Jump to content
Helpwch ni i ddiweddaru'r fframweithiau prentisiaethau ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Newyddion

Helpwch ni i ddiweddaru'r fframweithiau prentisiaethau ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n gweithio gyda Medr i gasglu adborth am fframweithiau prentisiaethau Cymru ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, a ddatblygwyd yn 2019 a 2020.

Rhwng 15 Medi a 10 Hydref, hoffen ni glywed eich barn am ein newidiadau arfaethedig.

Beth sydd wedi newid?

Gofynnon ni i bobl sy'n darparu prentisiaethau, a chyrff rheoleiddio eraill, am eu barn am y wybodaeth yn y fframweithiau prentisiaethau.

Fe wnaethon nhw awgrymu:

  • cyfuno'r fframweithiau presennol yn un fframwaith ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac un fframwaith ar gyfer Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
  • diweddaru'r wybodaeth gyffredinol
  • gwneud yr iaith yn fwy gweithgar i hyrwyddo gwrth-wahaniaethu, a chryfhau sut y gallai fod angen cymhwyso addasiadau rhesymol i brentisiaethau
  • gostwng y lefel Sgiliau Hanfodol ar gyfer Cymhwyso Rhifau ar gyfer rhai o'r prentisiaethau Lefel 3
  • gwneud cysylltiadau clir â'r fframwaith cymwysterau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Nid yw'r cymwysterau galwedigaethol yn y fframwaith yn rhan o'r ymgynghoriad hwn.

Wrth sôn am yr ymgynghoriad, dywedodd ein Prif Weithredwr, Sarah McCarty: "Mae'r adolygiad hwn yn gyfle pwysig i wella profiad dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru.

"Mae prentisiaethau yn ffordd bwysig a phoblogaidd o gefnogi datblygiad proffesiynol. Maen nhw’n cyfuno gweithio yn y sector gyda chefnogaeth gan weithwyr proffesiynol profiadol ochr yn ochr â hyfforddiant ffurfiol.

"Dyfarnwyd tystysgrifau prentisiaeth i fwy na 4,000 o bobl yng Nghymru y llynedd, gan ennill y cymwysterau sydd eu hangen ar weithwyr gofal cymdeithasol ar gyfer cofrestru'n broffesiynol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, felly rydyn ni am glywed gan gymaint o bobl â phosibl - yn enwedig y rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu neu wneud prentisiaethau.

"Bydd eich adborth yn helpu i lunio dyfodol y fframweithiau hyn, felly cymerwch ran yn ein hymgynghoriad ar-lein ac annog eraill i wneud yr un peth."

Dywedodd Harriet Barnes, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Sgiliau Medr: "Rydym yn falch o weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i adolygu'r fframweithiau prentisiaethau hyn. Mae ein data yn dweud wrthym fod galw mawr am brentisiaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant ledled Cymru, felly mae'n bwysig eu bod yn gyfredol ac yn adlewyrchu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r economi.

"Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ddarparwyr dysgu a rhanddeiliaid, felly byddem yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad fframwaith prentisiaethau hwn ac anfon eu hadborth."

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad

Rydyn ni eisiau clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn prentisiaethau ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a'r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Medr

Medr, Comisiwn Cymru ar gyfer Addysg ac Ymchwil Trydyddol, yw'r corff hyd braich sy'n gyfrifol am ariannu a rheoleiddio addysg ac ymchwil drydyddol, ers 1 Awst 2024.

Mae hyn yn cynnwys addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, chweched dosbarth ysgolion, dysgu oedolion yn y gymuned, ac ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth.