Jump to content
Canllaw lleoliadau prentisiaid gofal cymdeithasol

ar gyfer cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefelau 2 a 3 oedolion a phobl ifanc

Mae’r canllaw hwn yn cynghori rheolwyr ynglŷn â sut i ddarparu’r gefnogaeth orau bosibl i’w prentisiaid mewn gweithle cynhwysol. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod prentisiaid yn cyrraedd eu potensial llawn.

Cyd-destun a chefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad i gynyddu argaeledd cyfleoedd prentisiaethau drwy Raglen Llywodraethu Llywodraeth Cymru 2021 i 2026.

Mae prentisiaethau yn gyfleoedd gwych i bobl ennill arian wrth ddysgu a chael profiad o weithio mewn lleoliad gwaith go iawn fel rhan o dîm.

Bydd y canllaw hwn yn cynorthwyo rheolwyr a staff presennol i gefnogi prentisiaid i uwchsgilio ac ennill cymwysterau a chyllid prentisiaethau.

Bydd hefyd yn cefnogi prentisiaid, cyflogwyr a darparwyr dysgu i gydweithio i gynllunio a chytuno ar raglen ddysgu sy’n cyflawni anghenion unigol y prentis, er mwyn gallu cwblhau tasgau asesu cymwysterau wrth i’r prentis ddatblygu a gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Gofynion cymhwyster ar gyfer prentisiaid

Gall y gofynion cymhwyster ar gyfer cyflogi prentisiaid newid o bryd i’w gilydd, ond dyma’r meini prawf presennol:

Yng Nghymru, gall unrhyw un dros 16 oed wneud cais am brentisiaeth ac elwa ar y cyfleoedd a gynigir, wrth weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Gall prentis fod yn brentis newydd a gyflogir ar gynllun prentisiaeth neu gyflogai presennol sy’n gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos.

Yr iaith Gymraeg a phrentisiaethau dwyieithog

Beth bynnag fo lefel y brentisiaeth, mae gan y prentis hawl i gwblhau’r rhaglen yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog.

Gall prentisiaid:

  • cwblhau cymwysterau Sgiliau Craidd, Ymarfer a Hanfodol yn eu dewis iaith
  • cyflawni cyfleoedd hyfforddiant yn eu dewis iaith
  • dysgu sgiliau iaith newydd a datblygu eu hiaith Gymraeg yn y gweithle.

Beth yw buddion prentisiaeth?

Buddion i’r prentis

Gall y prentis:

Gall y prentis:

  • cyfuno gweithio gydag astudio, i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n benodol i swyddi ym maes gofal cymdeithasol
  • cwblhau’r cymwysterau sydd eu hangen neu a argymhellir i weithio yn y sector gofal cymdeithasol
  • ennill cyflog a chael tâl gwyliau
  • gweithio ochr yn ochr â staff profiadol
  • hybu eu potensial i ennill arian
  • cael pecyn llawn o gymorth, beth bynnag yw eu hanghenion
  • cael cyfle i wneud cynnydd clir drwy’r lefelau prentisiaeth
  • cael boddhad personol ac ymdeimlad o gyflawniad.

Astudiaeth achos: Prentis

Mae’r prentis hwn wedi cwblhau dwy brentisiaeth benodol ar wahanol lefelau wrth gael eu cyflogi yn y sector gofal plant preswyl. Mae’n disgrifio sut y bu’n astudio wrth weithio, ennill sgiliau newydd wrth arwain sifftiau, a sut mae wedi datblygu ei yrfa.

‘Cwblheais brentisiaeth Lefel 3 yn gweithio fel gweithiwr gofal preswyl. Gofynnais a allwn arwain rhai sifftiau ac yna bûm yn llwyddiannus mewn cyfweliad ar ôl bod yn weithiwr gofal preswyl am ddwy flynedd a hanner. Rwyf wedi bod yn uwch weithiwr ers pedair blynedd eleni, ac rwyf hefyd wedi cwblhau fy mhrentisiaeth Lefel 5 wrth fod yn y rôl hon.’ - Jamie Morris

Gallwch gael gwybodaeth bellach ar wefan Llywodraeth Cymru, ‘prentisiaethau dewis doeth’.

Buddion i’r cyflogwr

Gall y cyflogwr:

  • recriwtio a datblygu prentis gyda sgiliau a gwybodaeth benodol ym maes gofal cymdeithasol
  • cyflogi prentisiaid sy’n cyfrannu at weithlu ymatebol, llawn cymhelliant, gyda phobl sy'n dysgu'r sgiliau allweddol a'r profiad sydd eu hangen ar y sefydliad
  • uwchsgilio cyflogai presennol
  • lleihau costau recriwtio, oherwydd gall hyfforddi prentisiaid fod yn fwy cost effeithiol na chyflogi staff sy’n meddu ar y sgiliau hyn eisoes (mae’r cyflogwr yn ysgwyddo rhai costau, gweler yr adran ar recriwtio prentis)
  • datblygu gwydnwch a gallu’r gweithlu, annog dysgu gydol oes a chreu llwybrau gyrfa
  • galluogi’r prentis i ddod yn weithiwr cofrestredig a phroffesiynol
  • helpu i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau drwy wneud yn siŵr bod y gweithlu wedi’u hyfforddi a’u cymhwyso i gyflawni anghenion y sector gofal cymdeithasol wrth iddynt newid.

