Mae ein harolwg cyntaf o'r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant bellach ar agor, ac rydyn ni'n awyddus i glywed gennych chi!
Os ydych chi'n gweithio ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant, hoffen ni wybod mwy am pam y gwnaethoch chi benderfynu mai dyma'r yrfa i chi, sut rydych chi'n teimlo am eich swydd a'ch amodau gwaith ac a ydych chi'n wynebu unrhyw heriau.
Bydd yr holl wybodaeth a ddarparwch yn gwbl ddienw - ni fydd unrhyw un yn gwybod pwy sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg.
Rydyn ni'n cynnal yr arolwg hwn er mwyn i ni allu deall yn well y bobl sy'n gweithio ym maes blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru a rhai o'r heriau rydych chi'n eu hwynebu.
Gall eich llais wneud gwahaniaeth. Bydd yr adborth a ddarparwch yn rhoi darlun cliriach i ni o sut beth yw gweithio ym maes blynyddoedd cynnar a gofal plant a bydd yn helpu i lunio'r gefnogaeth a gynigiwn.
Sut i gymryd rhan
Mae'r arolwg ar gael ar-lein ac mae'n cymryd tua 15 munud i'w gwblhau. Ni fyddwn yn gofyn am eich enw - bydd popeth a ddywedwch yn ddienw.
Mae'r arolwg yn cau ddydd Gwener, 21 Tachwedd.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â ni drwy: arolwgbcgp@gofalcymdeithasol.cymru