Jump to content
Helpwch i ymladd Covid-19 – Cefnogwch y fyddin gudd, nawr a phob amser
Newyddion

Helpwch i ymladd Covid-19 – Cefnogwch y fyddin gudd, nawr a phob amser

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Bob dydd, ym mhob cymuned yng Nghymru, mae'r fyddin gudd o weithwyr gofal cymdeithasol yn brwydro i ffwrdd ar y rheng flaen, gan ddarparu gofal a chymorth i'n ffrindiau, teuluoedd a chymdogion sydd fwyaf agored i niwed. Rwy'n eu saliwtio nhw a'u theuluoedd.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn wynebu heriau tebyg i'n cydweithwyr yn y GIG yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

Pan fyddant yn mynd i mewn i gartref i ddarparu gofal a chymorth, nid ydynt yn gwybod os yw'r firws yn bresennol, gan nad oes gan lawer o bobl symptomau, ond eto gallant fod wedi'u heintio.

Mae'r fyddin gudd yn dibynnu ar ei gyfarpar diogelu personol i'w amddiffyn rhag dal y firws a'i drosglwyddo i gleientiaid eraill neu rag mynd ag ef i'w cartrefi eu hunain.

Mae'r her yn arbennig o anodd mewn cartrefi gofal preswyl a nyrsio, lle mae bregusrwydd preswylwyr yn gwneud effaith y firws yn eithaf llwm.

Nid ysbytai cymunedol yw cartrefi gofal, dyma le mae pobl yn byw am nifer o flynyddoedd, pan na allant barhau i fyw'n annibynnol, oherwydd cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol y gallai unrhyw un ohonom ni ddod ar ei draws wrth i ni heneiddio.

Dim ond yn eu hystafelloedd gwely eu hunain y bydd y mwyafrif o gartrefi gofal yn gallu ynysu preswylwyr, gyda gallu cyfyngedig i ddarparu mynediad i fannau awyr agored neu gymdeithasu.

Mae'r mesurau cadw pellter cymdeithasol cyfredol yn golygu na all teuluoedd ymweld â'u hanwyliaid am wythnosau ac yn aml maent yn cael eu hamddifadu o ffarwel olaf ystyrlon, sydd mor bwysig.

Rydyn ni nawr yn dechrau gweld yr heintiau a'r cyfraddau marwolaeth o gartrefi gofal, ac maen nhw'n darllen yn sobreiddiol.

Yn rhyfeddol, mae rhai hen bobl fregus iawn yn herio'r rhagfynegiadau ac yn ennill y frwydr yn erbyn Covid-19.

Mae hyn yn rhoi gobaith i ni y bydd mwy o bobl yn goroesi a bydd mwy o deuluoedd yn cael eu hachub rhag colli anwyliaid.

Os ydych chi'n byw mewn teulu gyda gweithiwr gofal cymdeithasol neu weithiwr y GIG, yn gweithio ar y rheng flaen, byddwch yn falch iawn o'r aberth personol a'r ymrwymiad y maen nhw'n ei ddangos bob dydd.

Rydyn ni nawr yn gweld y gymuned ehangach yn dangos ei gwerthfawrogiad, trwy'r “Clap for Carers” bob nos Iau, gweithgareddau codi arian anhygoel a gwirfoddolwyr yn camu i fyny i ddarparu cymorth.

Mae gan y GIG frand cydnabyddedig, sy'n cael ei ddeall a'i genfigennu ledled y byd. Rydym yn haeddiannol falch o'n GIG ac rydym bob amser eisiau ei amddiffyn.

Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu comisiynu gan gynghorau lleol ac yn cael eu darparu gan fwy na mil o fusnesau bach a chanolig, yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol.

Mae hyn yn golygu bod gan bobl fwy o ddewis a gall darparwyr addasu eu hymatebion i anghenion unigol. Mae hefyd yn golygu ei bod hi weithiau yn anodd adnabod gweithiwr gofal cymdeithasol.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru i ddatblygu cerdyn ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Am y tro cyntaf, mae gennym fodd i gydnabod y rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen, a hyd yma, mae bron i 19,000 o weithwyr wedi lawrlwytho'r cerdyn digidol.

Bellach mae’r cerdyn yn cael ei gydnabod yng Nghymru gan Asda, The Food Warehouse, Iceland, M&S, Morrisons, Sainsbury’s, Tesco a Waitrose.

Rwyf yn diolch iddynt, ar ran ein gweithwyr gofal cymdeithasol, ac anogaf ddarparwyr gwasanaeth eraill i ddangos eu bod yn gofalu.

Felly, pan rydyn ni'n teimlo'n rhwystredig na allwn ni wneud y pethau roedden ni’n eu cymryd yn ganiataol cyn y “cyfyngiadau symud”, meddyliwch am y fyddin gudd o weithwyr gofal cymdeithasol.

Mae ei ofal a'i gymorth rhagorol yn galluogi mwy o bobl, gyda'r firws a gyda heriau eraill, i gael eu cefnogi yn eu cartrefi eu hunain, fel y gall y GIG canolbwyntio ar y rhai sydd angen y gofal critigol y gellir ei ddarparu mewn ysbytai yn unig.