Jump to content
Defnyddiwch ein dyfais am ddim i ddeall eich potensial digidol yn well
Newyddion

Defnyddiwch ein dyfais am ddim i ddeall eich potensial digidol yn well

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae ein dyfais botensial ddigidol bellach yn fyw!

Rydyn ni wedi datblygu’r ddyfais i roi darlun mwy cyflawn i chi o sgiliau a galluoedd digidol presennol chi a’ch sefydliad.

Mae’r ddyfais botensial ddigidol ar gael am ddim, ac mae gan bob darparwr gofal cymdeithasol yng Nghymru fynediad iddo.

Bydd y ddyfais yn dangos eich cryfderau digidol a meysydd i’w gwella ac yn tynnu sylw at adnoddau defnyddiol i gefnogi eich datblygiad digidol.

Bydd gwybod mwy am eich galluoedd digidol a sut i gael mynediad at adnoddau a hyfforddiant perthnasol yn eich helpu i wneud y gorau o dechnolegau digidol yn eich rôl.

Bydd y ddyfais hefyd yn rhoi cipolwg i ni o’r sefyllfa ledled Cymru, a byddwn ni'n rhannu'r canfyddiadau mewn adroddiad cenedlaethol yn ddiweddarach yn 2025.

I wneud yn siŵr bod yr adroddiad cenedlaethol yn cofnodi eich profiad o ddefnyddio technoleg ddigidol, cwblhewch y ddyfais erbyn 21 Chwefror.

Rydyn ni am i ystod eang o bobl ddefnyddio’r ddyfais, gan gynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol, staff TG ac arweinwyr.

Sut alla i ei ddefnyddio?

Os ydych chi ar ein Cofrestr, fe wnaethon ni e-bostio dolen i'r ddyfais i chi ar 9 neu 10 Ionawr. Edrychwch yn eich ffolder 'junk' os nad ydych chi'n gallu dod o hyd iddo.

Os nad ydych chi ar y Gofrestr, neu os nad ydych chi wedi derbyn eich dolen, cysylltwch â digidol@gofalcymdeithasol.cymru.

Mae'r ddolen yn unigryw i'ch cyflogwr. Mae hyn yn golygu pan fydd staff yn cwblhau’r ddyfais, bydd eu canlyniadau dienw yn bwydo i mewn i ganfyddiadau cyffredinol eu sefydliad.

Os nad ydych chi’n siŵr sut i ddefnyddio’r ddyfais, efallai y bydd ein canllaw ar ddefnyddio’r ddyfais yn ddefnyddiol i chi.

Sut mae'n gweithio?

  • Bydd y ddyfais yn gofyn i chi ateb cwestiynau am eich hyder digidol a dulliau digidol eich sefydliad. Bydd hyn yn cymryd tua 10 i 30 munud, yn dibynnu ar eich rôl.
  • Yna byddwn ni’n anfon eich canlyniadau i'r cyfeiriad e-bost neu'r rhif ffôn symudol rydych chi wedi'i rhoi i ni, ynghyd â chanllawiau am eich cryfderau a'ch meysydd i'w gwella. Byddwn ni hefyd yn rhoi gwybodaeth i chi am adnoddau a hyfforddiant i gefnogi eich datblygiad digidol.
  • Os ydych chi’n arweinydd, byddwn ni hefyd yn anfon dolen atoch i ganlyniadau cyffredinol eich sefydliad, gan ddangos eich parodrwydd digidol mewn gwahanol feysydd. Bydd y canlyniadau hyn yn cael eu diweddaru wrth i fwy o bobl o'ch sefydliad ddefnyddio'r ddyfais. Ni fydd unrhyw unigolyn yn gallu cael ei adnabod o'r canlyniadau cyffredinol.

Gwybodaeth i arweinwyr

Angen mwy o wybodaeth?

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen dyfais botensial ddigidol.