Jump to content
Enwebwch eich Sêr Gofal
Newyddion

Enwebwch eich Sêr Gofal

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae'r chwilio ymlaen am weithwyr gofal yng Nghymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yn yr amgylchiadau anoddaf gyda lansiad Sêr Gofal 2021.

Mae cyflogwyr, cydweithwyr a'r cyhoedd yn cael eu hannog i enwebu gweithwyr o ofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar ar draws pedwar categori eang.

Wedi'i drefnu gan Ofal Cymdeithasol Cymru a'i gefnogi gan feirniaid o sefydliadau partner, mae Sêr Gofal yn chwilio am weithwyr gofal sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gadarnhaol i fywydau pobl ac wedi helpu unigolion i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw hyd yn oed yng nghanol pandemig.

Bydd ein panel o feirniaid arbenigol yn dewis y tri enwebai gorau o bob categori a byddwn yn hyrwyddo eu straeon ac yn eu rhannu ar-lein ddechrau mis Gorffennaf.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn annhebyg i unrhyw un arall ac yn flwyddyn hynod anodd i bobl sy'n dibynnu ar ofal a chefnogaeth yng Nghymru a'r rhai a gyflogir i'w cadw'n ddiogel ac yn iach. Ar ben yr heriau dyddiol y byddent fel arfer yn eu hwynebu daeth yr holl dreialon a gyflwynwyd gan Covid, a oedd yn gwneud cadw pobl yn ddiogel ac yn iach yn llawer anoddach nag y gellid bod wedi'i ddychmygu cyn y pandemig.

“Dyna pam rydyn ni’n credu ei bod hi mor bwysig cydnabod yr ymdrechion gwych y mae ein gweithwyr gofal wedi’u gwneud yn ystod y 15 mis diwethaf. Er bod Sêr Gofal ar gyfer y gweithlu taledig, mae hefyd yn bwysig cydnabod a thalu teyrnged i ymdrechion anhygoel yr holl filoedd o ofalwyr di-dâl yng Nghymru a'r cyfraniad aruthrol y maent wedi'i wneud i gadw eu hanwyliaid yn ddiogel ac yn iach.

“Mae Sêr Gofal yn rhoi cyfle i gydnabod enghreifftiau o ofal rhagorol yn absenoldeb y Gwobrau blynyddol eleni, a fydd yn ailddechrau o 2022. Gobeithiwn y bydd pobl o bob rhan o Gymru yn bachu ar y cyfle i roi'r bobl y maen nhw'n meddwl sy'n Sêr Gofal yn y goleuni, fel y gellir rhoi’r sylw y maen nhw'n yn ei haeddu i’w cyflawniadau,” ychwanegodd Sue.

Gallwch enwebu'ch Sêr Gofal o heddiw (3 Mehefin) tan 5pm ar 23 Mehefin trwy lenwi'r ffurflen enwebu Sêr Gofal. Bydd y beirniadu yn digwydd ar ddechrau mis Gorffennaf.

Y pedwar categori ar gyfer enwebiadau yw:

  • Gwasanaethau i oedolion
  • Gwasanaethau i bobl hŷn
  • Gwasanaethau i blant
  • Gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.