Jump to content
Amodau wedi eu gosod ar gofrestriad gweithiwr gofal cartref oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Amodau wedi eu gosod ar gofrestriad gweithiwr gofal cartref oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Gosodwyd amodau ar gofrestriad gweithiwr gofal cartref, wedi’i lleoli ym Mangor, am 21 mis, ar ôl i wrandawiad canfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Cafodd Emma Hughes ei chyhuddo o fethu sicrhau bod cofnodion ariannol cywir wedi eu cadw a methu sicrhau bod staff wedi derbyn hyfforddiant digonol pan oedd yn gweithio fel rheolwr tîm cynorthwyol mewn gwasanaeth gofal cartref rhwng 2017 a 2019.

Cafodd Ms Hughes hefyd ei chyhuddo o ymddwyn mewn ffordd annerbyniol tuag at berson bregus a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn Chwefror 2019 ac wedi bygwth cymryd y gwasanaeth gofal i ffwrdd.

Cyfaddefodd Ms Hughes, a oedd yn bresennol yn y gwrandawiad chwe diwrnod a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf, i rai o’r cyhuddiadau, gan ddweud wrth y panel ei bod yn ymwybodol bod staff yn benthyg arian gan berson bregus a oedd yn derbyn gofal a chymorth gan y gwasanaeth a methodd ag adrodd y posibilrwydd o gamdriniaeth ariannol.

Cyfaddefodd Ms Hughes hefyd ei bod wedi methu cadw cyfrif am yr holl arian oedd yn berchen i’r person bregus a’i bod wedi llenwi ffurflenni misol heb wybod a oedd yr wybodaeth ariannol yn gywir.

Yn ogystal â hynny, cyfaddefodd Ms Hughes ei bod wedi caniatáu i staff ddefnyddio cyfeiriadau e-bost personol i anfon a derbyn gwybodaeth gyfrinachol a’i bod wedi methu sicrhau bod staff yn derbyn goruchwyliaeth addas.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a chyfaddefiad Ms Hughes, daeth y panel i’r casgliad bod rhywfaint o ymddygiad Ms Hughes yn anonest ac yn brin o uniondeb, a bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Gweithredodd Ms Hughes mewn modd anonest pan fethodd ag adrodd camddefnydd o arian [y person bregus].

“Rydym hefyd wedi darganfod ei bod wedi delio’n anaddas â [pherson arall oedd yn defnyddio’r gwasanaeth] ac wedi achosi gofid emosiynol [iddynt] a bod hyn wedi parhau am rai wythnosau yn ôl gofalwyr cartref.

“Er nad oedd ganddi rôl allweddol yn rheoli’r tîm gofal cartref, cyfrannodd Ms Hughes yn sylweddol at fethu â goruchwylio a hyfforddi staff eraill.”

Felly, penderfynodd y panel osod amodau ar gofrestriad Ms Hughes am 21 mis.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Mae Ms Hughes wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol am 20 mlynedd ac nid oes ganddi achosion rheoleiddio blaenorol. Rydym yn derbyn ei bod yn gweithio dan bwysau sylweddol yn y gweithle a bod llawer o’r anawsterau’n deillio o’r ffaith iddi ymgymryd â rôl rheoli, y mae’n cyfaddef ei hun, nad oedd yn gweddu iddi.

“Ond yn bwysicach, gwnaethom nodi bod Ms Hughes yn edifar ac yn sylweddoli’r hyn a wnaeth.”

Ychwanegodd y panel: “Rydym yn hyderus bod ein hamodau arfaethedig yn ymarferol ac rydym yn sicr eu bod yn gymesur. Byddant yn caniatáu i Ms Hughes ddychwelyd i’r gwaith heb fod risg annerbyniol i’r cyhoedd.”