Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Sir Ddinbych wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ddarganfod bod nam ar ei ffitrwydd i ymarfer ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.
Roedd Daniel Percival yn gweithio mewn cartref plant yn Sir Ddinbych pan ei gyhuddwyd o fod â pherthynas amhriodol â chymhelliant rhywiol gyda pherson ifanc dan ei ofal.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad fod Mr Percival wedi cyffwrdd â pherson ifanc yn ei ofal ym mis Mai 2019 mewn ffordd â chymhelliant rhywiol wrth deithio mewn car a chaniatau i'r person ifanc wneud yr un peth iddo.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad hefyd fod Mr Percival wedi gwneud sylwadau amhriodol ac wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at y person ifanc ar achlysuron eraill.
Gan ymddangos gerbron y panel, roedd Mr Percival yn anghytuno â'r cyhuddiadau ond derbyniodd, gyda budd o edrych yn ôl, fod rhai o'i ryngweithio gyda'r person ifanc yn amhriodol.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth, canfu'r panel fod y cyhuddiadau wedi'u profi a daeth i'r casgliad bod Mr Percival wedi gweithredu mewn ffordd a oedd yn torri'r ymddiriedaeth a roddwyd ynddo fel gweithiwr proffesiynol ac yn dangos diffyg uniondeb.
Felly penderfynodd y panel fod nam ar addasrwydd Mr Percival i ymarfer ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.
Esboniodd y panel ei benderfyniad, gan ddweud wrth Mr Percival: “Mae ein canfyddiadau ffeithiol yn gyfystyr â phenderfyniad eich bod wedi ymgymryd â chysylltiad rhywiol amhriodol â merch 14 oed agored i niwed a oedd yn eich gofal proffesiynol.
“Mae hyn yn gyfystyr â thorri’r ymddiriedolaeth a roddwyd ynoch chi fel gweithiwr proffesiynol. Mae'n debygol ei fod wedi gwaethygu'r anawsterau a ddioddefodd y person ifanc eisoes.
“Rydyn ni wedi penderfynu ei fod yn gyfystyr â thorri egwyddor graidd gofal cymdeithasol ac wedi dangos diffyg uniondeb proffesiynol. Roedd yn peryglu tanseilio hyder y cyhoedd mewn gofal cymdeithasol a'r gofal a roddir i blant yng nghartrefi plant yn benodol.
“Rydyn ni wedi dod i'r casgliad eich bod chi'n cyflwyno risg i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau oherwydd y potensial i chi orgyffwrdd ffiniau proffesiynol yn y dyfodol.”
Penderfynodd y panel dynnu Mr Percival o’r Gofrestr, gan ddweud: “Yn ein barn ni, mae’n gymesur â difrifoldeb y camymddwyn. Rydym yn fodlon na fyddai unrhyw warediad llai yn ddigonol i amddiffyn y cyhoedd.”
Cynhaliwyd y gwrandawiad o bell tridiau dros Zoom rhwng 16 a 18 Tachwedd 2020.