Jump to content
Lansio adnodd newydd i gyflogwyr
Newyddion

Lansio adnodd newydd i gyflogwyr

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi lansio canllaw newydd i gyflogwyr i helpu eu staff sy’n newydd i weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydyn ni’n gwybod fod mwy a mwy o bobl yn symud i Gymru i ddarparu gofal a chymorth hanfodol i’r bobl sy’n byw yma. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar y gofal a’r cymorth yma, ac rydyn ni’n croesawu ac yn gwerthfawrogi’r gweithwyr profiadol hyn.

Rydyn ni wedi casglu rhai o’n hadnoddau at ei gilydd mewn un lle cyfleus ar ein gwefan. Gall cyflogwyr ddefnyddio’r wybodaeth hon i helpu gweithwyr newydd i ymgartrefu. Mae’r canllaw newydd hwn yn cynnwys fideos am ofal cymdeithasol yng Nghymru, gwybodaeth am y Gymraeg a’i diwylliant, ac adnoddau i gefnogi llesiant staff.

Rydyn ni hefyd yn creu cronfa o enghreifftiau o arferion gorau i’w cynnwys yn yr adnodd hwn. Gallwch rannu eich enghreifftiau â ni ar cymorthcyflogwyr@gofalcymdeithasol.cymru