Skip to main content
Hygyrchedd y safle

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19
Beth yw taliadau uniongyrchol?

Dysgwch fwy am beth ydy taliadau uniongyrchol, yr hyn y gallwch chi ei gyflawni gyda nhw, a sut y gallwch pobl eu defnyddio nhw

Cyflwyniad i daliadau uniongyrchol

Mae taliadau uniongyrchol yn ffordd y gall awdurdodau lleol helpu i ddiwallu angen cymwys penodol sydd gan unigolion am ofal a chymorth, neu angen sydd gan ofalwr am gymorth.

Maen nhw’n ffordd o alluogi pobl i drefnu eu gofal a’u cymorth eu hunain.

Nid yw taliadau uniongyrchol yn fath o incwm ond fe’u telir yn benodol ar gyfer prynu gwasanaethau neu offer.

Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n effeithio ar dreth incwm neu hawl i fudd-dal.

Nod taliadau uniongyrchol yw rhoi rhagor o ddewis, rheolaeth ac annibyniaeth i bobl.

Gall unigolion weithio gyda’r awdurdod lleol i benderfynu sut y bydd eu hanghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol.

Gallan nhw benderfynu pwy sy’n darparu’r cymorth hwnnw a sut, ble a phryd y caiff ei gyflenwi.

Beth mae deddfwriaeth Cymru yn ei ddweud am daliadau uniongyrchol?

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn sail i’r defnydd o daliadau uniongyrchol.

Mae pedair egwyddor allweddol i’r Ddeddf hon:

  • Llais a rheolaeth – rhoi’r unigolyn a’u hanghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais a rheolaeth iddyn nhw er mwyn cyrraedd y canlyniadau sy’n creu lles.
  • Atal ac ymyrryd yn gynnar – cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn cymunedau er mwyn lleihau’r dirywiad i anghenion brys
  • Lles – cynorthwyo pobl i greu eu lles eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth.
  • Cydgynhyrchu – annog unigolion i gymryd mwy o ran mewn cynllunio a chyflenwi cynlluniau cymorth yn ogystal â pholisi ehangach neu ddatblygiad gwasanaethau.

Yn ôl Côd Ymarfer (Rhan 4 - Diwallu Anghenion) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rhaid i awdurdodau lleol ystyried taliadau uniongyrchol fel rhan annatod o ddiwallu anghenion pobl trwy gynllunio gofal a chymorth a rhaid iddyn nhw beidio â’u gweld fel ystyriaeth eilaidd, ar wahân.

Pwy sy’n gallu derbyn taliadau uniongyrchol?

Mae taliadau uniongyrchol yn addas ar gyfer ystod eang o bobl yr aseswyd eu bod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys:

  • Oedolion o unrhyw oedran sydd ag angen cymwys am ofal a chymorth
  • Gofalwyr sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd angen cymorth
  • Pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl

Ni ellir gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofal iechyd unigolyn yn unig, oni bai bod hyn yn sgil gwneud rhywbeth arall i ddiwallu eu hanghenion.

Ceir rhai achosion lle na fydd unigolyn yn gymwys i dderbyn taliadau uniongyrchol, megis pobl sydd â gorchymyn llys yn ymwneud â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.

Penodi ‘person addas’ i weithredu ar ran unigolyn sydd â diffyg galluedd

Os yw person eisiau derbyn taliadau uniongyrchol ond nad oes ganddo’r galluedd i gydsynio yn unol â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (Saesneg yn unig), gellir penodi ‘person addas’ i dderbyn y taliadau uniongyrchol ar ei ran.

Os yw’r awdurdod lleol yn credu bod y person addas yn gweithredu er lles pennaf yr unigolyn, mae’n rhaid iddynt dalu’r taliadau uniongyrchol i’r person hwnnw.

Mae’n rhaid i’r person addas fod yn barod ac yn abl i reoli’r taliadau uniongyrchol (ar eu pen eu hunain neu gyda chefnogaeth).

Mae’n ofynnol iddynt hefyd ddeall eu cyfrifoldebau o ran gwneud trefniadau i ddarparu gofal a chefnogaeth.

Fel arfer, bydd y person addas yn ffrind agos neu’n aelod o’r teulu a bydd eisoes yn rhan o ofal a chefnogaeth yr unigolyn.

Beth bynnag yw’r berthynas rhyngddynt, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi blaenoriaeth bob amser i les pennaf y person sydd â diffyg galluedd, cyn ystyried unrhyw beth arall.

Caiff personau addas eu penodi yn nhrefn y blaenoriaethau hyn :

• rhywun sydd wedi cael atwrneiaeth arhosol (LPA) (ond nid LPA ariannol yn unig)

• rhywun sydd wedi eu penodi’n ddirprwy i’r unigolyn sy’n derbyn gofal a chefnogaeth gan y Llys Gwarchod o dan Adran 16 Deddf Galluedd Meddyliol 2005

• rhywun y mae’r awdurdod lleol ei hun yn cytuno sy’n addas i weithredu fel person addas

• rhywun sy’n cynnig gweithredu fel person addas os yw’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn gweithredu er lles pennaf y person sydd â diffyg galluedd

• rhywun sy’n cael ei gyflogi gan sefydliad neu drydydd parti a benodwyd gan yr awdurdod lleol i weithredu fel person addas.

Mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol sicrhau bod y person addas yn deall yn union beth sy’n rhaid ei wneud wrth reoli taliadau uniongyrchol.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynnig gwybodaeth a chefnogaeth i gyflawni hyn.

Yn yr un modd ag y mae unigolyn sy’n derbyn taliadau uniongyrchol ei hun yn gallu derbyn cymorth, gall y person addas dderbyn cymorth i’w helpu i reoli’r taliadau uniongyrchol.

Mae Rhan 4 Cod Ymarfer y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cynnwys rhan ar ‘bersonau addas’.

Sut mae pobl yn derbyn taliadau uniongyrchol?

Bydd ymarferydd megis gweithiwr cymdeithasol yn cael sgwrs â’r person neu’r gofalwr am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, ac am eu cryfderau a’u hanghenion.

Gelwir hon yn sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ ac mae'n rhan o asesiad ynghylch p’un ai oes gan berson anghenion sy’n gymwys i gael gofal a chymorth gan yr awdurdod lleol.

Mae gan unigolion hawl i gael cymorth gan eiriolwr annibynnol proffesiynol i’w helpu i gymryd rhan lawn yn y broses asesu.

Os oes gan yr unigolyn anghenion cymwys, dylen nhw weithio gyda’r ymarferydd i ddatblygu cynllun gofal a chymorth.

Dylai’r ymarferydd drafod taliadau uniongyrchol fel opsiwn a thrafod sut y gallan nhw weithio i’r unigolyn neu’r gofalwr.

Os yw unigolyn yn dewis derbyn taliadau uniongyrchol, byddan nhw’n cytuno â’u hawdurdod lleol sut y caiff yr arian ei ddefnyddio i ddiwallu eu hanghenion a aseswyd.

Dylai’r ymarferydd adolygu’r pecyn cymorth gyda’r unigolyn i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio neu p’un ai oes angen newidiadau iddo.

Ddylai’r adolygiad ddim fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl yr asesiad cychwynnol, a heb fod yn hwyrach na 12 mis yn dilyn yr adolygiad cyntaf.

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella Taliadau uniongyrchol: Canllaw drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.