyn a dealltwriaeth o’u hanghenion.
Debra Evans, rheolwr preswyl yn Harwood House a Baker’s Way ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Enwebwyd Debra gan ei rheolwr llinell, sef Steven Howell, a ddywedodd:
Pan arweiniodd pandemig y coronafeirws at y cyfnod clo cenedlaethol, penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gau un o’i gartrefi gofal plant, sef Baker’s Way, am gyfnod dros dro. Mae’r cartref fel arfer yn darparu seibiant byr i blant a phobl ifanc anabl hyd at 18 oed.
Fodd bynnag, ar ddiwedd mis Mawrth 2020, cafodd y cyngor atgyfeiriad gan ysbyty lle’r oedd rhieni plentyn ifanc wedi cael eu derbyn gydag achos posibl o Covid-19. Roedd y ddau riant yn ddifrifol wael ac roedd eu plentyn ifanc yn crwydro o amgylch y ward. Ar adeg yr atgyfeiriad, roedd Debra, sy’n rheoli Baker’s Way a chartref gofal plant arall yn y sir, gartref.
Heb lawer o fynediad at gyfarpar diogelu personol a fawr ddim ystyriaeth o’i hiechyd ei hun, cytunodd yn syth i baratoi Baker’s Way i dderbyn y plentyn ifanc, gan ffurfio tîm bach o staff yn gyflym a allai weithio yn y cartref yn unig a threfnu bws mini i gasglu’r plentyn o’r ysbyty a mynd ag ef i Baker’s Way. Nid oedd y plentyn ifanc yn gallu cyfathrebu oherwydd nam ar y clyw, felly trefnodd Debra i’w flwch cymorth clyw gael ei ddanfon i Baker’s Way.
Yn ystod eu cyfnod yn Baker’s Way, roedd Debra’n byw yn y cartref, i bob pwrpas, o ddydd Llun i ddydd Iau er mwyn cyfyngu ar nifer y bobl a oedd yn dod i gysylltiad â’r plentyn a datblygu perthynas ag ef i leihau ei ofid. Pan gafodd y plentyn prawf Covid-19 positif, parhaodd Debra i’w gynorthwyo, gan reoli pryderon ei staff a’i phryderon ei hun.
Tra roedd yn gofalu am y plentyn, bu’n rhaid i Debra roi’r newyddion ofnadwy iddo fod ei fam yn debygol iawn o farw, a phan ddigwyddodd hynny, bu’n rhaid iddi roi’r newyddion trist a thrallodus iawn i’r plentyn. Treuliodd Debra amser gyda’r plentyn, yn tynnu lluniau o bethau yr oedd ei fam yn eu hoffi a pharatoi print llaw a chudyn o wallt i’w cyfnewid â’i fam.
Ar yr un pryd, roedd tad y plentyn yn sâl iawn yn yr ysbyty, ac roedd y staff nyrsio’n credu y byddai yntau’n marw hefyd. Bu’n rhaid i Debra siarad â’r plentyn am y posibilrwydd y byddai hyn yn digwydd. Er mawr ryddhad, ymatebodd tad y plentyn yn gadarnhaol i’r driniaeth ac fe oroesodd, gan lwyddo i siarad â’i blentyn trwy Facetime ar ei ben-blwydd.
Drwy gydol y cyfnod trawmatig iawn hwn i’r plentyn ifanc, cysylltodd Debra â gweithwyr proffesiynol i sicrhau eu bod yn gallu cynorthwyo’r plentyn, gan wneud hynny gyda chryn empathi a sensitifrwydd, a chyda heriau ychwanegol y cyfnod clo, defnyddio cyfarpar diogelu personol a’r ansicrwydd cyffredinol.
Credaf fod Debra wedi gwneud llawer mwy na’r disgwyl o ran y ffordd mor anhunanol yr ymatebodd yn ystod pandemig byd-eang a rhoi anghenion y plentyn hwn cyn unrhyw bryderon personol a oedd ganddi. Gellir gweld yr effaith a gafodd Debra trwy’r ffaith bod tad y plentyn, yn ystod trafodaeth ddiweddar ynglŷn â phwy yr hoffai iddo ofalu am ei blentyn pe na byddai ef yn gallu gwneud hynny yn y dyfodol, wedi dweud yr hoffai i Debra wneud hynny.
Cymorth gofal cymdeithasol i bobl hŷn
Katie Hall, cynorthwy-ydd gofal ym Mryntirion Tregaron yng Ngheredigion
Enwebwyd Katie gan ei chydweithiwr, MC Lai, a ddywedodd:
Mae Katie yn ofalwr gwych sy’n deall yr henoed yn reddfol ac yn gwybod sut i wneud iddynt gredu ynddynt eu hunain a disgleirio, yn enwedig pan fydd ganddynt ddementia.
Pan darwyd cartref gofal Min-y-Môr gan Covid-19 ym mis Rhagfyr 2020, Katie oedd yr unig aelod o staff parhaol yn y cartref gofal o fewn diwrnodau. Trefnodd y gofalwyr asiantaeth brys, a gweithiodd ddydd a nos am wythnosau i gynnig cysur ei hwyneb cyfarwydd i’n holl breswylwyr a oedd yn ynysu. Ei llais hi oedd yr olaf a glywodd rai pan gollasant eu bywydau i Covid-19. Rhoddodd ei bywyd yn y fantol heb feddwl ddwywaith bob eiliad o bob sifft a weithiodd - ac mae hi ond yn 26 oed.
Pan glywaf am arwyr di-glod, rwy’n meddwl am Katie yn ystod yr adeg ofnadwy honno ac yn credu’n ddiffuant fod ei hanhunanoldeb proffesiynol a’i dewrder hael yn haeddu cydnabyddiaeth.
