Jump to content
Arwain yn y ffordd iawn: cyflwyno ein tudalennau arweinyddiaeth dosturiol newydd
Newyddion

Arwain yn y ffordd iawn: cyflwyno ein tudalennau arweinyddiaeth dosturiol newydd

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gennym dudalennau gwe newydd i gefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant i hyrwyddo arweinyddiaeth dosturiol yn y gwaith.

Mae'r tudalennau gwe yn esbonio beth yw arweinyddiaeth dosturiol, a sut y gallwch ddefnyddio'r egwyddorion i helpu i greu diwylliant cadarnhaol gydag arweinwyr tosturiol – hyd yn oed os nad ydych mewn rôl reoli.

Mae yna awgrymiadau ymarferol i'ch rhoi ar ben ffordd, a dolenni i adnoddau i adeiladu ar yr hyn rydych chi'n ei wybod.

"Lle gwych i ddechrau"

Dywedodd Rebecca Cicero, Rheolwr Gwella a Datblygu:

"Mae arweinyddiaeth dosturiol yn gam pwysig tuag at feithrin diwylliannau cadarnhaol a gwella lles, ond gall ceisio gweithio mewn ffordd newydd fod yn anodd iawn.

"Mae'r tudalennau gwe hyn yn lle gwych i ddechrau. Maen nhw'n dadansoddi'r wybodaeth fel y gallwch chi ddechrau defnyddio ymddygiadau ac egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol fel rhan o'ch gwaith bob dydd.

"Mae'r egwyddorion ar gyfer pawb, a gallant ein helpu ni i gyd i lywio heriau yn y gwaith a gwneud pethau'n wahanol."

Gweithdai arweinyddiaeth dosturiol am ddim

Os ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am arweinyddiaeth dosturiol, beth am ymuno â'n gweithdai arweinyddiaeth dosturiol am ddim?

I gofrestru neu ddarganfod mwy, ewch i'n tudalen digwyddiadau.