Jump to content
Dechrau chwilio am weithwyr sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg
Newyddion

Dechrau chwilio am weithwyr sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r enwebiadau nawr ar agor ar gyfer gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024.

Mae’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wobr, sy’n cael ei noddi gan Gofalwn Cymru, yn agored i unrhyw weithwyr gofal cyflogedig sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, neu gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn, rydyn ni’n gwahodd aelodau o'r cyhoedd, cyflogwyr a phobl sy’n gweithio ym maes gofal i enwebu gweithiwr ar gyfer y wobr hon.

Does dim angen i’r gweithiwr siarad Cymraeg yn rhugl, cyn belled â’i fod yn defnyddio'r iaith wrth ddarparu gofal a chymorth – mae ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell!

Byddwn ni’n gwahodd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol, yn ogystal â’u henwebwyr, i seremoni i gyhoeddi’r enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ar 6 Awst.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “I bobl sy’n dewis siarad Cymraeg, mae cael gofal a chymorth gan rywun sy’n siarad eu hiaith yn rhan bwysig o gael gofal o ansawdd da, sy'n llawn urddas.

“Gobeithio y bydd y wobr hon yn rhoi cydnabyddiaeth i’r gweithwyr sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r angen am fwy o bobl sy’n gallu siarad yr iaith i weithio yn y maes gofal.”

Cafodd Ross Dingle, ein henillydd llynedd, ei ddathlu am ei waith yn rhedeg clwb gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i oriau ysgol yng Nghaerdydd.

Darllenwch fwy am Ross a’i waith yn darparu safon uchel o ofal wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn ei gymuned. Efallai cewch eich ysbrydoli i enwebu rhywun...

Os hoffech chi enwebu gweithiwr, bydd angen i chi lenwi ffurflen enwebu, a dweud pam mae’r gweithiwr yn haeddu cael ei gydnabod â’r gwahaniaeth mae’n ei wneud i fywydau’r bobl mae’n eu cefnogi drwy ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd angen i chi wneud yn siŵr bod y gweithiwr yn fodlon cael ei enwebu cyn anfon eich cais atom. Oherwydd os caiff ei ddewis fel un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, byddwn ni’n defnyddio ei stori i roi cyhoeddusrwydd i’r wobr a hyrwyddo’r pwysigrwydd o ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

24 Mehefin 2024 yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau.