Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd twyll ariannol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd twyll ariannol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithwraig gofal cartref o Rondda Cynon Taf wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod fod ei heuogfarn droseddol yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Tracy Kolade wedi dwyn dros £2,000 o gyfrif banc preswylydd agored i niwed yn ei gofal dros gyfnod o wyth mis, gan godi arian ar 12 achlysur gwahanol.

Yn dilyn hynny, cafwyd Ms Kolade yn euog o dwyll yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Medi 2020. Cafodd ei dedfrydu ym mis Hydref 2020 i 10 mis o garchar a gorchymyn i dalu tâl ychwanegol o £140 i’r dioddefwr.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod euogfarn droseddol Ms Kolade yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Eglurodd y panel ei benderfyniad, gan ddweud: “Roedd hyn yn achos difrifol iawn o fradychu ymddiriedaeth y cleient ac eraill yn [Ms Kolade]. Un o’i phrif gyfrifoldebau oedd cynorthwyo ei chleientiaid i ofalu am eu harian.

“Mae’r cofnod o’r sylwadau dedfrydu yn dangos mai dim ond iawndal rhannol a wnaeth i’r cleient, ac nad oedd yn agored ac yn onest pan ddaeth yr ymddygiad troseddol i’r amlwg.

“Yn wir, ceisiodd roi’r bai ar berson arall dienw, ac ni wnaeth bledio’n euog nes yn ddiweddarach yn yr achos troseddol. Erbyn hynny, roedd ei chleient wedi dioddef y pryder ychwanegol, sy’n cael ei gofnodi mewn datganiad effaith dioddefwr, o’r angen posib i weld Ms Kolade mewn treial.”

Ychwanegodd y panel: “Rydym wedi dod i’r casgliad bod [Ms Kolade] wedi dangos diffyg gonestrwydd, ei bod yn peri risg o niwed i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau, a’i bod wedi torri nifer o ddaliadau sylfaenol y proffesiwn gofal.”

Penderfynodd y panel dynnu Ms Kolade oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Mae’n amlwg mai Gorchymyn Tynnu yw’r unig benderfyniad priodol yn yr holl amgylchiadau, ac mae’n gymesur wrth ystyried difrifoldeb trosedd Ms Kolade. Mae’n adlewyrchu’n briodol y niwed a wnaeth Ms Kolade i’r unigolyn dan sylw ac i hyder y cyhoedd.”

Nid oedd Ms Kolade yn bresennol yn y gwrandawiad undydd o bell, a gynhaliwyd dros Zoom ar 22 Mawrth 2021.