Mae amodau a osodwyd ar gofrestriad gweithiwr cymdeithasol o ardal Rhondda Cynon Taf wedi'u hymestyn yn dilyn gwrandawiad adolygu addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru.
Roedd amodau wedi'u gosod ar gofrestriad Rachel Halliday am 18 mis ym mis Gorffennaf 2019 ar ôl i banel addasrwydd i ymarfer ganfod ei bod wedi methu â chynnal neu gofnodi ymweliadau â phlant sy'n agored i niwed.
Hefyd, methodd Ms Halliday â chynnal, recordio neu gofnodi cyfarfod gofal a chymorth, cadwodd ffeiliau yn ei chartref am gyfnodau hir, cyfathrebodd â thad plentyn yn ei gofal ar ôl iddi gael ei hatal o'i rôl, a dileodd negeseuon o'i ffôn.
Mewn gwrandawiad adolygu a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2020, gwelwyd nad oedd Ms Halliday wedi bodloni'r amodau a osodwyd ar ei chofrestriad a bod hyn yn dal i amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer.
Clywyd achos Ms Halliday eto yr wythnos diwethaf, a chanfu'r panel nad oedd wedi bodloni'r holl amodau a osodwyd ar ei chofrestriad a bod amhariad o hyd ar ei haddasrwydd i ymarfer.
Er bod Ms Halliday wedi bodloni rhai o'r amodau, megis cwblhau sawl cwrs hyfforddi y cytunwyd arnynt, daeth y panel i'r casgliad nad oedd hi wedi bodloni pob un ohonynt eto, yn rhannol oherwydd pandemig Covid-19.
Felly, penderfynodd y panel ddiwygio'r amodau ac ymestyn yr amser sydd gan Ms Halliday i'w bodloni am 18 mis arall.
Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel wrth Ms Halliday: “Rydym yn rhannu pryderon y panel blaenorol nad ydych wedi cael y cyfle i ddangos eich addasrwydd i ymarfer drwy weithio dan oruchwyliaeth gyda budd yr hyfforddiant a gawsoch. Nid ydych wedi dychwelyd i'r gwaith yn ystod y cyfnod ers mis Gorffennaf 2019 ac nid ydych wedi bod mewn cyflogaeth a reoleiddir ers 2017.
“Rydym o'r farn bod y camymddwyn y gwnaethoch gyfaddef iddo yn ddifrifol ac nad oes digon o dystiolaeth o gamau i'w atal rhag digwydd eto. Credwn fod eich addasrwydd i ymarfer yn parhau heb ei brofi ac nad yw'r risgiau sy'n deillio o'ch camymddwyn wedi lleihau. Felly, rydym o’r farn bod amhariad ar eich addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.”
Parhaodd y panel: “Rydym wedi penderfynu ei bod yn angenrheidiol i ddiogelu'r cyhoedd ac er bydd y cyhoedd ein bod yn ymestyn y Gorchymyn Cofrestru Amodol gydag amodau diwygiedig.”
Roedd Ms Halliday yn bresennol yn y gwrandawiad adolygu undydd a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.