Jump to content
Tynnu gweithiwr cymdeithasol oddi ar y Gofrestr am fethu dilyn argymhellion
Newyddion

Tynnu gweithiwr cymdeithasol oddi ar y Gofrestr am fethu dilyn argymhellion

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr cymdeithasol wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad adolygu canfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd.

Cafodd Muhammad Tahseen ei atal am 12 mis gan Wasanaeth Tribiwnlysoedd y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPTS) yn 2017, ar ôl iddo ganfod bod camymddygiad difrifol wedi amharu ar addasrwydd Mr Tahseen i ymarfer.

Bu Mr Tahseen yn anonest trwy ddarparu cyfeiriad e-bost ffug i asiantaeth recriwtio er mwyn cael geirda, ac yna darparodd eirda ffug o’r cyfeiriad hwnnw.

Yn sgil penderfyniad HCPTS, penderfynodd panel addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru atal Mr Tahseen hefyd am 12 mis a rhoddwyd amodau ar ei gofrestriad.

Ym mis Ionawr 2019, cyfarfu panel adolygu addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru i adolygu p’un a oedd Mr Tahseen wedi cydymffurfio â’r amodau a osodwyd arno.

Er bod Mr Tahseen wedi cydymffurfio â’r amodau, penderfynodd y panel nad oedd yn fodlon bod Mr Tahseen wedi cymryd camau i gywiro’i anonestrwydd na dangos unrhyw ddirnadaeth o’i ymddygiad.

Penderfynodd y panel adolygu ddirymu’r amodau a osodwyd ar gofrestriad Mr Tahseen a’i atal am 12 mis arall, gydag argymhellion.

Yn gynharach yr wythnos hon, cyfarfu panel adolygu Gofal Cymdeithasol Cymru i adolygu’r cynnydd a wnaed gan Mr Tahseen wrth fodloni’r argymhellion a wnaed ym mis Ionawr 2019.

Canfu’r panel fod Mr Tahseen wedi methu dilyn argymhellion y panel blaenorol a phenderfynodd, o ganlyniad, bod amhariad presennol ar ei addasrwydd i ymarfer.

Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel adolygu: “Rydym yn siomedig i nodi bod Mr Tahseen wedi methu dilyn unrhyw un o argymhellion y panel addasrwydd i ymarfer blaenorol.”

Meddai’r panel ymhellach: “Nid yw Mr Tahseen wedi darparu unrhyw wybodaeth i ni sy’n rhoi sicrwydd i ni ei fod wedi cywiro’i ddiffygion cyn gwrandawiad heddiw.

“Ystyriwn fod Mr Tahseen yn risg i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau a bod ei weithredoedd wedi tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol.

“Hefyd, rydym wedi canfod na ellir dibynnu ar ei uniondeb a’i fod wedi torri un o ddaliadau sylfaenol y proffesiwn gofal cymdeithasol.”

Penderfynodd y panel dynnu Mr Tahseen oddi ar y Gofrestr yng Nghymru, gan ddweud: “Roedd anonestrwydd yn ymddygiad Mr Tahseen, sy’n arbennig o ddifrifol oherwydd gall danseilio ffydd mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol.

“Mae Mr Tahseen wedi dangos diffyg dirnadaeth gyson o ddifrifoldeb ei weithredoedd ac mae wedi cefnu’n ddifrifol ar y safonau proffesiynol perthnasol a amlinellir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol. Nid ydym yn ystyried bod unrhyw ffordd arall o amddiffyn y cyhoedd.”

Nid oedd Mr Tahseen yn bresennol yn y gwrandawiad adolygu undydd yn gynharach yr wythnos hon.