Mae gwybodaeth bellach ar gael am fuddion recriwtio prentis ar wefan Llywodraeth Cymru.

Astudiaeth achos: Rhaglen prentisiaethau Cyngor Sir Ceredigion

Mae Lynne yn gofalu am y rhaglen prentisiaethau i Gyngor Sir Ceredigion, sy’n cwmpasu prentisiaethau traddodiadol yn ogystal ag uwchsgilio staff, er mwyn cyflwyno cyfleoedd newydd i’r cyngor.

Dywedodd Lynne: “Ein prif nod yw chwarae rhan yn creu cyfleoedd gyrfaoedd ystyrlon i bobl ifanc a’r rhai sydd eisiau newid gyrfa.

“Rydyn ni’n yn credu bod hyn yn cyflwyno talent newydd i’r gweithlu ac yn helpu pobl i aros yng Ngheredigion. Gallai ein prentisiaid fod yn rheolwyr y dyfodol, ac rydyn ni wir yn eu gwerthfawrogi ac yn cefnogi eu cynnydd yn y cyngor.”

Dysgwch fwy am raglen prentisiaethau cyngor sir Ceredigion ar wefan Gofalwn Cymru.

Cyfleoedd gwaith yn ystod prentisiaeth

  • Mae cyflogwyr yn awyddus i roi profiad dysgu da i brentisiaid, a allai gynnwys gweithio mewn gwahanol leoliadau a gwasanaethau yn ystod cyfnod y brentisiaeth.
  • Gellir ymgorffori’r dull gweithredu hwn mewn prentisiaeth ar yr amod nad oes unrhyw newid i’w statws cyflogedig.
  • Gall symud o amgylch gwahanol wasanaethau helpu’r prentis i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r gwahanol fathau o wasanaethau cymorth sydd ar gael, a gallai hyn ddylanwadu ar eu dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.
  • Mae asesiad yn rhan graidd o’r brentisiaeth a’r cymhwyster felly mae’n bwysig bod yr asesiad yn cael ei gynnal yn ystod rhan fwy sefydledig o leoliad. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ystyriaethau asesu yn yr adran ar y cymhwyster.

Astudiaeth achos: Cyfnod Sefydlu Academi Gofal Sir Gaerfyrddin (mae Caerfyrddin yn cyfeirio at eu prentisiaid fel hyfforddeion)

Mae gan y rhaglen gyfnod sefydlu rhwng chwech ac wyth mis, ac yn y cyfnod hwn mae’r hyfforddeion yn mynychu hyd at bedwar lleoliad ar draws y sector i brofi gwahanol feysydd Gofal.

Yn ystod eu lleoliadau mae’r hyfforddai’n cwblhau fframwaith sefydlu Cymru Gyfan, hyfforddiant a dysgu gorfodol ar gyfer y cymhwyster Craidd.

Ar ddiwedd y cyfnod chwech i wyth mis, bydd yr hyfforddai’n dewis maes o ddiddordeb ar ôl mynychu’r gwahanol leoliadau maen nhw wedi’u mynychu i gwblhau’r rhaglen brentisiaeth, cwblhau’r cymhwyster Craidd a dechrau eu cymhwyster ymarfer Lefel 2.

Rydyn ni wedi cyhoeddi dau ganllaw i gefnogi prentisiaid yn y gweithle:

Recriwtio prentis

Beth mae hyn yn ei gynnwys?

  • Gan gydweithio gyda darparwr hyfforddiant cymeradwy, bydd y cyflogwr yn gyfrifol am ddarparu a chynllunio’r amserlen hyfforddi i’r prentis, gan alluogi dull gweithredu pwrpasol sy’n benodol i fusnes.
  • Bydd y darparwr hyfforddiant yn rheoli prosesau cymhwyster, asesu a rhaglen y prentis.

Beth yw’r costau?

Cyflog y prentis a chost yr hyfforddiant ar gyfer y cymhwyster.

  • Mae’n rhaid i’r cyflogwr dalu cyflog i’r prentis a rhai costau ychwanegol, gan gynnwys amser rhyddhau ar gyfer hyfforddiant a chostau staff newydd.
  • Mae Llywodraeth Cymru’n talu’r rhan fwyaf o’r costau hyfforddi ar gyfer y cymhwyster (sgiliau Craidd, Ymarfer a hanfodol) drwy’r rhaglen brentisiaeth.

Gallwch gael canllawiau pellach ar gyllid a chymhwystra ar wefan Llywodraeth Cymru.