Katie Newe, rheolwr gwasanaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych
Enwebwyd Katie gan ei rheolwr llinell, sef Ann Lloyd, a ddywedodd:
"Ers i’r cyfnod clo ddechrau ym mis Mawrth 2020, mae Katie wedi ymroi i sicrhau bod yr holl bobl hŷn rydym yn eu cynorthwyo yn ein gwasanaethau yn ddiogel. Roedd lles ein preswylwyr o’r pwys mwyaf iddi ac fe aeth allan o’i ffordd i hyrwyddo arfer gorau.
Rhannodd Katie y profiadau a gafwyd yn ein cartrefi â’r sector annibynnol, a’u gwthio i edrych yn feirniadol ar eu harferion eu hunain er mwyn lleihau’r perygl o drosglwyddo Covid. Trefnodd gyfarfodydd wythnosol i roi cymorth gan gymheiriaid i berchnogion a rheolwyr cartrefi gofal preswyl – gyda chyfarfod ar wahân ar gyfer gofal cartref – gan gydnabod ein bod ni’n gryfach o lawer gyda’n gilydd nag ar wahân.
Ar yr un pryd ag arwain gwasanaeth mawr a chynorthwyo ein partneriaid annibynnol, torchodd Katie ei llewys a helpu lle bynnag yr oedd angen. Gweithiodd yn ddiflino yn ein cartrefi gofal ni, mewn tai gofal ychwanegol ac mewn cartrefi yn y sector annibynnol a oedd wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Ni fyddai’n meddwl dwywaith am weithio saith diwrnod yr wythnos a gweithio sifftiau gyda’r nos ac yn ystod y nos os dyna oedd ei angen i gynorthwyo ein dinasyddion a rhoi saib i staff a oedd wedi blino’n lân a chyrraedd pen eu tennyn.
Roedd Katie yn graig i’w thîm, ac roedd ei brwdfrydedd a’i hymrwymiad i’r sector gofal cymdeithasol heb ei ail. Roedd hi wir yn esiampl eithriadol o dda. Rwy’n hollol siŵr bod ei diwydrwydd a’i phenderfynoldeb drwy gydol y pandemig wedi diogelu llawer o’n pobl hŷn agored i niwed yn Sir Ddinbych."
Lisa Parfitt, cydlynydd gweithgareddau yng Nghymdeithas Dai Hafod yng Nghaerffili
Enwebwyd Lisa gan ei rheolwr llinell, sef Karen Davis, a ddywedodd:
Mae Lisa wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y 18 mis diwethaf i godi ysbryd staff a phreswylwyr yn y cartref gofal. Yn ystod y cyfnodau clo, pan oedd amserlenni trenau a bysiau’n afreolaidd, aeth Lisa allan o’i ffordd i helpu ei chydweithwyr. Darparodd gludiant er mwyn i staff ddod i’r gwaith ac aeth â nhw adref eto ar ddiwedd eu sifft. Roedd hyn yn golygu y byddai’n aml yn dod i’r gwaith yn gynnar ac yn dychwelyd eto gyda’r nos i sicrhau bod staff yn cyrraedd adref yn ddiogel.
Ysbrydolodd Lisa ei chydweithwyr i ddifyrru’r preswylwyr a’u cadw mewn cysylltiad â’u hanwyliaid trwy blatfformau cyfryngau digidol pan oedd y cartref ar gau i ymwelwyr. Pan ganiatawyd ymwelwyr o’r tu allan, gweithiodd Lisa’n galed i drefnu i gynifer o berthnasau â phosibl ymweld, a sefydlodd brotocol sgrinio ymwelwyr i gadw pawb yn ddiogel.
Mae Lisa’n cyd-dynnu’n wych â’i chydweithwyr a’r preswylwyr. Mae’n siriol ac yn gymwynasgar, ac yn rhoi’r preswylwyr yn gyntaf bob amser. Mae hi wedi cymryd rhan mewn sesiynau TikTok gyda’r preswylwyr a’u postio ar ein tudalen Facebook breifat fel bod eu teuluoedd yn gallu gweld bod eu hanwyliaid yn ddiogel ac yn hapus.
Mae Lisa wedi gofalu am ein tudalen Facebook a, chyda’r caniatâd priodol, wedi postio gwybodaeth i deuluoedd am ymweld, ynghyd â lluniau o’r preswylwyr yn chwerthin, yn gwenu ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, sydd wedi helpu i roi tawelwch meddwl i’w hanwyliaid. Lluniodd Lisa arolygon Facebook hefyd, er mwyn i ni gael adborth i’n helpu i wella ein gwasanaeth.
Gofalodd Lisa fod y preswylwyr yn cymryd rhan mewn gemau, coginio a gwaith crefft, ac addurnodd y ffenestri i ddathlu digwyddiadau. Helpodd i godi chwant bwyd y preswylwyr hefyd, a chael hwyl ar yr un pryd. Mae pawb wedi mwynhau’r pethau mae Lisa wedi’u paratoi gyda’r preswylwyr yn y gegin, sydd wedi cynnwys bara, stiw a chacennau.
Yn ddiweddar, gwnaeth Lisa, ynghyd â’r preswylwyr, welliannau mawr i’n gardd gymunedol ac mae’n bleser eistedd a mwynhau’r blodau a’r deiliach. Mae Lisa yn aelod uchel ei pharch o Dîm Tŷ Penrhos – does dim byd yn ormod o drafferth iddi ac mae’n llwyr haeddu’r gydnabyddiaeth yma.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Sêr Gofal, cysylltwch â ni.