Mae’r bleidlais nawr ar agor i ddewis dau o enillwyr y Gwobrau 2025.
Rydyn ni nawr yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i bleidleisio dros y ddau berson maen nhw’n meddwl dylai gael eu coroni’n enillwyr y wobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig a’r wobr Gofalwn Cymru ar gyfer gweithwyr gofal ardderchog.
Mae'r Gwobrau, a noddir gan Llais, yn wobrau sy'n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae saith gweithiwr ysbrydoledig o’r gweithluoedd gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar wedi’u dewis gan ein paneli o feirniaid arbenigol i gyrraedd rownd derfynol y ddau gategori eleni.
Y bedair gweithiwr cymdeithasol wych sydd wedi’u dewis i gyrraedd rownd derfynol y wobr Gofalwn Cymru yw:
- Casey Baker, Gweithiwr Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Gayle Jones, Cydlynydd Gofal yn Habitat Homecare yn Abertawe
- Sarah Sharpe, Gwarchodwr Plant Cofrestredig yn Poppins Daycare ym Mro Morgannwg
- Terri Steele, Gwarchodwr Plant Cofrestredig Hunangyflogedig o Aberteifi.
Y tair sydd wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol i gyrraedd rownd derfynol y wobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig yw:
- Avril Bracey, Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng Nghyngor Sir Gâr
- Ffion Cole, Prif Swyddog yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Keri Warren, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni wobrwyo'r Gwobrau 2025 yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ar 1 Mai.
Dywedodd Sarah McCarthy, ein Prif Weithredwr: “Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol y wobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig a’r wobr Gofalwn Cymru!
“A diolch i bawb a enwebodd weithiwr ar gyfer gwobrau eleni. Cawsom safon uchel iawn o geisiadau ac mae’r saith sydd wedi cyrraedd y ddau rownd derfynol yn dangos ystod y gofal a chymorth rhagorol sy’n cael ei ddarparu ar draws y sector gofal ledled Cymru.
“Rydyn ni’n gwybod bod gweithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yn cael eu gwerthfawrogi am y gofal a’r cymorth a ddarperir ledled Cymru, ond nid yw’r gweithlu hollbwysig hwn bob amser yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi gan y cyhoedd. Dyma’ch cyfle i ddangos cefnogaeth. Pleidleisiwch dros ein cystadleuwyr yn y rownd derfynol a phwy y credwch y dylid eu henwi’n enillwyr ar gyfer 2025.”