Rydyn ni'n gofyn i awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau annibynnol anfon data atom ar niferoedd a nodweddion eu gweithlu fel rhan o’n casgliad data gweithlu blynyddol.
Rydyn ni'n casglu data am y gweithlu er mwyn rhoi cipolwg ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydyn ni'n dadansoddi’r data ac yn ei gyflwyno mewn adroddiad sy’n rhoi trosolwg o’r gweithlu cyfan ac yn dadansoddi’r canfyddiadau ar gyfer gwahanol leoliadau.
Byddwn ni'n cyhoeddi ein hadroddiad ar gasgliad 2023 yn ddiweddarach eleni.
Byddwn ni hefyd yn defnyddio’r data i gynhyrchu erthyglau a chynnwys cysylltiedig am wahanol agweddau ar ein canfyddiadau drwy Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.
Bydd casgliad data eleni yn dechrau ar 9 Medi ac yn cau ar 31 Hydref.