Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi’u sefydlu ar egwyddorion sy’n canolbwyntio ar rymuso pob un ohonom ni fel dinasyddion i fyw’r bywydau sy’n bwysig i ni.
Mae hynny’n golygu gwneud yn siŵr bod gennym ni lais a rheolaeth, a bod gwasanaethau’n gweithio gyda ni i ymateb i’n hanghenion gofal a chymorth ni, neu rai ein teulu.
I wneud hyn yn dda, mae’n golygu bod angen i ni gynorthwyo pawb i allu cyfleu’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
Yn ddiweddar, cyhoeddom ni ddau ganllaw i gynorthwyo pobl sy’n gweithio gyda phobl â dementia neu anableddau dysgu, neu sy’n gofalu amdanyn nhw. Mae’r canllawiau’n cynnig camau syml i helpu pobl i gyfleu’r hyn sydd ei eisiau a’i angen arnyn nhw, a’r hyn y maen nhw’n ei fwynhau mewn bywyd.
Mae’r canllawiau yn rhan o grŵp o adnoddau rydyn ni wedi’u creu i helpu pobl sy’n gweithio ym maes gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr bod pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth yn ganolog i’r penderfyniadau a wneir am eu bywydau.
Maen nhw’n helpu pobl i deimlo’u bod yn cael eu clywed, eu parchu a’u deall, ac yn helpu gweithwyr gofal proffesiynol a gofalwyr di-dâl i ddarparu cymorth gwell sydd wedi’i deilwra i fywyd, dymuniadau a phryderon pob unigolyn.
Mae gallu cael gofal a chymorth yn eich iaith eich hun yn hanfodol i roi llais a rheolaeth i bobl ynglŷn â’r cymorth a gânt ac i ddeall beth sy’n bwysig i bobl.
Yn ddiweddar, aeth rhai o’n cydweithwyr i ffilmio dau wasanaeth yng ngogledd Cymru sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg i roi cymorth gwell i’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt.
Ymwelodd y tîm â Haulfryn Care, sef cartref gofal ger Yr Wyddgrug, sy’n gofalu am bobl hŷn â dementia.
Mae pump o breswylwyr y cartref yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf, felly mae staff y cartref wedi bod yn gweithio gyda ni a thiwtor Cymraeg dros y 18 mis diwethaf i ddysgu Cymraeg er mwyn cyfathrebu’n well â’r preswylwyr.
Aeth y tîm i Elm yn Sir Ddinbych hefyd, sef cartref preswyl ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu cymhleth difrifol – roedd dau o’r preswylwyr o gefndiroedd Cymraeg.
Llai na dwy flynedd yn ôl, dim ond dau aelod o staff oedd yn siarad Cymraeg, ond erbyn hyn, ar ôl gweithio gyda’n tiwtor Cymraeg, mae 83 y cant yn meddu ar sgiliau Cymraeg.
Mae’n gamp ryfeddol mewn cyfnod mor fyr, ac mae wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar y bobl ifanc maen nhw’n eu cefnogi.
Bydd gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i ganolbwyntio ar gryfderau a sgiliau pobl, gan gydnabod mai nhw yw’r arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain.
Mae gwasanaethau gofal a chymorth yn bodoli i helpu cadw pobl yn ddiogel a gwella’u llesiant trwy gyflawni’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw.