Jump to content
Rydyn ni wedi lansio ein harolwg ‘Dweud Eich Dweud 2025’
Newyddion

Rydyn ni wedi lansio ein harolwg ‘Dweud Eich Dweud 2025’

| Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr
Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ddibynnol ar yr 84,000 o bobl sy’n gweithio yn y sector ac sy’n darparu gofal yn ein cymunedau.

Mae darparu gwasanaethau o ansawdd yn dibynnu ar y gweithlu, ac er mwyn canfod sut i gefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol yn well rydyn ni’n cynnal arolwg ‘Dweud eich dweud’ bob blwyddyn.

Rydyn ni’n gofyn i weithwyr cymdeithasol cofrestredig am eu barn am faterion fel cyflog ac amodau, iechyd a llesiant, a beth maen nhw’n ei hoffi am weithio ym maes gofal.

Mae’r arolwg anhysbys yn ffordd pwysig o sicrhau bod gweithwyr yn cael cyfle i leisio eu barn am y ffordd maen nhw’n teimlo.

Mae’n darparu gwybodaeth werthfawr rydyn ni’n ei rhannu ag arweinwyr ym maes gofal cymdeithasol, cyflogwyr a'r rhai sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn llywio'r cymorth a'r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig.

Yn 2024, cymerodd mwy na 5,000 o weithwyr rhan yn yr arolwg.

Roedd yr ymatebion yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn dewis gweithio ym maes gofal cymdeithasol am eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yn tynnu sylw at eu hymroddiad a’u hymrwymiad tuag at y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw a’u teuluoedd.

Dywedodd mwyafrif y gweithwyr bod eu morâl yn uchel a’u bod yn teimlo fel petai eu cydweithwyr, eu rheolwyr a’r bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw’n gwerthfawrogi eu gwaith.

Roedd hi’n braf iawn clywed hynny ac mae’n awgrymu bod gofal cymdeithasol yn faes da i weithio ynddo.

Ond roedd yr arolwg hefyd yn dangos bod llesiant ein gweithwyr gofal cymdeithasol yn waeth na chyfartaledd y DU.

I gyd-fynd â lansiad yr arolwg eleni, wnaethon ni ddathlu ein hwythnos lesiant gyntaf ddiwedd mis Ionawr.

Ymunodd mwy na 300 o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant â ni mewn cyfres o weminarau a gweithdai ar-lein er mwyn dysgu am lesiant a rhannu ymarfer da.

Bu’r wythnos yn llwyddiant ysgubol, a dywedodd 98 y cant o’r rhai a gymerodd ran eu bod wedi dysgu rhywbeth y byddan nhw’n gallu ei roi ar waith yn y gweithle.

Y llynedd, rhoddodd yr arolwg ‘Dweud eich Dweud’ darlun gwerthfawr i ni o brofiadau’r rhai sy’n gweithio mewn gofal, ac eleni, rydyn ni eisiau clywed gan fwy byth o weithwyr.

Felly os ydych chi, neu rywun rydych chi’n adnabod, yn gweithio ym maes gofal, bydden ni wrth ein bodd yn clywed eich barn.

Mae’r arolwg ar agor tan 7 Mawrth. Gallwch chi ddysgu mwy am sut i gymryd rhan yma.