Astudiaeth achos: Prentis (Mae Sir Gaerfyrddin yn cyfeirio at eu prentisiaid fel hyfforddeion)

Daw’r enghraifft hon gan hyfforddai sy’n cwblhau ei brentisiaeth drwy raglen Academi Gofal Sir Gaerfyrddin wrth gael ei gyflogi mewn canolfan ddydd i bobl ag anableddau dysgu. Mae’n disgrifio’r broses recriwtio a’r cymhwyster mae’n ei ddilyn.

“Mae’r broses gwneud cais yn rhwydd iawn, roedd yn rhaid i ni wneud cais ar-lein ac yna derbyniais wahoddiad i ddiwrnod recriwtio sy’n debyg i ganolfan asesu. Rydych yn gwneud gweithgarwch grŵp; cyfweliad unigol a rhywfaint o ddysgu ar-lein. Ar ôl hynny derbyniais alwad ffôn ac e-bost yn dweud fy mod wedi cael y swydd – ac yna rydych i mewn.

Ar hyn o bryd, rwyf newydd gwblhau fy nghymhwyster Lefel 2 ac rwy’n parhau i fod yn hyfforddai ond rwy’n fwy cymwys yn awr ac rwyf wedi symud ymlaen i wneud fy lefel 3 mewn Gofal Oedolion. Rwy’n gallu gweithio yn y sector gofal fel gofalwr cymwys ac yna os wyf eisiau gallaf symud ymlaen i fod yn weithiwr cymdeithasol neu ddod yn rheolwr cartref gofal. Mae yna lawer o bethau gwahanol y gallwch eu gwneud.’ - DW

Astudiaeth achos: Costau prentisiaeth

Y Cynghorydd Jane Tremlett – Aelod cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Sir Gaerfyrddin.

“Os ydych yn chwilio am yrfa yn y sector gwaith neu ofal cymdeithasol, mae’r Academi Gofal yn galluogi i chi ennill cyflog wrth ddysgu a dewis y math o waith sy’n eich gweddu orau.

“Wrth i chi weithio, mae’r Cyngor yn talu eich cyflog, ac yn eich cefnogi, eich arwain a’ch hyfforddi. Telir am eich cymhwyster gyda’r cyllid prentisiaeth.”

Pa brentisiaethau sydd ar gael?

Mae prentisiaethau yng Nghymru ar gael i unrhyw un dros 16 oed, ac nid oes uchafswm oedran. Yn dibynnu ar lefel y brentisiaeth, gall gymryd rhwng un a phedair blynedd i’w cwblhau.

Mae pedair lefel o brentisiaeth yng Nghymru:

  • Sylfaen – mae’r rhaglen dysgu a datblygu sgiliau hon ar Lefel 2, i’r rhai sy’n gweithio mewn rôl cynorthwyydd gyda chymorth gan uwch gydweithwyr. Mae prentisiaethau Sylfaen yn dueddol o fod yn fyrrach, tua 12 i 18 mis o hyd
  • Prentisiaeth – mae’r rhaglen dysgu a datblygu sgiliau hon ar Lefel 3, i’r rhai sy’n gweithio gyda rhywfaint o ymreolaeth a allai fod â rhai cyfrifoldebau arweinyddiaeth ar lefel oruchwylio. Gallai gymryd 18 i 24 mis i gwblhau’r brentisiaeth hon
  • Uwch - mae’r rhaglen dysgu a datblygu sgiliau hon ar Lefel 4 ac uwch. Mae ar gyfer y rhai sy'n ddarpar uwch arweinwyr, neu sy’n arwain ac yn rheoli tîm, neu sy’n gweithio gyda lefel uchel o ymreolaeth ac a allai fod â chyfrifoldebau ariannol a/neu bobl. Gall prentisiaeth uwch gymryd 24 mis neu fwy i’w chwblhau
  • Gradd – mae’r rhaglen hon yn rhan amser ac mae’n cael ei darparu mewn partneriaeth â phrifysgolion a cholegau. Gall hyd y brentisiaeth hon amrywio yn ôl y rhaglen radd sy’n cael ei chwblhau.

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw brentisiaethau gradd gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar fframweithiau Sylfaen a Phrentisiaeth yng Nghymru.

Gallwch ganfod mwy am y lefelau a fframweithiau prentisiaeth yma:

Recriwtio prentis: canllawiau i gyflogwyr: Lefelau a fframweithiau prentisiaethau | LLYW.CYMRU

Beth sy’n rhan o brentisiaeth – y fframwaith prentisiaethau

Mae’r fframweithiau prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys y cymwysterau canlynol:

Cymhwyster gwybodaeth dechnegol – Craidd

Mae hyn yn asesu ac yn ategu’r ddamcaniaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer unedau penodol iechyd a gofal cymdeithasol 230/330/365 a rôl y swydd.

