Jump to content
Dathlu gweithwyr cymdeithasol a myfyrwyr gwaith cymdeithasol
Newyddion

Dathlu gweithwyr cymdeithasol a myfyrwyr gwaith cymdeithasol

| Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr

Y mis diwethaf, fe wnaethon ni ddathlu Wythnos Gwaith Cymdeithasol. Mae’r dathliad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i ni dynnu sylw at y gwaith arbennig y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud ym mhob rhan o Gymru, a diolch iddyn nhw am bopeth maen nhw’n ei wneud.

Mae bron i 7,000 o weithwyr cymdeithasol wedi’u cofrestru yng Nghymru, ac mae 700 a mwy o fyfyrwyr wrthi’n astudio i fod yn weithwyr cymdeithasol.

Yn aml iawn, dydyn ni ddim yn gweld y gwaith mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud, yn gweithio â phobl a theuluoedd yn eu cartrefi a’u cymunedau.

Maen nhw’n cefnogi ac yn grymuso pobl sy’n wynebu heriau cymhleth ac sydd mewn perygl o niwed. Maen nhw’n helpu pobl i ganolbwyntio ar eu cryfderau a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’u teuluoedd.

Gweithwyr cymdeithasol sy’n cynnal hawliau dynol pobl sydd, am amryw o resymau, yn ei chael hi’n anodd siarad drostyn nhw eu hunain. Mae ganddyn nhw hefyd cyfrifoldebau diogelu statudol i warchod oedolion a phlant.

Ym mhob cymuned, mae gweithwyr cymdeithasol yn rhoi cymorth i blant, oedolion a theuluoedd. Gall hyn gynnwys:

  • gweithio â phlant mewn gofal maeth neu ofal preswyl
  • rhoi cymorth i deuluoedd a phlant yn eu cartrefi eu hunain
  • grymuso pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl, anabledd corfforol neu anawsterau dysgu, a phobl o bob oed sy’n derbyn gofal a chymorth.

Mae’n swydd heriol a phrysur, sydd hefyd yn gallu rhoi boddhad. Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (ffigurau StatsCymru), rhwng 2022 a 2023:

  • derbyniodd gwasanaethau cymdeithasol 416,040 o gysylltiadau ar gyfer oedolion, gofalwyr a phlant yng Nghymru
  • roedd gan 76,315 o oedolion, plant a gofalwyr gynllun gofal a chymorth.

I fod yn weithiwr cymdeithasol, mae angen gradd arnoch chi a gall y radd cael ei hastudio ar lefel israddedig neu ôl-raddedig.

Mae prifysgolion ledled Cymru yn darparu rhaglenni gwaith cymdeithasol mewn partneriaeth â gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hyd at £27,000 o gyllid ar gael i gefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol â chostau astudio.

Mae awdurdodau lleol ar draws Cymru hefyd yn cefnogi pobl i hyfforddi a chymhwyso fel gweithwyr cymdeithasol.

Os ydych chi eisiau gwella bywydau pobl drwy gynorthwyo, grymuso a diogelu’r oedolion a’r plant mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a sut i fentro i'r maes gwaith cymdeithasol ar ein gwefan.

Os ydych chi’n weithiwr cymdeithasol neu’n fyfyriwr gwaith cymdeithasol, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am yr holl waith allweddol rydych chi’n ei wneud i gefnogi unigolion yn ein cymunedau.