Jump to content
Adroddiad newydd yn amcangyfrif bod 82,875 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru
Newyddion

Adroddiad newydd yn amcangyfrif bod 82,875 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae 82,875 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ôl amcangyfrifon ein hadroddiad diweddaraf ar gyfansoddiad y gweithlu.

Casglon ni data ar gyfer Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol gyda chefnogaeth awdurdodau lleol a darparwyr a gomisiynwyd rhwng Medi a Thachwedd 2024.

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn rhoi darlun i ni o faint a nodweddion y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dyma'r pedwerydd tro i ni gasglu data am y gweithlu cyfan fel un ymarfer. Mae'n cynnwys data fel oedran, rhyw ac ethnigrwydd y gweithlu, yn ogystal â phethau fel faint o oriau maen nhw'n gweithio a pha fath o gontract maen nhw arno.

Eleni, fe wnaethon ni hefyd gasglu data am ofynion fisa'r gweithlu. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw un gasglu'r data hwn.

Crynodeb o'r canfyddiadau

Fe wnaeth ein casgliad ddarganfod:

  • mae 82,875 o bobl yn cael eu cyflogi yn y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ôl yr amcangyfrifon
  • mae menywod yn cyflawni 81.1 y cant o'r rolau, a dynion 18.9 y cant
  • gofal preswyl plant yw'r lleoliad gyda'r nifer uchaf o ddynion (30.5 y cant)
  • mae rolau gweithwyr gofal yn ffurfio mwy na hanner y gweithlu gofal cymdeithasol (50.8 y cant)
  • mewn awdurdodau lleol, mae ychydig dros hanner (51.2 y cant) o weithwyr yn 46 oed neu'n hŷn. Ymhlith y gwasanaethau a gomisiynwyd, mae 60.5 y cant o weithwyr yn iau na 46
  • mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn dod yn fwy amrywiol, gydag 8.9 y cant o'r gweithlu bellach yn dod o grŵp du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig
  • mae angen fisa gweithio ar 5.3 y cant o'r holl weithwyr gofal cymdeithasol i wneud eu gwaith
  • mae 87.2 y cant o'r gweithlu ar gontractau parhaol
  • roedd 5,346 o swyddi gwag ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2024, yn ôl yr amcangyfrifon.

Darllenwch yr adroddiad

Pam mae'r data rydyn ni'n ei gasglu yn bwysig

Y data rydyn ni’n ei gasglu ar gyfer yr adroddiad hwn yw'r unig ddata sy’n cael ei gasglu ar y gweithlu gofal cymdeithasol cyfan yng Nghymru. Oherwydd hyn, mae llawer o wahanol bobl a sefydliadau yn defnyddio'r adroddiad i lywio eu gwaith. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Llywodraethau Cymru a'r DU
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru ac awdurdodau lleol
  • rheoleiddwyr fel Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru
  • darparwyr gofal
  • ymchwilwyr
  • y cyfryngau
  • aelodau o'r cyhoedd.

Mae sicrhau bod gennym ni data o'r ansawdd uchaf i ddeall y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn hynod o bwysig. Heb ddata o ansawdd da, ni allwn ddeall yn iawn siâp a maint gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae hefyd yn ein helpu i gael gwell syniad o ble mae'r galw am ofal, ym mha fathau o ddarpariaeth, ac i gynllunio'n effeithiol ar gyfer y dyfodol.

Mae data o ansawdd da yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwell, yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyn yn golygu y gallwn helpu i ddarparu gwell gofal a chefnogaeth i bobl yng Nghymru a darparu gwell cefnogaeth i'r staff sy'n ei ddarparu.

Man and woman laughing

Gyda phob casgliad, rydyn ni’n parhau i ddysgu mwy am y wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu, yn cydnabod yr heriau sydd gan rai sefydliadau wrth ddarparu data, ac yn dechrau deall yr amrywiadau yn y data rydyn ni’n ei dderbyn.

Yn 2024, rydyn ni wedi gweld gostyngiad bach yn nifer y sefydliadau sydd wedi cyflwyno data i ni, ond cynnydd yn nifer y dychweliadau gan y lleoliadau unigol sy’n cael eu darparu gan y sefydliadau hynny. Mae cael mwy o fanylion fesul lleoliad yn hytrach nag ar lefel sefydliadol yn gadarnhaol, ond mae'n gwneud cymariaethau â data y llynedd yn anoddach.

Mae creu amcangyfrifon cywir o wir faint y gweithlu hefyd yn anodd gyda chyfradd ymateb isel. Ar gyfer 2024, dydyn ni ddim wedi gallu amcangyfrif cyfanswm nifer y bobl sy'n gweithio mewn gofal cartref gyda'r cywirdeb a'r hyder sydd eu hangen arnom. Mae hyn yn golygu ein bod wedi gorfod defnyddio data o ffynonellau eraill i amcangyfrif cyfanswm y nifer ar gyfer gofal cartref, ac i'n helpu i amcangyfrif cyfanswm y gweithlu cyffredinol.

Rydyn ni hefyd yn gwybod bod gofyn i ddarparwyr ddarparu data tebyg i'n casgliad data ein hunain ac i Ddatganiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Rydyn ni’n gweithio gyda AGC i archwilio sut y gallen ni leihau'r angen i ddarparwyr orfod casglu gwybodaeth debyg ddwywaith.

Casgliad data 2025

Bydd casgliad 2025 ar agor tan 28 Tachwedd. Ewch i'n tudalen casgliad data gweithlu i ddarganfod beth sydd angen i'ch sefydliad ei wneud.