Jump to content
Amser i ddathlu ein Sêr Gofal
Newyddion

Amser i ddathlu ein Sêr Gofal

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Yn fy ngholofn ddiwethaf, soniais ein bod yn cynnal menter o’r enw Sêr Gofal, a oedd yn gwahodd pobl i enwebu gweithiwr gofal yr oeddent yn credu ei fod yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig am ei ymdrechion yn ystod y 15 mis diwethaf, pan oedd y wlad gyfan yn ymgodymu â heriau’r pandemig.

Mae’n bleser gennyf ddweud ein bod wedi cael 120 o enwebiadau o bob rhan o Gymru gan gyflogwyr, cydweithwyr a’r bobl yr oeddent yn eu cynorthwyo.

Yn y pen draw, penderfynodd ein panel dyfarnu ar 12 o Sêr Gofal rhyfeddol yr oeddent yn credu bod eu straeon yn rhoi’r ysbrydoliaeth fwyaf.

Roeddent yn cynnwys cynorthwy-ydd gofal a wnaeth fwy na’r disgwyl mewn cartref gofal, gweithiwr cymorth a ddefnyddiodd gelf a chrefft i wella bywydau pobl, a gweithiwr gofal preswyl i blant a symudodd i mewn gyda phlant agored i niwed yn ystod y cyfnod clo.

Dyma’r rhestr lawn o’r rhai a ddewiswyd:

  • Jane Carter, ymarferydd y blynyddoedd cynnar yn y fenter Dechrau’n Deg, Bro Morgannwg
  • Amanda Davies, nyrs arweiniol yn Brocastle Manor, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Debra Evans, rheolwr preswyl yn Nhŷ Harwood a Baker’s Way, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Katie Hall, cynorthwy-ydd gofal ym Mryntirion, Tregaron, Ceredigion
  • Louise Hook, gweithiwr cymorth gofalwyr oedolion, Gwasanaethau Cymdeithasol Torfaen
  • Joanne Jones, uwch swyddog byw’n iach (chwarae), Cyngor Bro Morgannwg
  • Katie Newe, rheolwr gwasanaeth, Cyngor Sir Ddinbych
  • Conor O’Leary, ymarferydd gofal preswyl i blant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Lisa Parfitt, cydlynydd gweithgareddau, Cymdeithas Dai Hafod, Caerffili
  • Alex Preece, gweithiwr gofal therapiwtig, Marlowe St David’s, Sir Benfro
  • Julia Sky, gweithiwr datblygu chwarae cymunedol, Cyngor Bro Morgannwg
  • Susan Williams, gweithiwr cymorth gofal, Ymddiriedolaeth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru ym Mro Morgannwg.

Mae’n bwysig pwysleisio mai diben y Sêr Gofal oedd dathlu’r gwaith gwych sy’n digwydd yng Nghymru yn hytrach nag ennill gwobrau, oherwydd bod pob un o’r 120 o enwebeion a phawb arall sy’n gweithio yn y sector gofal yn ystod y flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi ymateb i’r pandemig mewn ffordd eithriadol.

Ac ni ddylem anghofio bod pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yn gwneud gwahaniaeth hollbwysig i fywydau pobl drwy’r dydd, bob dydd mewn cymunedau ledled Cymru, nid dim ond yn ystod argyfwng fel y pandemig.

Dangosodd pob un o’r 120 o weithwyr gofal a enwebwyd garedigrwydd, ymroddiad a phroffesiynoldeb yn eu gwaith. Ond dewisodd y beirniaid y rhai yr oedden nhw’n credu oedd yr enghreifftiau disgleiriaf o’r gofal a’r cymorth a ddarparwyd yn ystod y pandemig.

Llongyfarchiadau mawr a diolch o galon i’n holl Sêr Gofal – mae eu straeon yn gwneud i ni deimlo’n wylaidd ac yn emosiynol, ac yn ein hysbrydoli, ac yn dangos pa mor rhyfeddol o ymroddedig ydynt, nid yn unig i’w proffesiwn ond i’r bobl a’r teuluoedd maen nhw’n eu cynorthwyo. I ddarllen eu holl straeon ysbrydoledig, ewch i’n gwefan, gofalcymdeithasol.cymru.

Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod cynifer o bobl eraill sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl, fel ein Sêr Gofal – maen nhw i gyd yn sêr ac yn glod i’n cymunedau. Mae’r proffesiynoldeb a’r ymroddiad a ddangoswyd gan ein gweithluoedd mewn adeg mor drallodus yn wirioneddol ryfeddol.

Os hoffech chi weithio gyda phobl mor ysbrydoledig, mae swyddi gwag ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ar gael ym mhob rhan o Gymru. Mae mwy na 60 o wahanol rolau ar gael ym maes gofal cymdeithasol, felly mae digonedd o ddewis.

Heddiw yw dechrau ymgyrch hyrwyddo wythnos o hyd i gynyddu ymwybyddiaeth o sut beth yw gweithio ym maes gofal yng Nghymru. Mae’n cael ei chynnal gennym ni a Llywodraeth Cymru.

Cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol i ddysgu am wahanol rolau gofal cymdeithasol ac ewch i gofalwn.cymru i chwilio am swyddi gwag presennol a sut i ymgeisio.