Rydyn ni wedi datblygu dau ganllaw newydd i gefnogi pobl sy'n gweithio gyda neu'n gofalu am unigolion â dementia ac anableddau dysgu, er mwyn eu helpu i gael sgyrsiau ystyrlon am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae'r canllawiau 'Beth sy'n bwysig', sy'n rhan o grŵp ehangach o adnoddau, ar gael ar ein gwefan. Maen nhw ar gyfer unrhyw un sy'n cefnogi pobl ag anghenion gofal cymdeithasol - fel aelodau o'r teulu, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Maen nhw’n cynnig camau syml i helpu pobl i ddweud beth maen nhw ei eisiau, ei angen ac yn ei fwynhau mewn bywyd - gan gynnwys risgiau neu'r hyn sy'n eu poeni.