Cymhwyster cymhwysedd galwedigaethol – Ymarfer

Mae hyn yn asesu’r sgiliau sydd eu hangen i wneud y swydd iechyd a gofal cymdeithasol y mae’r prentis yn cael eu cyflogi i’w gwneud.

Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru

Mae hyn yn cynnwys:

  • rhifedd a chyfathrebu
  • sgiliau llythrennedd digidol os ydynt yn berthnasol i’r sector neu’r rolau swyddi.

Ar ôl recriwtio prentis, beth sy’n digwydd nesaf?

Mae’r siart llif isod yn dangos y broses o’r cam sefydlu a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, i ennill cymhwyster ac adnewyddu cofrestriad.

Bydd y broses hon yn berthnasol i brentisiaid sydd wedi’u cyflogi mewn gwasanaethau heb eu rheoleiddio.

Siart llif o'r broses i weithwyr gofal newydd
Siart llif i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol newydd

Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (AWIF)

Mae canllawiau statudol sy’n nodi’r disgwyliadau sefydlu ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig (rheoliad 36)

Deddf Rheoleiddio ac Archwilio Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Mae canllawiau statudol Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn nodi’r disgwyliadau sefydlu ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig (rheoliad 36). Mae’r canllawiau statudol (fersiwn 3 Mawrth 2024) yn nodi y bydd gweithwyr cymdeithasol yn cwblhau’r rhaglen sefydlu berthnasol sy’n ofynnol gan Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn yr amserlen ddiffiniedig yn ogystal ag unrhyw raglen sefydlu ar gyfer gwasanaeth penodol.

Mae fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n:

  • newydd i’r sector
  • newydd i’r sefydliad
  • wedi newid eu rôl swydd.

Mae’n cwmpasu’r egwyddorion a’r gwerthoedd, a’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr i gyflawni eu rôl yn gymwys ar y cam hwn o’u gyrfa.

Mae’r lefel o wybodaeth a dealltwriaeth y byddai cyflogwr yn ei disgwyl gan brentis ar lefel sefydlu yn wahanol i’r hyn a ddisgwylir pan fyddant wedi bod yn eu rôl am chwech neu 12 mis. Yn y cam sefydlu, cyflwynir y prentis i bynciau gofal cymdeithasol a byddant yn cael cymorth i feddwl sut mae’r pynciau hynny’n berthnasol i’w rôl nhw.

Mae fframwaith sefydlu Cymru gyfan yn adlewyrchu rhannau o’r cymhwyster Craidd. Mae hyn yn golygu bod prentisiaid newydd yn dechrau datblygu’r dysgu sydd eu hangen arnynt o’r diwrnod cyntaf.

Mae gan fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol saith adran, ac mae gan bob adran log cynnydd a gweithlyfr. Bydd y cyflogwr yn helpu a chynghori’r prentis ynglŷn â sut i gwblhau’r Fframwaith a’r adrannau sy’n berthnasol i’r rôl swydd.

Yr adrannau yw:

  • Adran 1 a 2: Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol
  • Adran 3 a 4: Iechyd a lles
  • Adran 5: Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
  • Adran 6: Diogelu unigolion
  • Adran 7: Iechyd a diogelwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Adrannau y mae angen i’r prentis eu cwblhau

Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru – asesiad cyflogwyr

Os bydd prentis sydd wedi’u gyflogi yn y sector gofal cymdeithasol yn darparu gofal a chymorth, mae’n ofyniad cyfreithiol iddyn nhw ymuno â’r Gofrestr broffesiynol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae gan ein gwefan wybodaeth a fideos am gofrestru.

Y rolau prentisiaeth y mae angen eu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yw:

  • gweithwyr gofal plant preswyl
  • gweithwyr gofal cartref
  • gweithwyr cartref gofal i oedolion
  • gweithwyr canolfan breswyl i deuluoedd

Bydd gan brentis yn un o’r rolau gofal cymdeithasol hyn chwe mis o ddyddiad dechrau eu cyflogaeth i gofrestru gyda ni. Bydd angen iddyn nhw gofrestru i ddechrau gan ddefnyddio’r asesiad cyflogwr ar gyfer y broses gweithiwr gofal cymdeithasol.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i weithwyr gofal cymdeithasol ddangos tystiolaeth o'u dealltwriaeth o wyth cymhwysedd fel rhan o'u cais i gofrestru. Gellir casglu'r dystiolaeth hon wrth wneud fframwaith sefydlu Cymru gyfan.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan am yr asesiad cyflogwr ar gyfer y llwybr gweithiwr gofal cymdeithasol.

