Jump to content
'Rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i ddathlu'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu'
Newyddion

'Rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i ddathlu'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu'

| Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr

Rydyn ni'n anfon e-fwletin rheolaidd at bawb ar ein Cofrestr. Mae pob e-fwletin yn cynnwys neges gan ein Prif Weithredwr, Sarah McCarty.

Dyma neges Sarah o e-fwletin Mawrth 2025 yn ei gyfanrwydd.

Shwmae cydweithwyr,

Croeso i'n bwletin diweddaraf. Roeddwn i eisiau dechrau gyda diolch, gan fod mwy na 5,000 ohonoch chi wedi cymryd rhan yn ein harolwg Dweud Eich Dweud.

Mae'r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ni am eich profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol. Gallwn ni ddefnyddio eich ymatebion i benderfynu ble mae angen i ni weithredu, a byddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i wneud hyn.

Byddwn ni’n rhannu canfyddiadau'r arolwg gyda chi yn ddiweddarach eleni.

Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd y gwaith rydych chi'n ei wneud i gefnogi pobl, teuluoedd a gofalwyr. Rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i ddathlu'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig, nid yn unig i chi, ond hefyd i roi hyder i bobl, teuluoedd a gofalwyr yn y gwaith rydych chi'n ei wneud, ac i'n helpu i ddenu gweithwyr gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy Gofalwn Cymru, ein menter gyda'r sector i godi proffil y gwahanol swyddi sydd ar gael ym maes gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar.

Yn ddiweddar, mae Gofalwn Cymru wedi cynnal ymgyrchoedd am brentisiaethau a gwirfoddoli. Mae ei holl adnoddau ar gael am ddim, a gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw ar wefan Gofalwn.

Rydyn ni bellach yn yr wythnosau olaf o drefnu seremoni'r Gwobrau. Diolch am eich holl geisiadau ac enwebiadau.

Rydyn ni'n cynnal pleidlais gyhoeddus i benderfynu dwy o’r enillwyr eleni. Cymerwch olwg ar y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yma a phleidleisiwch dros y gweithwyr rydych chi'n meddwl y dylid eu coroni'n enillwyr.

Fe wnaeth y dathliadau parhau yr wythnos diwethaf gydag Wythnos Gwaith Cymdeithasol. Fe wnaethon ni gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a sesiynau ysbrydoledig i nodi'r achlysur.

Y mis hwn fe wnaethon ni hefyd ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Thema eleni yw 'Cyflymu Gweithredu', sy'n galw am strategaethau, adnoddau ac atebion effeithiol i sicrhau bod gan fenywod hawliau cyfartal.

Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at gydraddoldeb rhywiol dros y 100 mlynedd diwethaf, ond mae gennym ni ffordd i fynd o hyd. Manteisiwch ar y cyfle i herio gwahaniaethu a dathlu llwyddiant y menywod yn eich bywydau.

Dymuniadau gorau,

Sarah