Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad gan Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei gamymddygiad difrifol yn amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.
Clywodd y gwrandawiad fod Anthony Abbiss, ym mis Rhagfyr 2018, wedi gafael yn amhriodol yng nghoes person ifanc agored i niwed yn ei ofal, a’i lusgo ar draws ardal lanio yn y cartref plant lle roedd yn gweithio.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad nad oedd ymddygiad Mr Abbiss yn cyrraedd y safonau a nodir yn y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
Penderfynodd y panel fod camymddygiad difrifol Mr Abbiss yn amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.
Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Rydym wedi canfod bod [Mr Abbiss] wedi cydio yng nghoes person ifanc agored i niwed yn ei ofal a’i lusgo, pan nad oedd angen ymyrryd yn gorfforol. Roedd yn amlwg yn amhriodol iawn.
“Roedd [y person ifanc yn ei ofal] yn agored i niwed yn emosiynol ac roedd ymddygiad Mr Abbiss yn fygythiad gwirioneddol i’w les.”
Ychwanegodd y panel: “Mae gweithredu i niweidio plentyn yn hytrach na’i helpu yn amlwg yn groes i un o egwyddorion mwyaf sylfaenol gofal cymdeithasol, ac ni allwn fod yn hyderus na fyddai achos o dorri yn digwydd yn y dyfodol.”
Penderfynodd y panel dynnu Mr Abbiss oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Mae natur a difrifoldeb yr amhariad ar addasrwydd Mr Abbiss i ymarfer yn golygu nad yw’n briodol i ni beidio â gweithredu...”
Ychwanegodd y panel: “Mae Mr Abbiss wedi cyfyngu ar ein dewisiadau drwy beidio â chymryd rhan yn y gwrandawiad hwn a nodi nad yw’n dymuno parhau i weithio ym maes gofal cymdeithasol wedi’i reoleiddio.
“Rydym wedi penderfynu mai Gorchymyn Tynnu yw’r unig benderfyniad priodol a’i fod yn ganlyniad angenrheidiol a chymesur.”
Nid oedd Mr Abbiss yn bresennol yn y gwrandawiad deuddydd a gynhaliwyd o bell dros Zoom yr wythnos ddiwethaf.