Cymwysterau – Craidd ac Ymarfer

Y disgwyliadau o ran cymwysterau

Y cymhwyster Craidd

Sut mae’r cymhwyster yn cael ei asesu

Parodrwydd ar gyfer asesu’r cymhwyster Craidd

Y cymhwyster Ymarfer

Sut mae’r cymhwyster yn cael ei asesu

Paratoi ar gyfer asesiad o’r cymhwyster Ymarfer

Parodrwydd ar gyfer asesu’r cymhwyster Ymarfer

Sut y gall y rheolwr gefnogi’r prentis

Cam 1 – Cyn cyflenwi

Cam 2 – Dysgu

Cam 3 – Cyfnod asesu

Cam 4 – Cwblhau

Yr hyn a ddisgwylir gan y prentis, y cyflogwr a’r darparwr/aseswr dysgu

Y prentis

Y cyflogwr

Y darparwr /aseswr dysgu

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

Ar gyfer pob un o’r cymwysterau prentisiaeth, mae angen i’r prentis arddangos eu sgiliau cyfathrebu (llythrennedd) a chymhwyso rhif (rhifedd).

Mae Sgiliau Hanfodol yn golygu magu hyder a chymhwystra mewn sgiliau trosglwyddadwy gydol oes. Mae’r cymwysterau hyn yn gwneud yn siŵr bod gan y prentis y lefel gywir o lythrennedd, rhifedd ac mewn rhai amgylchiadau sgiliau llythrennedd digidol, ar gyfer y rôl maen nhw’n ei gwneud.

Mae’n rhaid i brentis allu cymhwyso sgiliau llythrennedd a rhifedd ymarferol mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn a chyd-destunau galwedigaethol perthnasol, er enghraifft, mewn iechyd a gofal cymdeithasol mae hyn yn golygu sut i rannu gwybodaeth yn effeithiol gydag ystod o wahanol bobl a sut i gofnodi gwybodaeth sy’n berthnasol i gynllun gofal a chymorth unigolyn.

Cynhelir asesiad cychwynnol Sgiliau Hanfodol ar ddechrau’r brentisiaeth er mwyn deall lefelau sgiliau hanfodol y prentis.

Mae’n rhaid i’r asesiad cychwynnol nodi dysgu blaenorol, gofynion dysgu presennol ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion cymorth eraill. Cofnodir hyn ar gynllun dysgu unigol y prentis. Mae’n helpu i deilwra’r dysgu, gan wneud yn siŵr bod y prentis yn datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol o safon uchel.

Os oes gan y prentis gymwysterau ar y lefelau derbyniol ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ni fydd angen iddynt gwblhau’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol. Os nad oes ganddynt gymwysterau yn un o’r pynciau neu’r ddau, bydd y prentis yn cael cymorth i gwblhau ei gymhwyster Sgiliau Hanfodol. Os gall y darparwr dysgu ddangos tystiolaeth o anghenion dysgu ychwanegol, gellir gwneud addasiadau rhesymol i gefnogi’r rhain.

Nid oes angen sgiliau llythrennedd digidol ar gyfer Lefelau Sylfaen neu Brentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac maen nhw’n ddewisol ar gyfer y brentisiaeth lefel Uwch.

Dyma’r Sgiliau Hanfodol sydd wedi’u cynnwys ym mhob fframwaith prentisiaeth:

Taith y prentis

Bydd hyd prentisiaeth yn amrywio yn ôl y lefel. Weithiau mae’n cymryd mwy o amser na’r disgwyl a chyfnod hwy na’r cyllid a ddyrannwyd ar ei gyfer.

Mae gan ddarparwyr hyfforddiant brosesau y mae'n rhaid iddynt eu dilyn os oes angen mwy o amser ar brentis i gwblhau ei raglen, neu os oes angen iddynt gael seibiant yn eu dysgu oherwydd rhesymau personol neu iechyd.

Mae’r cyflogwr a’r darparwr hyfforddiant cymeradwy yn rhannu’r cyfrifoldeb i gefnogi datblygiad gwybodaeth a sgiliau’r prentis ar hyd y brentisiaeth.

Cyflawnir y cyfrifoldeb hwn drwy ‘hyfforddiant yn y swydd ac i ffwrdd o’r swydd’.

  • Mae hyfforddiant yn y swydd yn hanfodol i lwyddiant prentis a bydd y cyflogwr yn darparu hyn. Mae pob fframwaith prentis yn datgan y nifer o oriau hyfforddiant y mae angen i’r prentis fod wedi’u cyflawni ar gyfer ‘hyfforddiant yn y swydd’. Gall yr hyfforddiant gynnwys hyfforddiant gorfodol, er enghraifft diogelu, iechyd a diogelwch a chymorth cyntaf, ond gall hefyd gynnwys cyrsiau byr eraill fel symud a gosod, meddyginiaeth, a/neu atal a rheoli heintiau.
  • Darperir oriau hyfforddiant i ffwrdd o’r swydd gan y darparwr hyfforddiant cymeradwy. Mae nifer yr oriau yn dueddol o fod yn llai na’r rhai sy’n cael eu darparu gan y cyflogwr ac maent yn dueddol o ganolbwyntio ar feysydd dysgu neu ddatblygu sgiliau newydd. Mae hyfforddiant i ffwrdd o’r swydd yn cynnwys unrhyw weithgarwch nad yw’n rhan o rôl y prentis o ddydd i ddydd sy’n cefnogi eu hyfforddiant prentisiaeth. Gall hyn gynnwys Sgiliau Hanfodol, ond gall hefyd gynnwys helpu’r prentis i fod yn fwy hyderus ynglŷn â’r agweddau mwy cymhleth o’u cymwysterau.

