Rydyn ni wedi cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol sy'n nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Cyflawni'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2025.
Mae’r cynllun cyflawni yn cynnwys camau gweithredu i’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ganolbwyntio arnynt o 2024 i 2027 i ymdrin â'r heriau y mae'n eu hwynebu. Mae'n adeiladu ar Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae ein hadroddiad blynyddol yn tynnu sylw at gyflawniadau ar draws saith thema y strategaeth weithlu a’r tri egwyddor sylfaenol - llesiant, y Gymraeg a chynhwysiant - gan osod y cyfeiriad ar gyfer gwelliant parhaus yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'r adroddiad yn adlewyrchu cyflawniad ar y cyd rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru, partneriaid cenedlaethol a'r sector gofal cymdeithasol gyfan, i adeiladu gweithlu gofal cymdeithasol brwdfrydig, ymgysylltiedig a gwerthfawr, sydd â'r gallu, y cymhwysedd a'r hyder i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl Cymru.
Mae’r cynllun cyflawni yn cael ei fonitro gan y Grŵp Gweithredu Strategol, sy'n cynnwys partneriaid cenedlaethol. Rydyn ni’n cydweithio a gwneud penderfyniadau i weithio tuag at uchelgeisiau y strategaeth gweithlu. Mae'r grŵp yn cael ei gyd-gadeirio gan ein prif weithredwr Sarah McCarty a Taryn Stephens, Dirprwy Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru yn Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: "Mae'r adroddiad hwn yn amlygu’r cyflawniadau ar y cyd a'r cynnydd a wnaed yn ystod blwyddyn gyntaf ail gam ein strategaeth gweithlu.
“Rydyn ni’n falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma, ond rydyn ni’n gwybod bod llawer mwy i’w wneud. Rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar weithio gyda’n partneriaid i gyflawni newid ystyrlon i’r bobl sy’n darparu ac yn defnyddio gofal a chymorth yng Nghymru. Mae ein gweithlu gofal cymdeithasol ymroddedig yn darparu cymorth hanfodol ym mhob cymuned yng Nghymru ac yn ymrwymedig i alluogi’r hyn sy’n bwysig i bobl a’u teuluoedd.
“Diolch o galon i’n partneriaid, ond yn bennaf oll i bob gweithiwr gofal cymdeithasol ledled Cymru am y gwaith rydych chi’n ei wneud. Wrth i ni symud ymlaen, mae’n hanfodol ein bod yn cynnal y momentwm ac yn adeiladu ar y cynnydd hwn fel rhan o’n gweledigaeth deng mlynedd."
Dywedodd Taryn Stephens, Dirprwy Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru,
“Rwy’n falch o weld yr adroddiad hwn wedi’i gyhoeddi heddiw sy’n dathlu’r cynnydd a wnaed i gefnogi ein gweithlu gofal cymdeithasol medrus, gwydn a thosturiol.
“Ein gweithlu gofal cymdeithasol yw ein cryfder mwyaf, wedi ymroi i gefnogi’r hyn sy’n wirioneddol bwysig i bobl a’u teuluoedd, gyda thosturi ac ymrwymiad wrth wraidd popeth y maen nhw’n ei wneud.. Lluniwyd y camau gweithredu yn y cynllun cyflawni ar sail llais y gweithlu, rhanddeiliaid, a’r rhai sy’n derbyn gofal yn uniongyrchol, ac mae’r cynnydd a amlygwyd yn dangos y gwaith cydweithredol sydd wedi digwydd dros y flwyddyn, er gwaethaf heriau parhaus, i sicrhau effaith ystyrlon.
“Drwy barhau i weithio gyda’n gilydd, gallwn adeiladu ar y momentwm hwn. Rydyn ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi a datblygu ein gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau sector gofal cymdeithasol cynaliadwy sydd â’r gweithlu sydd ei angen arno nawr ac yn y dyfodol, i gefnogi a gofalu’n effeithiol am bobl Cymru.”