Croesawn ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol 2023 i 2024 y Prif Arolygydd, a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yr wythnos diwethaf.
Yn yr adroddiad, datgelodd y Prif Weithredwr fod “y rhan fwyaf o’r gofal yng Nghymru yn ofal da, gyda bron i dri chwarter o gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref yn cael sgorau ‘da’ neu ‘ragorol’ y llynedd”.
Dangosodd yr adroddiad fod 74 y cant o gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref yng Nghymru yn ‘rhagorol’ neu’n ‘dda’ yn 2023 i 2024, a bod 77 y cant o leoliadau gofal plant a chwarae yn ‘dda’ neu’n ‘rhagorol’.
Hefyd, amlygodd yr adroddiad nifer o faterion trawstoriadol sy’n effeithio ar y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Meddai Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Rwy’n croesawu cyhoeddi’r adroddiad a sylwadau’r Prif Arolygydd, sy’n cydnabod y “gweithlu ymroddedig iawn” sydd gennym ni a’r gwerth y mae gwasanaethau gofal yn ei ddwyn i’n cymunedau ledled Cymru, gan helpu i drawsnewid “bywyd pobl er gwell”.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, ac mae gennym ni nifer o fentrau ar waith i gynorthwyo’r sectorau â rhai o’r problemau a’r heriau a nodwyd yn yr adroddiad.
“Rydyn ni’n cefnogi’r sector gydag arweinyddiaeth dosturiol gyda nifer o adnoddau.
“Mae’r rhain yn cynnwys ein rhaglen arweinyddiaeth dosturiol a chyfunol, sy’n anelu at wella’r rhinweddau arwain ymhlith uwch arweinwyr. Y llynedd, dywedodd 87 y cant o’r rhai a gwblhaodd y rhaglen eu bod yn fodlon bod y rhaglen yn bodloni eu hanghenion.
“Rydyn ni’n ymrwymo i rannu’r arfer da rydyn ni'n gwybod ei fod yn digwydd ar draws y sectorau, hefyd.
“Mae’r porwr prosiectau ar ein gwefan, Grŵp Gwybodaeth, er enghraifft, yn rhannu gwybodaeth, syniadau a dysgu am enghreifftiau o arfer a mentrau ymchwil arloesol.
“Ei nod yw helpu pobl i gysylltu â’i gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd, ac rydyn ni'n annog pobl i rannu’r gwersi pwysig a ddysgont ar y daith, a allai fod yn ysbrydoliaeth ac yn ddysgu defnyddiol iawn i eraill.
“Mae ein Gwobrau blynyddol yn parhau i amlygu’r gwaith nodedig a blaengar sy’n digwydd ar draws y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
“Bydd y Gwobrau’n dathlu eu pen-blwydd yn 20 oed yn 2025 ac edrychwn ymlaen at gydnabod, dathlu a rhannu mwy fyth o’r gwaith gwych hwnnw yn y gwanwyn.
“Yn ogystal, rydyn ni'n parhau i gynorthwyo’r sector â denu, recriwtio a chadw staff trwy ein rhaglen Gofalwn Cymru.
“Nod yr ymgyrch genedlaethol yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y bobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, a sut olwg sydd ar yrfa mewn gofal.
“Mae adnoddau am ddim y gall cyflogwyr eu defnyddio ac mae’r porth swyddi’n ffordd hawdd i gyflogwyr gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar hysbysebu eu swyddi gwag ac i bobl weld y swyddi gwag sydd ar gael yn eu hardal. Y llynedd, gwelom ni gynnydd yn nifer y swyddi sy’n cael eu postio ar y porth swyddi ac yn nifer y ceisiadau a ddaeth i law.
“Rydyn ni am gefnogi gwasanaethau sy’n ymdrechu i ddarparu gofal rhagorol i bob dinesydd ym mhob cwr o Gymru. Byddwn i’n annog cyflogwyr i gysylltu â’n gwasanaeth cymorth cyflogwyr i weld sut gallwn ni gefnogi eich gwasanaeth.”