Dyma rai enghreifftiau o ddysgu i ffwrdd o’r swydd, sy’n ceisio ategu a gwella dysgu yn y swydd:

  • dysgu ffurfiol: mynychu gweithdai i ffwrdd o’r gweithle
  • e-ddysgu: mae cyrsiau ar-lein a llwyfannau dysgu digidol yn cynnig ffordd gyfleus o ddysgu. Gall hyn gynnwys gwylio fideos a argymhellir, cymryd rhan mewn gweminarau, neu gwblhau modiwlau rhyngweithiol
  • efelychiadau: mae ymarferion ffug neu weithgareddau hyfforddi yn galluogi prentisiaid i ymarfer sgiliau neu senarios penodol mewn amgylchedd diogel. Gallai hyn gynnwys cymorth cyntaf, codi a chario neu hyfforddiant ymddygiad cadarnhaol
  • digwyddiadau a gweithdai hyfforddiant: gallai’r rhain fod yn weithgareddau ymarferol, trafodaethau ac ymarferion ymarferol i ddwysáu dealltwriaeth o bynciau penodol. Gallai hyn gynnwys gweithdy am ddiogelu
  • hunanastudiaeth ac ymchwil: astudiaeth annibynnol, ymchwil, a darllen deunyddiau i gael mwy o wybodaeth neu sgiliau. Gall aseswr argymell darllen cyfnodolyn neu gyhoeddiadau, cynnal ymchwil ar bynciau penodol, neu baratoi adroddiadau
  • mentora a hyfforddi: derbyn arweiniad a hyfforddiant gan fentoriaid neu hyfforddwyr profiadol i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth neu fewnwelediadau penodol sy’n gysylltiedig â’u rôl
  • dysgu iaith: gallai dysgu i ffwrdd o’r swydd gynnwys cyrsiau iaith neu raglen trochi iaith i bobl sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg
  • myfyrio: annog myfyrio ar brofiadau neu gadw logiau myfyrio i ddwysáu dealltwriaeth o’r broses ddysgu a thwf personol.

Beth mae hyn yn ei olygu i’r prentis

Trafodir hyfforddiant yn y swydd ac i ffwrdd o’r swydd yng nghyfnod sefydlu’r cymhwyster gyda’r darparwr dysgu.

Isod mae enghreifftiau i ddangos yr oriau dysgu dan arweiniad ar gyfer dysgu yn y gwaith a dysgu i ffwrdd o’r gwaith, ond bydd hyn yn wahanol i bob prentis.

Lefel sylfaen: Cymhwyster gwybodaeth dechnegol

Lefel sylfaen: Cymhwyster cymhwystra galwedigaethol

Lefel sylfaen: Sgiliau Hanfodol

Lefel prentisiaeth: Cymhwyster gwybodaeth dechnegol

Lefel prentisiaeth: Cymhwyster cymhwystra galwedigaethol

Lefel prentisiaeth: Sgiliau Hanfodol

Mae City & Guilds yn diffinio oriau dysgu dan arweiniad a chyfanswm amser cymhwyster fel:

  • oriau dysgu wedi’u harwain yw’r nifer o oriau a argymhellir o amser astudio wedi’i arwain neu ei gyfeirio gan athrawon sydd eu hangen i addysgu uned neu gymhwyster
  • cyfanswm amser y cymhwyster yw’r cyfanswm o amser, mewn oriau, y disgwylir i’r prentis eu treulio yn cyflawni cymhwyster. Mae hyn yn cynnwys oriau dysgu wedi’u harwain (sydd wedi’u rhestru ar wahân) a’r oriau a dreulir yn paratoi, astudio ac asesu.

Mae gwahanol ofynion ar gyfer cyflawni’r cymhwyster sy’n ddibynnol ar yr unedau a ddewiswyd.

Gallwch weld pa brentisiaethau sydd ar gael a beth sy’n rhan o brentisiaeth – y fframwaith prentisiaethau.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Mae Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr dysgu wneud yn siŵr bod pob prentis newydd yn cael ei asesu naill ai cyn, neu yn syth ar ôl dechrau ar y dysgu.

Mae’n rhaid i asesiad cychwynnol nodi dysgu blaenorol, gofynion dysgu presennol ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion cymorth eraill (gan gynnwys anghenion sgiliau hanfodol gan ddefnyddio pecyn cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) y dylid eu cofnodi yng nghynllun dysgu unigol y prentis.

