Ymunwch â ni rhwng 10 a 14 Tachwedd i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed.
Yn ystod yr wythnos, rydyn ni'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein, trwy Microsoft Teams. Mae'r rhain yn rhad ac am ddim i'w mynychu ac maen nhw ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Byddwn ni'n ymdrin ag ystod o bynciau, sy'n canolbwyntio ar ein tair prif thema:
- llesiant ac arweinyddiaeth dosturiol yn y gweithle
- tegwch, iaith a hunaniaeth
- twf proffesiynol.
Mae'r wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer unrhywun sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae hyn yn cynnwys:
- rheolwyr
- ymarferyddion
- tiwtoriaid/aseswyr
- dysgwyr
- llunwyr polisi
- arolygwyr
- sefydliadau partner.