A oes gennych gymhwyster QCF Lefel 5 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Llwybr Ymarfer Uwch?
Rydyn ni'n treialu prosiect i gefnogi pobl sydd â chymhwyster QCF Lefel 5 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Ymarfer Uwch gamu mewn i rolau arwain a rheoli lefel 5 mewn blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Beth yw'r peilot?
Cafodd y prosiect ei lansio gan Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, a bydd yn profi'r Llyfr gwaith AWIF ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant i sicrhau ei fod yn cefnogi ymarferwyr fel chi i symud ymlaen i arweinyddiaeth.
Beth fydd angen i chi ei wneud?
- Ewch trwy'r llyfr gwaith AWIF, asesu ei effeithiolrwydd, awgrymu gwelliannau, a chymryd rhan mewn profi fersiwn ddiwygiedig neu ddigidol.
- Gweithiwch gyda ni ac awdurdodau lleol (os yw'n berthnasol) ac ymunwch â chyfarfodydd ar-lein byr i drafod y llyfr gwaith bob pythefnos o fis Mai i fis Medi 2025.
Pam cymryd rhan?
- Byddwch yn dylanwadu ar adnodd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer dilyniant arweinyddiaeth
- Byddwch yn deall sut mae eich cymhwyster yn cefnogi rolau rheoli
- Byddwch chi'n helpu i lunio offeryn a all gefnogi twf gyrfa, yn enwedig mewn lleoliadau Dechrau'n Deg, lle mae sgiliau arwain a rheoli yn hanfodol
- Byddwch yn rhan o brosiect arloesol sy'n edrych ar ddatrysiad digidol.
Sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cwblhewch y ffurflen hon erbyn 25 Ebrill.