Fel rhan o’r broses asesu gychwynnol, rhaid i ddarparwyr dysgu drafod a oes gan y prentis anghenion dysgu ychwanegol, a dweud wrth y prentis pa gymorth sydd ar gael.

Os, yn ystod y broses asesu gychwynnol, y daw i sylw darparwr dysgu y gallai fod gan y prentis anghenion dysgu ychwanegol, mae’n rhaid i’r darparwr dysgu gymryd pob cam rhesymol i nodi anghenion y prentis, archwilio’r opsiynau sydd ar gael, a sicrhau unrhyw gymorth sydd ei angen.

Gallai cymorth anghenion dysgu ychwanegol amrywio o un darparwr dysgu i un arall. Ond, fel isafswm, gall y prentis ddisgwyl cymorth i nodi unrhyw anghenion dysgu ychwanegol. Neu, pan fydd diagnosis wedi’i wneud eisoes o angen dysgu ychwanegol, mae cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth a chyllid pellach.

Bydd y cymorth a roddir yn cael ei deilwra ar gyfer y prentis, yn ôl eu hanghenion unigol a’r adnoddau sydd ar gael i’r darparwr dysgu.

Nid oes mynediad at gyllid heb ddiagnosis o anghenion dysgu ychwanegol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am anghenion dysgu ychwanegol drwy siarad â’ch darparwr dysgu.

Mae rhagor o wybodaeth am anghenion dysgu ychwanegol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Astudiaeth achos: Cymorth dysgu ychwanegol gan aseswr ar gyfer prentis K

Mae K wedi derbyn eu hasesiad ffurfiol diweddar ar gyfer ADHD. Yn ystod gweithdai, mae K yn cymryd rhan mewn trafodaethau, ond rwyf wedi sylwi eu bod yn cael anhawster i ganolbwyntio ar dasgau. Arsylwyd bod K yn gwingo gyda gwrthrychau neu’n gwneud symudiadau gyda’u corff, er enghraifft tapio. Mae’n ymddangos bod K yn ‘breuddwydio’ ar adegau yn ystod y gweithdai ac yn synfyfyrio. Arsylwyd bod K yn anhrefnus ar adegau, sydd wedi arwain at fethu gweithdai neu apwyntiadau sydd wedi’u trefnu’r un amser.

Mae K yn gwneud cynnydd da gyda’u cymhwyster, ond mae rhwystrau wedi bod. Mae angen ailadrodd tasgau a gwybodaeth i K i’w helpu i’w prosesu ac rwyf wedi defnyddio tactegau i’w cefnogi. Nid yw K bob amser yn cyfathrebu gyda fi pan maen nhw’n cael anhawster, sy’n gallu ei gwneud yn anodd i fi ddeall eu hanghenion neu beth sy’n achosi anhawster iddyn nhw. I oresgyn y rhwystrau hyn, rydyn ni wedi defnyddio cymorth gan fy rheolwr i a rheolwr K, i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i wneud cynnydd gyda’r cymhwyster. Mae’n ymddangos bod K wedi goresgyn yr anawsterau a oedd ganddynt pan wnaethant ymuno â’r cwrs ac rwy’n parhau i’w cynorthwyo i’w gwblhau.

Dyma rai enghreifftiau o’r ffyrdd rwyf wedi cefnogi K:

  • annog K i feddwl beth allai eu cynorthwyo gyda’r cymhwyster hwn, ac adolygu’r cymorth hwn bob tro y byddwn yn cwrdd
  • annog K i godi a symud o gwmpas pan fyddant yn eistedd mewn gweithdai. Rydyn ni wedi’u hannog i ddweud wrthym os oes angen seibiant arnyn nhw oherwydd gall hyn eu helpu i ganolbwyntio
  • mae K yn defnyddio teganau gwingo, y maent yn cael eu hannog i’w defnyddio yn y gweithdy
  • rwy’n cyfathrebu’n glir gyda K ynglŷn â beth yw eu tasgau yn unigol, oherwydd mae hyn yn eu cynorthwyo i beidio cymysgu’r tasgau
  • darparu gofod i K sefyll eu hasesiad ar eu pen eu hunain, oherwydd eu bod wedi dweud y byddai hyn yn eu helpu i ganolbwyntio. Mae K a minnau’n gwneud yn siŵr bod yr ystafell yn addas ar eu cyfer, fe wnaethom edrych ar y cynllun, y goleuadau a thymheredd yr ystafell
  • rhoi cyfle i K brofi amodau’r asesiad mewn asesiad sampl. Roedd hyn yn galluogi K i ddeall yr amodau a rheolau goruchwylio’r asesiad
  • rwyf wedi cynllunio dyddiadau gyda K ymlaen llaw i’w cynorthwyo gyda gweddill y cymhwyster. Rydym wedi trefnu sesiynau cymorth ar gyfer eu gwaith ysgrifennu myfyriol, gan rannu’r tasgau yn dasgau llai i’w cynorthwyo i’w gwblhau a chanolbwyntio ar y dasg dan sylw
  • mae K yn mynychu’r swyddfa os byddant yn teimlo bod angen mwy o gymorth arnynt i gwblhau eu gwaith, oherwydd gall hyn gefnogi cymhelliant.

