Jump to content
Ymateb i’r pandemig yn dangos gwerth ein gweithwyr gofal cymdeithasol
Newyddion

Ymateb i’r pandemig yn dangos gwerth ein gweithwyr gofal cymdeithasol

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Mae'r pandemig coronafeirws wedi tynnu sylw at y rôl amhrisiadwy y mae gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol yn ei chwarae yng Nghymru, bob dydd ym mhob cymuned.

Mewn amseroedd arferol, mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar wella llesiant pobl a’u helpu i fyw’r bywyd sy’n bwysig iddyn nhw. Ac nid yw hynny wedi bod yn wahanol yn ystod y pandemig, gyda gweithwyr yn mynd milltir ym mhellach i ddarparu'r lefel angenrheidiol o ofal a chymorth er gwaethaf y nifer o heriau a achosir gan y firws.

Mewn sawl cartref gofal ledled Cymru, mae gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen wedi bod yn byw yn yr adeilad i gysgodi a chefnogi preswylwyr, ac i atal y firws rhag lledaenu. Mae angen i bob un ohonom gydnabod a dathlu eu trugaredd a'u hymrwymiad.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol hefyd wedi bod yn defnyddio ffyrdd creadigol i alluogi aelodau'r teulu i ymweld â'u hanwyliaid yn rhithwir, lle nad yw cyswllt wyneb yn wyneb yn bosibl ar hyn o bryd. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer gofal diwedd oes, pan fydd angen cymorth ar aelodau'r teulu i ffarwelio.

Mae cymorth hanfodol i deuluoedd sy'n gofalu am blant ac oedolion ag anghenion cymhleth wedi bod yn enwedig o anodd i ddarparu yn ystod y pandemig.

Mae llawer o wasanaethau wedi'u lleihau, oherwydd pwysau staffio a phellter cymdeithasol, felly mae ymarferwyr wedi ymateb trwy ddefnyddio technoleg ddigidol a ffyrdd newydd o weithio i ddarparu cymorth rhithwir.

Cafwyd enghreifftiau hefyd o gydweithio effeithiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, sydd wedi galluogi pobl sy'n gadael yr ysbyty ar ôl cael triniaeth am coronafeirws i wella adref gyda chymorth gan wasanaethau gwirfoddol a chynghorau. Pan fyddwn yn ei gael yn iawn, mae ymatebion di-dor yn bosibl.

O ystyried faint o weithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi bod ar y rheng flaen, yn brwydro yn erbyn effeithiau gwaethaf y firws i gadw'r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn ddiogel, nid yw'n syndod bod gofal cymdeithasol yn un o'r pum galwedigaeth sydd â'r cyfraddau uchaf o farwolaethau sy'n gysylltiedig â coronafeirws. yng Nghymru a Lloegr.

Ac eto, ar gyfartaledd, mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu talu llawer llai na gweithwyr allweddol eraill. Ym mis Ebrill eleni, amlygodd y Resolution Foundation fod 56 y cant o weithwyr gofal rheng flaen yng Nghymru yn ennill is na'r cyflog byw wirfoddol.

Mae eu sgil a'u hymroddiad, mewn argyfwng ac ar unrhyw adeg arall, yn haeddu gwobr deg sy'n adlewyrchu'r rhan hanfodol y maent yn ei chwarae yn llesiant pobl a'n cymunedau. Mae hyn yn rhywbeth a gydnabyddir gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg.

Yn ogystal ag ailedrych ar fater gwobr deg i weithwyr gofal cymdeithasol, bydd yn bwysig, wrth i ni ddod allan o'r pandemig, ystyried buddsoddi mewn ffyrdd newydd o ddarparu gofal a chymorth.

Bydd angen ffyrdd modern, effeithlon o gefnogi pobl. Mewn proffesiwn lle mae cyswllt dynol mor bwysig, mae'r pandemig wedi atgyfnerthu pa mor bwysig yw gallu gweithio a chyfathrebu mor effeithiol yn rhithwir, ag y mae wyneb yn wyneb.

Er mwyn gwneud hyn yn bosibl, mae angen dull cydgysylltiedig o drawsnewid ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus eraill sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n defnyddio potensial technoleg ddigidol.