Cofrestru ar gyfer rhaglen brentisiaeth

Mae darparwyr dysgu hefyd yn galw’r broses hon yn ‘recriwtio’. Mae’r broses recriwtio hon yn wahanol i gyflogwyr yn recriwtio prentisiaid ar gyfer swydd, oherwydd mae hyn yn recriwtio ar gyfer y cymhwyster. Mae sawl rhan i’r broses, sy’n cael eu disgrifio isod.

Asesiad cyn-cofrestru

Cyn cofrestru ar gyfer y cymhwyster, mae’r darparwr dysgu, ar y cyd â’r prentis a’r rheolwr, yn ystyried unrhyw beth a allai effeithio ar gwblhau’r cymhwyster. Maent yn nodi mesurau cefnogol y gellir eu rhoi ar waith i er mwyn cynorthwyo’r prentis i gwblhau’r cymhwyster.

Byddant yn nodi:

  • a yw’r prentis yn cyflawni gofynion y cymhwyster a’u bod yn y rôl swydd gywir ar gyfer y cymhwyster maent wedi’u cyflwyno ar eu cyfer
  • a oes gan y prentis anghenion dysgu ychwanegol ai peidio. Os oes gofyniad o angen dysgu ychwanegol ar waith, mae angen i’r darparwr dysgu nodi’r cyllid gofynnol.

Os bydd y darparwr dysgu yn nodi, drwy gydweithredu a thrafodaeth gyda’r prentis, bod ganddynt ofynion angen dysgu ychwanegol, mae angen i’r darparwr dysgu gyfeirio’r prentis at y tîm anghenion dysgu ychwanegol, neu i gorff allanol os nad oes ganddynt dîm mewnol.

Bydd y darparwr dysgu yn gwirio bod gan y prentis ddirprwyon cymhwyso rhif a chyfathrebu ar gyfer gofynion Sgiliau Hanfodol Cymru. Os na fyddant, byddant yn cael eu cofrestru ar gymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru.

Y broses gofrestru

Bydd y darparwr dysgu yn cofrestru’r prentis ar y rhaglen gymhwyster briodol gan ddefnyddio gwaith papur prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Bydd y darparwr dysgu a’r prentis yn llofnodi cytundeb dysgu.

Mae pob darparwr dysgu’n gweithio o fewn amserlen i gyflawni gofynion eu contract gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid iddynt drefnu contract prentis gyda phob prentis a chwblhau cynllun dysgu unigol (ILP).

Cytundeb dysgu prentisiaeth (ALA)

Ar ddechrau’r rhaglen, mae’n rhaid i brentis gael Cytundeb Dysgu Prentisiaeth, sy’n nodi yn ysgrifenedig eu telerau ac amodau dysgu gyda’r darparwr dysgu a chyflogwr.

Mae’r cytundeb dysgu prentisiaeth yn cynnwys ymrwymiadau sy’n ofynnol o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009. Rhaid dweud wrthynt am unrhyw newidiadau i delerau ac amodau dysgu.

Mae’n rhaid bod gan y prentis gynllun dysgu unigol hefyd. Mae dolenni isod i’r cytundeb dysgu prentisiaeth:

Sganio sgiliau

Asesiad cychwynnol

Cyfarfod gwirio cychwynnol

Sefydlu

Asesiad ac adolygiadau cynnydd

Adnoddau defnyddiol eraill

Ysgrifennwyd y canllawiau hyn mewn partneriaeth â chydweithwyr o'r sector addysg bellach, y corff dyfarnu City & Guilds, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr lleol. Mae'r grwpiau i gyd yn ymwneud â chyflwyno rhaglen brentisiaeth.

Mae cyflogwyr eisiau rhoi profiad dysgu da i brentisiaid a gallai hyn gynnwys gweithio mewn gwahanol leoliadau a gwasanaethau yn ystod cyfnod y brentisiaeth. Bydd y canllawiau hyn yn cefnogi prentisiaid, cyflogwyr a darparwyr dysgu i gynllunio a chytuno ar y rhaglen fel y gellir cwblhau tasgau asesu’r cymhwyster wrth i’r prentis ddatblygu a gwella ei wybodaeth a’i sgiliau.

Y sefydliadau sydd wedi ein cynorthwyo gyda’r canllaw hwn yw:

  • ACT Training
  • Cyngor Sir Gaerfyrddin
  • Cartref Ni
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • City & Guilds
  • Coleg Cambria
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Pengwin
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
  • Coleg Sir Benfro
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Cyngor Sir Fynwy
  • Gofalwn Cymru
Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Mehefin 2024
Diweddariad olaf: 24 Hydref 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (129.2 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch